Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod yr adnoddau wedi’u rhyddhau o brosiect Cam 2 Camau i’r Dyfodol. Datblygwyd yr adnoddau hyn i gefnogi’r gwaith parhaus o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig i ddarparu cymorth ymarferol ar gyfer datblygu trefniadau cynnydd ac asesu.
Mae’r adnoddau’n seiliedig ar waith grŵp cyd-greu a oedd yn cynnwys 67 o weithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o’r system. Cyfarfu’r grŵp dros gyfnod o 7 mis i ystyried rhai o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru.

Un o ganfyddiadau allweddol y broses gyd-greu oedd bod y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei drin mewn gwahanol ffyrdd ledled Cymru, ac nid oes ffordd i bawb ei wireddu yn yr un modd. I adlewyrchu hyn, gellir defnyddio’r adnoddau newydd ym mhob cyd-destun.
Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, a gellir eu haddasu i’w defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Maent hefyd wedi’u cynllunio i fod yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch i ymarferwyr ar bob lefel.
Mae’r adnoddau wedi’u rhannu’n dair rhan:
- Deall cwricwlwm a arweinir gan ddibenion – sy’n archwilio’r syniadau allweddol y tu ôl i gwricwlwm arweinir gan ddibenion a sut mae’n wahanol i ddulliau eraill
- Asesu a chynnydd mewn cwricwlwm arweinir gan ddibenion sy’n ystyried rôl asesu a chynnydd mewn cwricwlwm arweinir gan ddibenion.
- Gwireddu’r cwricwlwm: o gyd-destunau cenedlaethol i gyd destunau lleol: Mae’r rhan hon yn archwilio sut y gellir gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru mewn cyd-destunau lleol.
Mae parth newydd ar Hwb yn cynnwys amrywiaeth o becynnau ac adnoddau, gan gynnwys fideos, crynodebau ymchwil, canllawiau cyflym, a deunyddiau ymarferol a ddatblygwyd gan ymarferwyr, arweinwyr a phartneriaid ehangach. Mae’r pecynnau hyn wedi’u cynllunio i helpu ymarferwyr i ddefnyddio’r adnoddau – boed yn unigol, ar draws eu hysgol neu glwstwr, neu drwy weithio â’r Gwasanaethau Gwella Ysgolion – a chefnogi eu syniadau am gynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru.
Y camau nesaf
Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar Gam 3 o Camau i’r Dyfodol. Ein prif amcan ar gyfer y cam hwn yw cael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae ysgolion a lleoliadau yn gweithredu’r cwricwlwm trwy gydweithredu â chi mewn cyd-destunau lleol. Rydym yn gobeithio cael cipolwg gwerthfawr ac enghreifftiau o ddulliau a fydd yn helpu’r system gyfan i wella dealltwriaeth ymarferol o’r cwricwlwm a chynnydd.
Cadwch lygad ar Dysg yn yr wythnosau nesaf am adnoddau pellach gan Lywodraeth Cymru ar ddylunio asesiadau.
Tîm Camau i’r Dyfodol. e-bost: camau@uwtsd.ac.uk