Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae hon wedi bod yn flwyddyn ysgol galed, ond hefyd yn flwyddyn o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru wrth i’r Cwricwlwm a’r newidiadau ategol fagu sail gyfreithiol a’r adnoddau yn rhoi mwy o gig ar yr asgwrn. Mae hynny’n parhau yr wythnos hon, felly dyma grynodeb byr o’r hyn sy’n cael ei gyhoeddi, a beth y mae’n ei olygu i chi.
Y Fframwaith newydd ar gyfer Gwella Ysgolion a Chanllawiau
Mae’r Fframwaith hwn yn gwahanu hunanasesu a gwella oddi wrth atebolrwydd.
Mae’n cyflwyno system hunanwerthuso gadarn lle gall ysgolion nodi cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Cefnogir yr hunanwerthusiad hwnnw gan yr ‘Adnodd Cenedlaethol: gwerthuso a gwella’ a phartneriaid gwella. Mae’r dull newydd yn annog adolygu gan gymheiriaid, ac mae dilyniant a lles dysgwyr yn ganolog iddo.

Bydd ysgolion yn cyhoeddi crynodebau o’u canfyddiadau hunanwerthuso a’u cynlluniau gwella ar eu gwefannau ar gyfer rhieni a gofalwyr. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phob ysgol i gytuno ar lefel y cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn cadarnhau’r cymorth y byddant yn ei roi i Lywodraethwyr.
Dylai ysgolion eisoes fod yn cynnal proses hunanwerthuso fel rhan o’u prosesau rheolaidd i wella’r ysgol.
Atebolrwydd ac arolygiadau
Mae Categoreiddio Cenedlaethol wedi dod i ben, a bydd atebolrwydd yn cael ei gynnal drwy lywodraethu ysgolion ac arolygiadau mwy rheolaidd gan Estyn. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd sy’n cefnogi’r Cwricwlwm newydd, gyda chynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024.
Mae Estyn wedi gwneud newidiadau i’w ddull arolygu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu a fydd yn arwain at ddileu graddau crynodol. ac ychwanegu trosolwg allweddol o’r canfyddiadau sy’n canolbwyntio ar gryfderau ysgol a meysydd i’w datblygu.
Trefniadau Asesu – canllawiau diweddaraf sy’n adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth
Yn unol â’r cwricwlwm newydd, mae’r ddeddfwriaeth a ddaw i rym ym mis Medi 2022 yn nodi sut y mae’n rhaid cynllunio trefniadau i asesu cynnydd ochr yn ochr â’r cwricwlwm, gyda gofynion ar ysgolion sy’n cynnwys: asesiad parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol i asesu cynnydd; nodi’r camau nesaf sydd ar y gweill; ac asesu’r dysgu a’r addysgu sydd eu hangen i helpu i sicrhau’r cynnydd hwnnw ar gyfer pob dysgwr.

Mae gofynion sy’n ymwneud ag asesu ar y dechrau, datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, a rhannu gwybodaeth â rhieni, i gyd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth newydd.
Mae’r Canllawiau Asesu sy’n Cefnogi Cynnydd Dysgwyr a’r Crynodeb o’r Ddeddfwriaeth ar Hwb wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol.
Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr
Mae deunyddiau ategol newydd wedi’u cyhoeddi i gefnogi’r cwricwlwm a’r trefniadau asesiadau mewn ysgolion a lleoliadau. Maent yn ychwanegu at ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru a chanllawiau newydd ar wella ysgolion, ac yn nodi cymorth ymarferol ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, sicrhau ansawdd a hunanasesu.
