Neidio i'r prif gynnwy

Camau i’r Dyfodol – Adnoddau Cam 2 – ar gael nawr

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod yr adnoddau wedi’u rhyddhau o brosiect Cam 2 Camau i’r Dyfodol. Datblygwyd yr adnoddau hyn i gefnogi’r gwaith parhaus o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig i ddarparu cymorth ymarferol ar gyfer datblygu trefniadau cynnydd ac asesu.

Mae’r adnoddau’n seiliedig ar waith grŵp cyd-greu a oedd yn cynnwys 67 o weithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o’r system. Cyfarfu’r grŵp dros gyfnod o 7 mis i ystyried rhai o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru.

Un o ganfyddiadau allweddol y broses gyd-greu oedd bod y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei drin mewn gwahanol ffyrdd ledled Cymru, ac nid oes ffordd i bawb ei wireddu yn yr un modd. I adlewyrchu hyn, gellir defnyddio’r adnoddau newydd ym mhob cyd-destun.

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, a gellir eu haddasu i’w defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Maent hefyd wedi’u cynllunio i fod yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch i ymarferwyr ar bob lefel.

Mae’r adnoddau wedi’u rhannu’n dair rhan:

  • Deall cwricwlwm a arweinir gan ddibenion – sy’n archwilio’r syniadau allweddol y tu ôl i gwricwlwm arweinir gan ddibenion a sut mae’n wahanol i ddulliau eraill
  • Asesu a chynnydd mewn cwricwlwm arweinir gan ddibenion sy’n ystyried rôl asesu a chynnydd mewn cwricwlwm arweinir gan ddibenion.
  • Gwireddu’r cwricwlwm: o gyd-destunau cenedlaethol i gyd destunau lleol: Mae’r rhan hon yn archwilio sut y gellir gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru mewn cyd-destunau lleol.

Mae parth newydd ar Hwb yn cynnwys amrywiaeth o becynnau ac adnoddau, gan gynnwys fideos, crynodebau ymchwil, canllawiau cyflym, a deunyddiau ymarferol a ddatblygwyd gan ymarferwyr, arweinwyr a phartneriaid ehangach. Mae’r pecynnau hyn wedi’u cynllunio i helpu ymarferwyr i ddefnyddio’r adnoddau – boed yn unigol, ar draws eu hysgol neu glwstwr, neu drwy weithio â’r Gwasanaethau Gwella Ysgolion – a chefnogi eu syniadau am gynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru.

Y camau nesaf

Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar Gam 3 o Camau i’r Dyfodol. Ein prif amcan ar gyfer y cam hwn yw cael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae ysgolion a lleoliadau yn gweithredu’r cwricwlwm trwy gydweithredu â chi mewn cyd-destunau lleol.  Rydym yn gobeithio cael cipolwg gwerthfawr ac enghreifftiau o ddulliau a fydd yn helpu’r system gyfan i wella dealltwriaeth ymarferol o’r cwricwlwm a chynnydd.

Cadwch lygad ar Dysg yn yr wythnosau nesaf am adnoddau pellach gan Lywodraeth Cymru ar ddylunio asesiadau.

Tîm Camau i’r Dyfodol. e-bost: camau@uwtsd.ac.uk

Grŵp ymarferwyr newydd i gefnogi cyflwyno Cwricwlwm i Gymru – allwch chi helpu?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Cwricwlwm i Gymru wedi ei ddatblygu gan athrawon ac ar gyfer athrawon. Ac mae’n hanfodol bod lleisiau ymarferwyr yn parhau i ddylanwadu ar ddatblygiadau wrth iddo esblygu. Ond sut ydyn ni’n gallu sicrhau bod ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau ar draws Cymru yn gallu gwneud hynny? Trwy Grŵp Polisi i ymarferwyr sy’n chwilio am aelodau newydd.

I roi cychwyn arni, cafodd cyfres o weithdai ei chynnal cyn yr haf i sefydlu cylch gorchwyl y grŵp newydd. Roedd yn cynnwys ymarferwyr sydd wedi bod yn rhan o’r Rhwydwaith Cenedlaethol, project Camau i’r Dyfodol, peilot Understanding by Design, rhai sydd wedi bod wrthi’n adolygu adnoddau Hwb,  ac aelodau grwpiau cyd-ddatblygu eraill Cwricwlwm i Gymru. Rwan rydyn ni’n galw am fwy o aelodau i ymuno, felly cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb os oes diddordeb gennych chi!*

Isod, mae Bethan Jones yn siarad am ei nerfusrwydd wrth ymuno â’r gweithdy cyntaf, sut mae hi wedi elwa trwy gymryd rhan, a pham mae’n teimlo ei bod mor bwysig bod llais yr ymarferydd yn cael ei glywed.

“Iawn, felly waeth imi gyfaddef, pan o’n i’n ystyried  ddod yn aelod o’r Grŵp Polisi Ymarferwyr, doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd o, na beth fydden ni’n ei wneud yn ystod y pedwar diwrnod hynny yn nhymor yr haf. Fydden nhw hyd yn oed eisiau fi – arweinydd cwricwlwm mewn ysgol arbennig yng nghefn gwlad canolbarth Cymru? Beth fyddwn i’n gallu cynnig i’r grŵp?

Read more

Cynllun gwerthuso’r Cwricwlwm i Gymru 2023

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm i Gymru, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol ledled Cymru, yn destun gwaith gwerthuso helaeth.

Mae dau adroddiad blynyddol cychwynnol wedi rhoi cipolwg cadarn ar sefyllfa bresennol. Ond fel y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ym mis Gorffennaf, bydd gwaith gwerthuso strwythuredig yn cael ei gynnal yn y tymor hir – gan ddechrau eleni. Diben y gwaith yw ddeall sut mae’r newidiadau wedi gweithio ac i ba raddau y maent yn cael yr effaith a ddymunir ar bob dysgwr, waeth beth fo’u cefndir a’u hanghenion.

Bydd hefyd yn edrych ar bethau sydd ddim yn symud ymlaen yn ôl y disgwyl, a’r rheswm am hynny, fel bod modd darparu cefnogaeth ac arweiniad yn y mannau cywir.

Mae’r cynllun gwerthuso yn nodi ystod eang o waith ymchwil a monitro a fydd yn cael ei wneud dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yn cynnwys siarad â channoedd o ysgolion, dysgwyr a rhieni mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Uchod: prosiectau tystiolaeth sy’n cyfrannu
Read more