Addysg Cymru : cenhadaeth ein cenedl – Cylchlythyr i Randdeiliaid – Rhifyn 01
Wrth i sŵn carolau Nadolig gario o ddosbarth i ddosbarth ac amrywiaeth helaeth o siwmperi Nadolig ymosod ar ein synhwyrau, rwy’n myfyrio ar daith Ysgol Gyfun Porthcawl ers iddi ymuno â’r broses ysgolion arloesi fis Ionawr y llynedd. Hoffwn sôn wrthych am yr hyn rydym wedi’i wneud a sut mae wedi teimlo, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn a ddigwyddodd dros yr hydref.
Pen-blwydd cyntaf y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Yn y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol fis Mehefin, clywyd sawl siaradwr gwadd yn nodi bod ein cydweithwyr yr ochr arall i Glawdd Offa yn cenfigennu wrth ffordd Cymru o fynd i’r afael â chymhwysedd digidol. Dylai hynny fod yn destun balchder i Gymru, ond yn fwy na hynny mae’n dangos y bydd ein plant wir yn barod ar gyfer byd sy’n dod yn gynyddol ddigidol pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Mae wedi bod yn wych gweld ysgolion mor gadarnhaol, yn ystod y flwyddyn gyntaf hon, wrth arbrofi â’r Fframwaith a defnyddio’r offeryn mapio i gymharu’r gwaith da y maen nhw eisoes yn ei wneud yn erbyn y gofynion.
Mae’n amser cyffrous ym maes dysgu digidol! Mae ysgolion wedi cael blwyddyn gyfan erbyn hyn i ymgyfarwyddo â’r Fframwaith a dylai’r arweinwyr fod wrthi nawr yn cynllunio ffyrdd o annog a chefnogi’r holl athrawon ac ymarferwyr i ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio’r Fframwaith yn eu haddysgu yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
“Cyfrinach newid yw canolbwyntio eich holl egni ar adeiladu’r newydd yn hytrach na brwydro yn erbyn yr hen” – Socrates.
Roedd Dyfodol Llwyddiannus, a gyhoeddwyd yn 2015, yn addo dyfodol cyffrous newydd ym myd addysg yng Nghymru wrth iddo gyflwyno gweledigaeth Donaldson ar gyfer diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru. Roedd yn sylfaen i gwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a lywiwyd gan syniadau cenedlaethol a rhyngwladol. Byddai’r cwricwlwm newydd hwn yn arloesol; nid yn unig o ran ei argymhellion, ond hefyd y dull a fabwysiadwyd er mwyn newid y system addysg yng Nghymru.
Mathemateg a Rhifedd – Gareth Evans, Ysgol Betws, yn siarad am yr hyn a wnaed hyd yma o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn a’r camau nesaf.
Y Celfyddydau Mynegiannol – Catrin Roberts, Ysgol Cwm Rhymni, yn siarad am yr hyn a wnaed hyd yma o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn a’r camau nesaf.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Kelly Morgan, Ysgol Llangefni, yn siarad am yr hyn a wnaed hyd yma o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn a’r camau nesaf.
Iechyd a Lles – Gethin Môn Thomas, yn siarad am yr hyn a wnaed hyd yma o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn a’r camau nesaf.