Neidio i'r prif gynnwy

Cryfhau’r defnydd o ddata i gefnogi dysgu a gwella yng Nghymru 

Read this post in English

Mae data’n offeryn pwerus ar gyfer llywio addysg. Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi gwaith gwerthuso, gwella ac atebolrwydd mewn ffyrdd sydd o fudd gwirioneddol i ddysgwyr. 

Rydym yn ail-lunio’r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu am yr hyn sy’n digwydd mewn ysgolion. Mae addysg yn gymhleth a dylai ein dealltwriaeth adlewyrchu’r darlun ehangach hwn ac ymestyn ymhellach na llond llaw o sgoriau cyrhaeddiad. Rydym wedi symud i ffwrdd o’r hen ddull “risg uchel”, lle’r oedd nifer fach o ganlyniadau’n diffinio perfformiad ysgol. Ein ffocws yw cefnogi dysgwyr unigol a helpu ysgolion i wella mewn ffyrdd ystyrlon. 

Dylai’r defnydd o ddata fod yn gymesur, yn gytbwys ac yn effeithiol, yn cadw pob dysgwr yng nghanol y broses werthuso a gwella, heb greu beichiau ychwanegol i athrawon.  Gan ddefnyddio mewnwelediad ansoddol a meintiol gallwn helpu pob dysgwr i gyrraedd eu potensial mwyaf, gan gynnal darlun cenedlaethol clir ar yr un pryd o sut mae ein system addysg yn perfformio. 

Ymgynghoriad: Llywio dyfodol defnyddio data a deall dysgu 14 i 16 oed 

Yn gynharach eleni, fe wnaethom lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar sut y dylid defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwella. Fe wnaethom hefyd gynnig Fframwaith Dangosyddion ar gyfer yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 a fydd yn disodli dangosyddion presennol Cyfnod Allweddol 4. 

Mae’r ymatebion yn cadarnhau cefnogaeth eang: 

  • Egwyddorion Ecosystem Wybodaeth – yn arwain sut y dylid defnyddio data yn gyfrifol ar draws pob lefel o’r system 
  • Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 – ffordd newydd o adrodd ar brofiadau a chanlyniadau dysgwyr o dan Cwricwlwm i Gymru. 

Cadarnhaodd ein Hadroddiad ar benderfyniadau y bydd y ddau yn cael eu gweithredu—gan fireinio yma ac acw i’w gwneud yn gryfach byth. 

Beth yw Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16? 

Mae’r fframwaith hwn yn cefnogi cyfathrebu cyhoeddus ystyrlon a hygyrch ynghylch dysgu 14 i 16 mewn ysgolion, gan roi golwg gytbwys a chyfannol tu hwnt i ganlyniadau arholiadau yn unig – gan gynnwys lles, effeithiolrwydd dysgwr, a pharatoi ar gyfer llwybrau ôl-16. 

Mae’n cynnwys: 

  • Dangosyddion sy’n seiliedig ar gymwysterau ar lefel cymwysterau unigol – dim mesurau cymhleth, cyfansawdd. 
  • Data cyd-destunol yn nodi pob elfen yn glir lle bynnag y bo modd, fel bod y canlyniadau’n ystyrlon ac yn gynhwysol. 
  • Ochr yn ochr â’r data y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi 

Beth nesaf? 

Rydym wedi bod yn gweithio dros dymor yr hydref gyda grŵp o arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion sy’n cynrychioli ystod eang o nodweddion ysgolion. Gyda nhw, rydym yn mireinio’r dangosyddion hyn trwy gyfres o weithdai lle rydym yn archwilio’r gwahanol opsiynau ac rydym yn casglu mewnwelediad ar sut y byddai’r rhain yn cyd-fynd â nodau gwella a’r effaith debygol. Byddwn hefyd yn edrych ar ddarparu eglurder ac arweiniad ynghylch y meysydd lle mae disgwyl i ysgolion rannu gwybodaeth. 

Rydym hefyd yn archwilio opsiynau ar gyfer offer digidol a all gefnogi’r gwaith yma, gan gynnwys disodli neu yn adeiladu ar lwyfannau presennol fel Fy Ysgol Leol a Setiau Data Craidd Cymru Gyfan (AWCDS), gan gynnig ffyrdd clyfrach a mwy deinamig o gael mynediad at ddata a’i ddehongli. Rhan allweddol o’r gwaith darganfod yma bydd siarad â defnyddwyr y Setiau Data Craidd a Fy Ysgol Leol. 

Pryd fydd hyn yn digwydd? 

Gwanwyn 2026: manylion terfynol y dangosyddion 14 i 16.  

Haf 2027: trefniadau adrodd newydd yn mynd yn fyw gyda, pan fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr yn cwblhau Blwyddyn 11 o dan y Cwricwlwm i Gymru. 

Penodi cyflenwr ar gyfer y broses ddarganfod ym mis Ionawr 2026 i lywio’r systemau digidol a fydd yn cefnogi’r gwaith hwn. Bydd y gwaith ymgysylltu (ysgolion, lleoliadau amgen, awdurdodau lleol ac aelodau o’r cyhoedd) yn debygol o ddigwydd rhwng Ionawr a Mawrth 2026. Gallwch anfon e-bost at ims@llyw.cymru i gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan. 

Byddwn yn diweddaru ein tudalennau Hwb wrth i’r gwaith fynd rhagddo ac wrth i’r manylion gael eu cwblhau. 

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading