Yn gynharach eleni, sefydlodd Llywodraeth Cymru Adnodd, corff newydd i gydlynu a goruchwylio’r gwaith o ddarparu a chomisiynu adnoddau addysg, yn Gymraeg a Saesneg, i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau. Bydd ei gylch gwaith yn cynnwys comisiynu deunyddiau newydd a sicrhau ansawdd adnoddau.
Un o werthoedd craidd Adnodd yw ei fod yn sefydliad sy’n gwrando ac yn ymateb. Felly wrth ddatblygu model comisiynu a fframwaith sicrhau ansawdd newydd, mae Adnodd eisiau mewnbwn gan ei randdeiliaid.
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn ar gomisiynu a sicrhau ansawdd adnoddau addysg ar gyfer pobl ifanc 3 i 19 oed yng Nghymru yn sgil y gwaith parhaus o gyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru (CiG) a chymwysterau diwygiedig.
Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol, sy’n cynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn dod ag arbenigedd a phrofiad y sector addysg at ei gilydd i gyd-adeiladu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar gyfer pob dysgwr sy’n ystyrlon, yn hylaw ac yn gynaliadwy.
Mae’r trawsnewidiad yn ein hysgolion a ddygir gan ddiwygio yn dod â heriau cynhenid a phosibiliadau cyffrous ar gyfer newid – boed hynny’n brofiadau dysgu dyfnach, mwy deniadol i ddysgwyr, dysgu mwy perthnasol wedi’i deilwra i’w hanghenion, neu ddulliau addysgu mwy creadigol ac arloesol.
Mae dilyniant dysgu yn ganolog i Gwricwlwm i Gymru. Mae’r canllawiau’n pwysleisio hyn, gan amlinellu sut y dylai dysgwyr ddatblygu i gyrraedd eu potensial llawn, gwaeth beth yw eu cefndir neu eu hanghenion. Mae Camau i’r Dyfodol yn gweithio gyda’r system i feithrin gwell dealltwriaeth o gynnydd dysgu, a sut i’w gefnogi yn ymarferol, ledled Cymru.
Mae adroddiad blynyddol sy’n nodi cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd y Cwricwlwm i Gymru hyd yma, gyda blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn o fis Medi 2023, wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad eang yn ystyried agweddau allweddol ar weithredu’r cwricwlwm, ac yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynllun i gynnal gwerthusiad trylwyr a thryloyw o’r diwygiadau cwricwlwm ac asesu dros amser a’r graddau y maent yn cael y dylanwad a ddymunir i bob dysgwr.
Mae cyflwyniad i’r adroddiad blynyddol gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn cyflwyno’r cefndir:
‘Mae’r flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi bod yn garreg filltir bwysig o safbwynt ein diwygiadau i’r cwricwlwm. Yn y cyfnod byr ers i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno yn y mwyafrif o ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fis Medi diwethaf, rydym eisoes yn dechrau gweld adroddiadau ynghylch rhai o’r buddiannau rydym yn disgwyl i’r cwricwlwm newydd eu cynnig. Megis dechrau mae’r gwaith o hyd, ond mae rhai arwyddion cynnar a chalonogol.
ae’r ail adroddiad blynyddol hwn yn rhoi amlinelliad o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn ein system addysg, meysydd y mae angen canolbwyntio mwy arnynt, a blaenoriaethau ar gyfer cymorth ar drothwy blwyddyn academaidd 2023 i 2024; blwyddyn pan fydd pob ysgol a lleoliad yn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ddolenni a gwybodaeth ychwanegol er mwyn helpu i ddwyn rhai o’r agweddau allweddol ar ein diwygiadau ynghyd, a’r modd y maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau gyda’n gilydd.
Mae detholiad o astudiaethau achos ysgol ar ddatblygu’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu, a phontio, wedi’u dod ynghyd yn y pdf defnyddiol hwn.
Yn cynnwys ysgolion cynradd ag ysgolion uwchradd, maent yn adlewyrchu amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gwaith clwstwr. Gellir gweld rhestr chwarae YouTube lawn yma, ac ystod eang o adnoddau yma ar Hwb.
Mae hefyd dau bodlediad newydd!
Trafod Addysgeg yn Eisteddfod yr Urdd – Rhan Un
Dyma’r cyntaf o bodlediad dwy ran a recordiwyd yn fyw yn Eisteddfod yr Urdd. Ymunwch â Daniel Davies o’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol i arwain panel Trafod Addysgeg. Gwrandewch ar Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) a Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) wrth iddynt drafod sut mae addysgeg yn esblygu o dan Gwricwlwm i Gymru.
Trafod Addysgeg yn Eisteddfod yr Urdd – Rhan Dau Dyma’r ail o bodlediad dwy ran a recordiwyd yn fyw yn Eisteddfod yr Urdd. Ymunwch â Daniel Davies o’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol i arwain panel Trafod Addysgeg. Gwrandewch ar Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) a Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) wrth iddynt drafod y Gymraeg, nodi’r un peth yr hoffent ei newid am y system addysg a sut y gall yr Urdd helpu ysgolion i weithredu Cwricwlwm i Gymru.
Sut mae’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella yn cael ei ddefnyddio er budd Ysgol Cybi.
Cyfweliad Mark Jones, Cynghorydd Proffesiynol i Lywodraeth Cymru, gydag Owain Roberts (dde), Pennaeth Ysgol Cybi, ar sut mae’r ysgol yn defnyddio’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella a’r gwelliannau sy’n dod yn ei sgil.