Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau i ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru – cyfle i gynnig adborth

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae canllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn cael eu diweddaru’n flynyddol ym mis Ionawr. Mae ymgynghoriad ar rai o’r newidiadau arfaethedig ar gyfer 2024 ar agor tan 13 Tachwedd, ac mae cyfle i chi gynnig eich adborth.

Cafodd yr adran ddiwygiedig o ganllawiau sydd yn yr ymgynghoriad ei datblygu gan ymarferwyr a phartneriaid eraill. Y nod yw gwneud y canllawiau’n gliriach ac yn haws i’w defnyddio. Mae’r newidiadau’n ei gwneud yn fyrrach gan amlygu’r pethau pwysicaf, gan ddefnyddio dolenni i gysylltu ag adrannau cysylltiedig o’r canllawiau a deunyddiau ategol yn hytrach nag ailadrodd gwybodaeth sydd ar gael mewn mannau eraill. Y bwriad yw cefnogi ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau addysg eraill gyda’r camau ymarferol o gynllunio, gweithredu a chynnal adolygiad parhaus o’u cwricwlwm.

Mae’n arwyddocaol bod yr ymgynghoriad yn cynnig disodli’r adran ‘Y daith i weithredu’r  cwricwlwm’ gydag ‘Ymlaen â’r daith’, am fod hyn yn adlewyrchu bod pob ysgol bellach yn defnyddio Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn dod yn ganllaw statudol yn unol â gweddill canllawiau’r Fframwaith.

Mae’r canllawiau drafft ar gyfer adborth  ar gael ar-lein yma ynghyd â 7 cwestiwn ar y ffurflen ymateb ar-lein.

Estyn: Arolygu ar gyfer y Dyfodol (2024-2030)

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Wrth i gylch arolygu newydd ddechrau ym mis Medi 2024, rydym yn awyddus i glywed eich barn chi ar sut gallwn ddylunio a chyflwyno ein trefniadau orau. Bydd y newidiadau y byddwn yn eu mabwysiadu yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i wneud eisoes i esblygu ein harferion.

Ein nod yw dod â phrosesau gwerthuso arolygiadau allanol a phrosesau gwerthuso mewnol darparwyr yn nes at ei gilydd. Bydd alinio’r prosesau hyn yn well yn helpu i gefnogi ein huchelgais i wella ansawdd addysg a hyfforddiant i blant, pobl ifanc a dysgwyr gydol oes.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae cael gwared ar farnau crynodol; canolbwyntio mwy ar ddeialog broffesiynol – gan gynnwys model sefydledig yr enwebai; mwy o drafodaethau ag athrawon dosbarth a fersiwn esboniadol i rieni i gyd-fynd â’n adroddiadau arolygu yn rhai enghreifftiau yn unig o sut rydym yn esblygu ein hymagwedd. 

Gallwch ddysgu mwy am sut mae’r newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth trwy glicio ein rhestr chwarae Newidiadau i Arolygu ar YouTube.

Sut mae ein hymagwedd arolygu yn esblygu

Read more

Asesu o fewn y Cwricwlwm i Gymru – adnoddau newydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae adnoddau newydd sydd wedi eu dylunio i helpu ymarferwyr i archwilio trefniadau asesu o fewn y Cwricwlwm i Gymru bellach ar gael ar Hwb.

Cyfres o fodiwlau dysgu proffesiynol yw’r ‘rhestrau chwarae’ adnoddau, â’r nod o gefnogi ymarferwyr, ysgolion a chlystyrau i ddatblygu arferion asesu yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd y gyfran gyntaf o’r rhestrau chwarae newydd yn canolbwyntio ar greu’r diwylliant er mwyn gallu datblygu arferion asesu. Bydd mwy o restrau chwarae yn cael eu datblygu dros y flwyddyn i archwilio agweddau eraill ar asesu.

Datblygwyd y rhestrau chwarae gan George MacBride, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Glasgow a helpodd i ddatblygu Gweithdai CAMAU. Maent yn cynnwys cyfeiriadau at astudiaethau academaidd ac ymchwil a fydd yn helpu ysgolion a lleoliadau wrth iddynt feddwl am y ffordd y mae trefniadau asesu yn cyd-fynd â’u cwricwlwm.

Mae’r deunyddiau, sy’n canolbwyntio ar greu’r diwylliant ar gyfer asesu, yn defnyddio’r un egwyddorion â’r rhai ar gyfer y deunyddiau ymarferol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Camau i’r Dyfodol. Maent yn darparu lens arall i ymarferwyr ystyried a datblygu eu trefniadau asesu yn y Cwricwlwm i Gymru.

Dywedodd Bethan Moore, Ysgol Arbennig Crownbridge: “Mae’r rhestrau chwarae yn adnodd priodol a pherthnasol y gallaf ei ddefnyddio yng nghyd-destun fy ysgol a’i rannu ag eraill ar draws y clwstwr a thu hwnt. Mae’r syniad yn wych i rannu arferion effeithiol er mwyn sicrhau dysgu proffesiynol ac rwy’n credu y gall hyrwyddo cyfathrebu rhwng ysgolion.”

Er bod y rhestri chwarae ar gael yma, gellir eu gweld hefyd yn yr adran adnoddau ‘Gweithdai a gweithgareddau’ ar Hwb sy’n cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau ategol ar gyfer cwricwlwm ac asesu.

Peilot Cynllunio Cwricwlwm – rhannu’r dysgu

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gofyn i’r proffesiwn addysgu feddwl yn wahanol am y ffordd y caiff y cwricwlwm ei gynllunio – gan symud o fodel cynllunio gwersi a chyflwyno gwersi i ddull mwy soffistigedig o gynllunio dysgu â diben. Er mwyn helpu ymarferwyr i wneud y newid, mae gwaith yn mynd rhagddo i greu astudiaethau achos ac adnoddau trwy gyd-adeiladu.

Fel rhan o hyn, hwylusodd Llywodraeth Cymru beilot cynllunio’r cwricwlwm rhwng Ionawr a Mehefin eleni. Defnyddiodd ysgolion ddull ‘cynllunio tuag yn ôl’ i weld a allai fod o gymorth mewn cyd-destun Cwricwlwm i Gymru.

Mynychodd dau ymarferydd o 30 ysgol 12 o sesiynau 2.5 awr o hyd ar-lein, gan weithio gyda’i gilydd i ddeall egwyddorion y dull cynllunio tuag at yn ôl. Hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon ac arweinwyr a chynghorwyr dysgu proffesiynol rhanbarthol a lleol, mae ymarferwyr wedi defnyddio’r adnodd ar-lein i ddatblygu eu dealltwriaeth.

Gan ddefnyddio’r model ymholi gwerthfawrogol, aeth y grŵp ati i fyfyrio ar yr hyn y mae modd ei gymhwyso i’w cyd-destunau eu hunain a’r hyn a allai fod yn fwy cyffredinol defnyddiol i gefnogi defnydd ymarferol o’n hegwyddorion cynllunio cwricwlwm yng Nghymru.

Bydd y peilot yn parhau yn yr hydref gyda 30 yn rhagor o ysgolion yn cael eu gwahodd i ymuno. Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu yn Dysg, cylchlythyr yr ysgolion. Defnyddiwch y dolenni isod os nad ydych eisoes yn ei dderbyn Dysg:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddion ynghylch addysg a hyfforddiant (Dysg ôl-11) | LLYW.CYMRU

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddion ynghylch addysg a hyfforddiant (Dysg cyn 11) | LLYW.CYMRU

Beth wnaethon ni ei ddarganfod?

Read more