Neidio i'r prif gynnwy

Deng mlynedd o Seren: agor drysau i ddysgwyr mwyaf disglair Cymru

Read this post in English

Ar ddiwedd 2025, dathlodd Academi Seren 10 mlynedd o agor drysau i ddysgwyr mwyaf disglair Cymru, gan eu helpu i gydnabod eu potensial, magu hyder a dilyn dyfodol uchelgeisiol.

Mae Seren wedi tyfu ledled Cymru i fod yn rhaglen sy’n canolbwyntio ar y dysgwr sy’n hyrwyddo dyheadau, yn meithrin rhagoriaeth ac yn creu cyfleoedd ystyrlon sy’n newid bywydau. Nawr, gyda buddsoddiad blynyddol o £2.5 miliwn, mae Seren yn darparu cynnig wedi’i deilwra sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cefnogi tua 24,000 o ddysgwyr bob blwyddyn, o Flwyddyn 8 hyd at Flwyddyn 13. Mae’r cynnig yn unigryw ymhlith gwledydd y DU, gan ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr o’r fath waeth ble maent yn byw neu eu cefndir. 

Uchelgais heb rwystrau

Un o agweddau mwyaf pwerus Seren yw’r amrywiaeth o ddysgwyr y mae’n eu cefnogi.  Rydym yn parhau i gael ein hysbrydoli gan ddysgwyr sydd y cyntaf yn eu teulu i ystyried addysg uwch. Dysgwyr fel Louisa, un o raddedigion Seren, a wnaeth lwyddo gyda chefnogaeth Seren, yn enwedig y profiadau preswyl y mae’n eu disgrifio fel “trobwynt” iddi, i wireddu uchelgais ei phlentyndod o astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Mae dysgwyr yn dweud wrthym yn gyson bod Seren yn drawsnewidiol.  Maent yn disgrifio sut mae’r rhaglen wedi eu helpu i fagu’r hyder, datblygu gwytnwch a theimlo’n rhan o gymuned gefnogol o gyfoedion o’r un anian.

Disgrifiwyd Seren fel y pwynt lle mae uchelgais yn dod yn gyraeddadwy, lle mae dysgwyr yn symud o ansicrwydd i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol. Y tu hwnt i her academaidd, mentora a chyfoethogi, mae Seren wedi helpu i adeiladu’r hunangred, y gwytnwch a’r ymdeimlad cryf o berthyn sydd ei angen ar ddysgwyr i osod nodau uchelgeisiol a gweithio tuag atynt.  Ym marn Joel, un o raddedigion eraill Seren, roedd y gefnogaeth a roddodd Seren iddo yn amhrisiadwy ac wedi’i ysbrydoli a’i gefnogi i wneud cais i Brifysgol Rhydychen. Mae llawer o ddysgwyr wedi dweud wrthym fod y cymorth gyda datganiadau personol, profion derbyn a chyfweliadau, ynghyd â’r cyfle i siarad yn uniongyrchol ag academyddion a myfyrwyr presennol, wedi rhoi’r hyder iddynt wneud cais. 

Partneriaethau cryf, effaith ehangach

Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd llwyddiant Seren. Trwy gydweithio’n agos â phrifysgolion yng Nghymru, ar draws y DU ac yn rhyngwladol, mae Seren wedi datblygu dealltwriaeth gref o’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer y cyrsiau mwyaf cystadleuol, sy’n rhinweddau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i gyrhaeddiad academaidd.

Mae ein partneriaid yn pwysleisio’n gyson werth Seren fel llais clir, cenedlaethol i ddysgwyr disgleiriaf Cymru. Mae Seren yn darparu llwybr dibynadwy i brifysgolion a sefydliadau ymgysylltu â dysgwyr, darparu canllawiau wedi’u teilwra a chynnig cyfleoedd sy’n adlewyrchu eu harbenigedd.

Yn ddiweddar, mae swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr o bob prifysgol yng Nghymru i sicrhau bod cynnig Seren yn adlewyrchu’n llawn ehangder ac ansawdd y cyfleoedd sydd ar gael yma, gan gynnwys astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd mentrau newydd, fel Diwrnodau Darganfod Seren ar gyfer Blwyddyn 10 a gynhelir yr haf hwn, yn helpu dysgwyr i archwilio’r opsiynau hyn yn gynnar ac yn hyderus.

Edrych i’r dyfodol

Rydym nawr yn dechrau pennod newydd i Seren. Mae’r rhaglen yn parhau i esblygu mewn ymateb i’r hyn y mae dysgwyr, athrawon a phartneriaid yn dweud wrthym sy’n gweithio orau.  Mae model cyflenwi gwell wedi’i gyflwyno i gryfhau cysondeb a hygyrchedd ledled Cymru ac mae llwybrau newydd, gan gynnwys llwybrau i radd-brentisiaethau, yn cael eu harchwilio i sicrhau y gellir anelu at ragoriaeth trwy lwybrau gwahanol sydd yr un mor uchelgeisiol.

Mae cenhadaeth Seren yn parhau i fod yn glir: dileu rhwystrau, ehangu gorwelion ac ysbrydoli uchelgais ymhlith arweinwyr, arloeswyr a datryswyr problemau Cymru yn y dyfodol. Gan adeiladu ar ddegawd cryf o lwyddiant, bydd Seren yn parhau i fod yn gynhwysol, yn uchelgeisiol ac yn ymatebol, gan agor drysau, meithrin talent a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr Seren i ddisgleirio.

Ceir rhagor o wybodaeth am raglen Seren yn Seren – Hwb

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading