Gwnaeth Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ddatganiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, rhieni a gofalwyr, athrawon a dysgwyr i greu dull cynhwysfawr o ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed o dan y cwricwlwm newydd. Bydd y dull hwn yn cydnabod y cyfleoedd eang y mae ysgolion eisoes yn eu darparu i gefnogi eu dysgwyr i symud yn hyderus tuag at gyflogaeth, addysg bellach neu hyfforddiant.
Trwy ymgysylltu, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau ar gyfer ymgynghori yn ddiweddarach eleni, i’w gwblhau, ac ar gael i ysgolion ar yr un pryd â’r manylebau TGAU terfynol (Medi 2024). Ystyrir esblygiad Bagloriaeth Cymru fel rhan o hyn, er mwyn galluogi pob dysgwr i ennill y sgiliau, y profiadau a’r wybodaeth i symud ymlaen ar y cam nesaf.
Ym mis Medi 2022, daeth deddfwriaeth newydd i rym ar gyfer ysgolion ynghylch darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr am gynnydd eu plentyn. Gweler yr adran hon ar gyfer crynodeb o’r ddeddfwriaeth neu’r ddeddfwriaeth ffurfiol yma.
Mae’n rhaid i benaethiaid nawr drefnu diweddariadau tymhorol ar gynnydd dysgwyr, gan gynnwys:
eu llesiant
gwybodaeth am gynnydd a dysgu allweddol
anghenion cynnydd allweddol, y camau nesaf i gefnogi eu cynnydd, a chyngor ar sut y gall rhieni gefnogi’r cynnydd hwnnw.
Er y gall diweddariadau cynnydd tymhorol wella ymgysylltiad a dealltwriaeth o gynnydd ac anghenion allweddol dysgwyr, mae’n bwysig o hyd bod gan rieni a gofalwyr ddarlun o gynnydd cyffredinol y dysgwr ar draws ehangder y cwricwlwm yn flynyddol. Gellir ei ddarparu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd ac mewn unrhyw fformat y mae’r pennaeth yn ei ystyried yn fwyaf priodol wrth gefnogi cynnydd dysgwyr.
Nod y newid mewn arferion adrodd yw gwella’r ddeialog rhwng ysgolion, rhieni/gofalwyr a dysgwyr. Y bwriad yw adlewyrchu cynnydd y dysgwr yn well ac amlinellu eu camau nesaf o ddysgu, gan greu darlun mwy cyfannol o sut mae’r dysgwr yn datblygu tuag at y pedwar diben. Fel gyda’r cwricwlwm, bydd dulliau ac arbenigedd wrth fwrw ymlaen â hyn yn esblygu.
Yn Ysgol Calon Cymru mae dull gweithredu wedi cael ei archwilio, fel rhan o brosiect ymholi proffesiynol a oedd yn cynnwys tua 20 o rieni. Dyfeisiwyd diagram ‘radar’ i ysgogi sgwrs rhwng yr athro a’r dysgwr ynghylch cynnydd, a defnyddiwyd y canlyniadau i lywio trafodaethau mewn nosweithiau rhieni sy’n canolbwyntio ar y disgybl.
Gwyliwch y fideo isod i weld sut y cafodd y dull ei ddatblygu, a’i ystyried, gan gynnwys yr heriau a wynebwyd a’r canlyniadau hyd yma.
Fel y cyfeirir ato uchod, bydd dulliau ac arbenigedd ar hyn yn esblygu ac rydym yn bwriadu datblygu a rhannu fideos astudiaethau achos a blogiau dilynol i adlewyrchu hyn.
Mae dwy astudiaeth achos lefel gynradd hefyd wedi’u cynhyrchu o’r blaen a gellir eu gweld yma:
Mae’n bwysig cael modelau rôl yn yr ysgol ac mewn cymdeithas. Wrth weld rhywun sy’n ymddangosiadol debyg i ni yn cymryd camau positif ac yn llwyddo mewn bywyd, mae’n ein ysbrydoli, yn rhoi hyder i ni ac yn rhoi cysur.
Rydym yn gwybod mai felly y mae hi i ddysgwyr yn ein hysgolion. Mae’n brofiad tebyg i ymarferwyr hefyd, yn enwedig ymarferwyr o gefndir ethnig leiafrifol, nad ydynt o hyd yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen gan athrawon, cydweithwyr, rhieni a chymheiriaid.
Felly, crëwyd y Grŵp Cyswllt Cymru Wrth-hiliol fel modd o gymorth ar y cyd â chymheiriaid, ond hefyd i ysbrydoli cydweithwyr o gefndiroedd ethnig i anelu at arweinyddiaeth, gan helpu i dyfu cynrychiolaeth arweinyddiaeth amrywiol mewn addysg yng Nghymru.