Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae dysgu iaith yn rhoi mwy nag un ffenestr i edrych ar y byd. Heb os, mae’r ddihareb Tsieineaidd hon yn taro tant i ni yma yn Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed lle rydym yn croesawu dysgu iaith fel Ysgol Gynradd Amlieithog Arweiniol.

Gan ein bod yn gweithio yng nghymoedd y De mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf, mae gennym ddysgwyr nad ydynt efallai wedi ymweld â Chaerdydd, heb sôn am Loegr neu du hwnt; Felly, teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnom i ddarparu profiadau dysgu sy’n dod â’r byd i’n dysgwyr. Y Datganiad Yr Hyn Sy’n Bwysig 1 ‘Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd’ o’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw ein mantra i raddau helaeth iawn; i wreiddio hunaniaeth greadigol a balch sy’n croesawu amrywiaeth yn ein hysgol.
Rhan annatod o’n darpariaeth Ieithoedd Rhyngwladol oedd sicrhau yn gyntaf bod gan ein dysgwyr ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth Gymreig a balchder yn eu cymuned. Fel rhan o gwestiwn yr ymholiad: Pwy ti’n feddwl wyt ti? mae dysgwyr yn dysgu ei fod ymhell o fod yn gwestiwn syml gan fod yn rhaid iddyn nhw ymrafael o ddifrif â’u dealltwriaeth o hunaniaeth. Yn yr ymholiad hwn, mae dysgwyr yn mynd allan i’w bro ac yn edrych ar ddata’r cyfrifiad, mapiau a ffotograffau er mwyn rhoi dealltwriaeth dda iddynt o ble maen nhw’n byw nawr ac yn y gorffennol. Rydym yn ceisio cynnig ffyrdd ystyrlon i ddysgwyr archwilio pynciau fel ymfudo, hiraeth a chynefin hefyd. Trwy ddysgu am eu treftadaeth a’u cymuned bresennol, mae dysgwyr yn ceisio gwneud synnwyr o bwy ydyn nhw a’u lle yn y byd.
Gwyddom fod meithrin ymdeimlad o falchder yn nhreftadaeth ein dysgwyr, boed yr un fath neu’n wahanol i’w cyfoedion, yn bwysig. Wrth gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol, felly, roeddem yn gwybod bod angen darlun clir o gymuned ein hysgol fel y gallai cyflawni ein cwricwlwm ddathlu ac adlewyrchu ein teuluoedd. Un o’r pethau cyntaf wnaethon ni oedd archwilio ein poblogaeth ysgol i ddarganfod yr amrywiaeth o ieithoedd sy’n cael eu siarad ac estyn allan i deuluoedd yn ein cymuned i rannu eu hunaniaeth ddiwylliannol gyda ni. Fe wnaethom ddarganfod amryw o ieithoedd a siaredir yn y cartrefi: Tyrceg, Pwyleg, Tsieinëeg, Groeg a Sinhaleg ac roeddem yn falch iawn o glywed gan rieni a brodyr a chwiorydd hŷn a oedd yn cynnig addysgu patrymau iaith a gwelsom gyflwyniadau am eu diwylliant a rannwyd mewn gwasanaethau dosbarth. Mae gennym gynorthwyydd dysgu o Lithwania ac un arall o Ynysoedd Philippines, sy’n cyfoethogi dysgu mewn ffordd debyg wrth iddynt rannu agweddau ar eu hiaith a’u diwylliant gyda’r ysgol.

Er mwyn meithrin capasiti yn ein darpariaeth, rydym yn gwybod pa aelodau o staff sydd â chymwysterau uwch mewn Ieithoedd hefyd. Mae ein Pennaeth, sy’n ieithydd ei hun, yn gwneud yn siŵr ei bod yn ymweld â dosbarthiadau i ddweud, “Bore da, blant”, “Bonjour les enfants”, “Buongiorno bambini”, “Guten Morgen, Kinder” sy’n atgyfnerthu ynganiad cywir a chysondeb drwy’r ysgol. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddarparu Y Datganiad Yr Hyn Sy’n Bwysig 1 (WM1); ac yn barod i roi cynnig ar bethau, gan ofyn am gymorth gan arbenigwyr lle bo angen. Mae gennym staff sydd wedi cwblhau cyrsiau Prifysgol Agored i ddatblygu eu Ffrangeg ac mae ein holl gynorthwywyr addysgu wedi cwblhau hyfforddiant yn y Gymraeg ac wedi defnyddio apiau iaith fel rhan o’u dysgu proffesiynol yn ystod y cyfnod clo.
Nid yw cyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol wedi teimlo fel newid mawr i ni yn ein hymarfer. Gyda dros 70% o ddisgyblion yn mynd i’r Dosbarth Meithrin gyda sgiliau cyfathrebu islaw’r rhai a fynegir yn y camau Cynnydd, rydym wedi rhoi pwyslais mawr erioed ar gaffael iaith. Mae ein hymarfer Blynyddoedd Cynnar yn llawn stori a chân sy’n paratoi clust, llais ac ymennydd ein dysgwyr ar gyfer iaith ac mae’r dull hwn o ddysgu iaith wedi bod yn gaffaeliad mawr i ni wrth weithredu cwricwlwm amlieithog. Rydym yn adeiladu ar ein hymarfer presennol, gan ddysgu geirfa allweddol mewn ieithoedd eraill drwy ganeuon a gemau ac rydym wedi gweld bod ein disgyblion wrth eu boddau yn rhoi cynnig ar eiriau newydd ac yn cael hwyl wrth ddysgu iaith. Gan fod yr ysgol Uwchradd rydym yn ei bwydo yn cynnig Ffrangeg, rydym wedi penderfynu mabwysiadu Ffrangeg ledled yr ysgol a sicrhau bod gennym gynnydd clir yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae’n bwysig i ni nad yw plant yn dysgu ieithoedd fel gwersi ar wahân ond fel rhan o brofiad dysgu cyfoethog.
Mae’n bwysig datgan yma, fodd bynnag, nad ydym yn cyfyngu ein hunain i ddysgu Ffrangeg yn unig, gan ein bod yn gwybod bod dysgu iaith yn llawer mwy ystyrlon pan gaiff ei rhoi yn ei chyd-destun. Felly, os yw ein thema’n cefnogi iaith arall neu os oes digwyddiad o bwys, rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod yn addasu ein cynllunio ac yn archwilio’r iaith honno a’r diwylliant hwnnw.

Fel gyda phopeth a wnawn, rydyn ni’n gweld bod y syniadau gorau yn dod gan ein dysgwyr felly roedd hi’n ymddangos y dylem roi’r cyfle iddyn nhw lywio’r agenda ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol. Felly, sefydlon ni grŵp Llais Disgyblion o Lysgenhadon Iaith yn cynnwys disgyblion o Flynyddoedd 4-6. Maent yn grŵp rhagweithiol iawn y mae eu syniadau’n ffurfio’r cynllun gweithredu sydd ar waith gennym am y flwyddyn, ac yna maen nhw yn eu tro’n ei adolygu yn ystod eu cyfarfodydd wythnosol. Maent wedi bod yn llwyddiannus iawn yn codi proffil Ieithoedd Rhyngwladol, gan greu brwdfrydedd dros ddysgu iaith drwy bosteri, cystadlaethau a gemau ar fuarth yr ysgol. Yn wir, roedd ganddyn nhw gymaint o gyfoeth o syniadau nes i ni benderfynu bod angen rhoi llwyfan mwy iddyn nhw a dyna sut wnaethon ni gynnig y syniad o gael wythnos Ieithoedd Rhyngwladol yn Nhymor yr Haf.
Am yr un wythnos honno yn Nhymor yr Haf, cafodd pob ystafell ddosbarth ei thrawsnewid ac roedd dysgwyr wedi’u trochi’n llwyr yn iaith a diwylliant gwlad wahanol, a oedd yn help mawr i wireddu ein gweledigaeth o ddod â’r byd i Santes Gwladys. Penderfynwyd ar y gwledydd, yn dibynnu ar y cysylltiadau oedd gan yr athrawon a’r disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn. Er enghraifft, bu Blwyddyn 6 yn “hedfan” i Ffrainc a bu’r athro o’r ysgol gyfun yn gweithio gyda dysgwyr gan roi cyfle pontio da. Cynhaliodd Blwyddyn 6 alwad fideo hefyd gyda’n hawdur cyswllt sy’n byw yn Llydaw gan drafod sut beth oedd bywyd yn Ffrainc a’r tebygrwydd rhwng Llydaweg a Chymraeg. Roedd gan Flwyddyn 4 gysylltiad ag ysgol yng Nghyprus a rhiant oedd yn siarad Groeg, felly roedden nhw’n canolbwyntio ar y gwledydd hynny. Hefyd, fe wnaethom estyn allan at Llwybrau at Ieithoedd Cymru a anfonodd fyfyrwyr iaith i weithio gyda dosbarthiadau a chyfnewid syniadau gyda’n Llysgenhadon Iaith.

Yn ystod yr wythnos, roedd yn bwysig i ni drochi dysgwyr yn eu gwlad ffocws, gan fod yn ymwybodol hefyd o geisio osgoi stereoteipiau. Estynnwyd allan at ddarparwyr allanol hefyd i gyfoethogi ein profiadau dysgu: uchafbwynt oedd pan ddaeth offeiriades Hindŵaidd sy’n byw yng Nghaerdydd, i dreulio’r diwrnod gyda Blwyddyn 3 gan eu trochi yn niwylliant India, ac actio priodas Hindŵaidd gyda’r plant i’w rhieni ei gweld hyd yn oed. Roedd pob dosbarth yn croesawu rhieni i’r dosbarth yn ystod yr wythnos a chawsom adborth cadarnhaol iawn gan rieni oedd yn mwynhau gweld y dysgwyr mor frwdfrydig am eu dysgu.
Mae cynnwys yr holl randdeiliaid wedi bod yn hollbwysig wrth ddatblygu ein cwricwlwm ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol. Canlyniad da arall i ni fu gweithio gyda’n hysgolion clwstwr i ddatblygu cynllun gwaith ar gyfer dysgu iaith yn seiliedig ar ‘La chenille qui fait des trous” – y fersiwn Ffrangeg o The Very Hungry Caterpillar gan Eric Carle. Dewiswyd y llyfr hwn gan ei fod yn gyfarwydd ac yn hygyrch i ddisgyblion gan gynnig cyfle i ddysgu geirfa sylfaenol fel dyddiau, bwyd a rhifau. Ar gyfer disgyblion hŷn, roedd y cynllun gwaith yn cynnig cyfle iddyn nhw addasu’r stori hefyd ac yna ei darllen gyda dysgwyr iau yn yr ysgol. Ein nod oedd rhoi adnodd i athrawon er mwyn eu rhoi ar ben ffordd wrth addysgu iaith er mwyn iddynt roi cynnig arni heb deimlo eu bod yn gorfod cynllunio a darparu adnoddau ar gyfer eu gwersi. Fel Arweinwyr Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, roeddem yn ymwybodol y gallai rhai aelodau staff deimlo ei fod yn rhywbeth arall i’w ychwanegu at amserlen sydd eisoes yn brysur iawn.
Rydym yn cydnabod ein bod ar daith gydag Ieithoedd Rhyngwladol a bod gennym lawer o waith i’w wneud o hyd; ond mae’n daith rydyn ni’n ei mwynhau, heb os. Rydyn ni wrth ein bodd â’r creadigrwydd mae dysgu am iaith a diwylliant yn ei ddarparu a’r ffenestri i’r byd y gall eu hagor i’n dysgwyr.
Sarah Kaveney, Arweinydd Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Ysgol Gynradd Santes Gwladys, Bargod