Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Rydym ni yn Social Finance wedi ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil i anghenion y system ysgolion yng Nghymru o ran data a gwybodaeth a’u defnydd. Rydym wedi bod yn siarad â rhanddeiliaid ar draws y system ysgolion, i ddeall sut mae’r anghenion hyn yn wahanol ar draws grwpiau rhanddeiliaid, ar gyfer tri phrif bwrpas sef chynllunio hunanwerthuso a gwella, atebolrwydd a thryloywder. Ein bwriad yw darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i helpu i adeiladu system gytbwys, lle mae data a gwybodaeth o ansawdd ar gael ac yn cael eu defnyddio’n effeithiol – mewn ffordd sy’n gweithio i ysgolion ac i randdeiliaid ehangach o fewn eu cyd-destunau unigryw.

Bydd y prosiect yn cefnogi’r gwaith o weithredu fframwaith newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd, fel y nodir yn y canllawiau Gwella Ysgolion.
Hyd yn hyn rydym wedi ymgysylltu â nifer eang o randdeiliaid gan gynnwys; penaethiaid, dysgwyr, rhieni, Awdurdodau Lleol, Awdurdodau’r Esgobaeth, Gyrfa Cymru, , timau polisi Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Estyn, a Cymwysterau Cymru, ymhlith eraill.
Rydym bellach yng nghamau olaf yr ymchwil hon ac wedi datblygu set o argymhellion drafft i’w profi gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys, yn bwysig, ysgolion.
Felly, hoffem wahodd eich ysgol i rannu eich barn ynghylch ein hargymhellion drafft drwy Weminar fyw.
Rydym yn gwahodd y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion a darpariaeth amgen yng Nghymru i un o’n sesiynau ‘Gweminar Ecosystem Data’ byw i roi eu hadborth. Mae’r gwahoddiad yn agored i benaethiaid, i rai eraill sydd mewn rolau strategol ac arweinyddiaeth gan gynnwys llywodraethwyr, ac i staff addysgu ym mhob lleoliad a gynhelir yng Nghymru.
Ym mis Medi byddwn yn cynnal dwy weminar rithwir awr o hyd, lle byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion. Bydd y rhain yn cael eu cynnal fel a ganlyn:
- Sesiwn 1: 28/09/22 rhwng 17:00 ac 18:00
- Sesiwn 2: 30/09/22 rhwng 10:00 a 11:00
Yn ystod y sesiwn, ar gyfer pob argymhelliad byddwn yn amlinellu:
- Pwrpas y newid, gan gynnwys cyflwyno unrhyw ddata neu fath o wybodaeth newydd
- Unrhyw newidiadau y gallai hyn eu cael ar sut rydych chi’n casglu, dadansoddi a chyfathrebu data ar lefel leol ar hyn o bryd
Ar ôl pob argymhelliad, byddwn yn cael saib i gasglu adborth drwy arolwg barn byw. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolwg yn dilyn y sesiwn gweminar i gasglu unrhyw sylwadau pellach.
Y dyddiad olaf ar gyfer cwblhau’r arolwg dilynol fydd 19:00, 30/09/22.
Ar ôl i ni gwblhau ein hargymhellion, bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi ar dudalennau we ymchwil Llywodraeth Cymru. Byddant yn ystyried ein hargymhellion a hefyd, maes o law, yn nodi ar gyfer rhanddeiliaid sut y byddant yn ymateb i’n casgliadau.
Os hoffech ymuno â’r weminar yna ewch i’r dudalen Digwyddiadau ar Hwb a mewngofnodwch i gofrestru. Dim ond y rhai sydd wedi cofrestru bydd yn gallu mynychu’r digwyddiad. Noder y bydd y sesiynau hyn yn rhedeg yn ddwyieithog.
Gyda diolch am sylw a gafwyda, allwn ni bwysleisio bod angen i ddefnyddwyr fewngofnodi i Hwb er mwyn ‘gweld’ y digwyddiadau hyn yn rhestru’r digwyddiad a chofrestru!