Neidio i'r prif gynnwy

Adborth, os gwelwch yn dda!

Read this page in English
page-image

Mae cysylltedd symudol yn golygu bod modd i mi weithio yn unrhyw le. Ar gyfer y blog hwn rwyf yn fy nghar, mewn cilfan, ar yr A467 ger Parc Dyffryn, Blaenau Gwent. Mae’r tywydd yn anarferol o gynnes am yr adeg hon o’r flwyddyn, ac rwyf newydd gael y pleser o ymweld ag ysgol gynradd leol i gasglu adborth hollbwysig.

Mae hyn wedi bod yn weithgaredd cyffredin ers cael fy mhenodi’n arweinydd strategol Dysgu yn yr 21ain Ganrif gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS).

Read more

Y ddadl o blaid bod yn feiddgar wrth Ddiwygio’r Cwricwlwm

Read this page in English

grahamMae gwaith ar y gweill yng Nghymru i ddiwygio’r cwricwlwm yn helaeth am y tro cyntaf ers ugain mlynedd. Bydd y cwricwlwm yn un newydd, bydd y gwaith asesu yn parhau i ddatblygu, ac mae’r ffordd y mae hyn yn digwydd yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi digwydd o’r blaen.

Mae gofyn cryn ymdrech i wneud y gwaith, er ei fod yn digwydd dros sawl blwyddyn. Ond rhaid wynebu’r her yn uniongyrchol os ydym am baratoi ein disgyblion yn y ffordd orau ar gyfer eu bywyd a’u gwaith yn y dyfodol.

Read more

Credu mewn athrawon, meincnodi yn erbyn y gorau

Read this page in English

KW portrait 1.png

Gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,

Mae’n hysbys iawn bod Michael Gove, enw sy’n gyfarwydd i chi dw i’n siŵr, wedi cwestiynu gwerth dilyn tystiolaeth a gwrando ar “arbenigwyr” unwaith. Dyw hon ddim yn farn dw i’n ei rhannu. Dw i’n credu bod yn rhaid i bob penderfyniad sy’n cael ei wneud gan lywodraeth fod wedi ei seilio ar dystiolaeth gadarn.

Read more