Neidio i'r prif gynnwy

Diolch ichi gyd a Nadolig Llawen!

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm i Gymru ar waith bellach ym mhob un o’n hysgolion cynradd ac yn nifer o’n hysgolion uwchradd. Diolch ichi athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, arweinwyr ysgolion a holl staff yr ysgolion am eich cymorth wrth sicrhau hyn ar gyfer eich disgyblion.

Bydd y gyfres o adnoddau i’ch cefnogi yn parhau i dyfu yn 2023 diolch i garedigrwydd ysgolion sy’n darparu rhestr chwarae neu yn croesawu ein criw ffilmio i’w dal nhw wrth eu gwaith. Ceir rhai o uchafbwyntiau 2022 isod, ond os ydych yn credu bod gennych bersbectif diddorol i’w rannu, gadewch inni wybod ar bob cyfri!

A neges Nadolig i chi gyd!

48 o adnoddau Dysgu Proffesiynol, mewn un rhestr, gyda dolenni

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mewn ymateb i alw, mae grŵp gwych o adnoddau a ddatblygwyd gan ysgolion, ar gyfer ysgolion, wedi’u cyfuno mewn PDF sy’n hawdd ei chwilio.

Mae 48 o restrau chwarae/cyflwyniadau wedi’u cynnwys, sy’n cwmpasu dysgu proffesiynol staff, datblygu gweledigaeth ysgol gyfan, gweithredu’r cwricwlwm, modelu arweinyddiaeth dysgu, a sefydlu diwylliant o newid.

Mae’r adnoddau i gyd yn ymddangos ar Hwb, ond mae’r rhestr gyfeirio gyflym hon yn ei gwneud yn haws chwilio amdanynt.

I weld y cefndir llawn a’r wybodaeth ategol, gweler y Daith Dysgu Proffesiynol ar Hwb.

Ysgol Gynradd Santes Gwladys, Bargod – Dull ysgol gyfan o ymdrin ag Ieithoedd Rhyngwladol, ein taith hyd yn hyn…

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae dysgu iaith yn rhoi mwy nag un ffenestr i edrych ar y byd.  Heb os, mae’r ddihareb Tsieineaidd hon yn taro tant i ni yma yn Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed lle rydym yn croesawu dysgu iaith fel Ysgol Gynradd Amlieithog Arweiniol. 

Gan ein bod yn gweithio yng nghymoedd y De mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf, mae gennym ddysgwyr nad ydynt efallai wedi ymweld â Chaerdydd, heb sôn am Loegr neu du hwnt; Felly, teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnom i ddarparu profiadau dysgu sy’n dod â’r byd i’n dysgwyr. Y Datganiad Yr Hyn Sy’n Bwysig 1 ‘Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd’ o’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw ein mantra i raddau helaeth iawn; i wreiddio hunaniaeth greadigol a balch sy’n croesawu amrywiaeth yn ein hysgol.

Rhan annatod o’n darpariaeth Ieithoedd Rhyngwladol oedd sicrhau yn gyntaf bod gan ein dysgwyr ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth Gymreig a balchder yn eu cymuned.  Fel rhan o gwestiwn yr ymholiad: Pwy ti’n feddwl wyt ti? mae dysgwyr yn dysgu ei fod ymhell o fod yn gwestiwn syml gan fod yn rhaid iddyn nhw ymrafael o ddifrif â’u dealltwriaeth o hunaniaeth. Yn yr ymholiad hwn, mae dysgwyr yn mynd allan i’w bro ac yn edrych ar ddata’r cyfrifiad, mapiau a ffotograffau er mwyn rhoi dealltwriaeth dda iddynt o ble maen nhw’n byw nawr ac yn y gorffennol. Rydym yn ceisio cynnig ffyrdd ystyrlon i ddysgwyr archwilio pynciau fel ymfudo, hiraeth a chynefin hefyd.  Trwy ddysgu am eu treftadaeth a’u cymuned bresennol, mae dysgwyr yn ceisio gwneud synnwyr o bwy ydyn nhw a’u lle yn y byd.

Gwyddom fod meithrin ymdeimlad o falchder yn nhreftadaeth ein dysgwyr, boed yr un fath neu’n wahanol i’w cyfoedion, yn bwysig. Wrth gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol, felly, roeddem yn gwybod bod angen darlun clir o gymuned ein hysgol fel y gallai cyflawni ein cwricwlwm ddathlu ac adlewyrchu ein teuluoedd. Un o’r pethau cyntaf wnaethon ni oedd archwilio ein poblogaeth ysgol i ddarganfod yr amrywiaeth o ieithoedd sy’n cael eu siarad ac estyn allan i deuluoedd yn ein cymuned i rannu eu hunaniaeth ddiwylliannol gyda ni. Fe wnaethom ddarganfod amryw o ieithoedd a siaredir yn y cartrefi: Tyrceg, Pwyleg, Tsieinëeg, Groeg a Sinhaleg ac roeddem yn falch iawn o glywed gan rieni a brodyr a chwiorydd hŷn a oedd yn cynnig addysgu patrymau iaith a gwelsom gyflwyniadau am eu diwylliant a rannwyd mewn gwasanaethau dosbarth.  Mae gennym gynorthwyydd dysgu o Lithwania ac un arall o Ynysoedd Philippines, sy’n cyfoethogi dysgu mewn ffordd debyg wrth iddynt rannu agweddau ar eu hiaith a’u diwylliant gyda’r ysgol.

Read more

Sut lwyddon ni i helpu i ddatblygu’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol – a pham

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol yn ymrwymiad Gweinidogol i ddysgu proffesiynol ar gyfer pob ymarferydd. Ond mae’n bwysig nodi iddi gael ei datblygu ar y cyd gan y rhai hynny sy’n ymwneud â maes dysgu proffesiynol.

Mae dau o’r bobl hynny a oedd yn rhan o’r gwaith o’i datblygu ar y cyd, sef Dan Davies, Partner Arweiniol Dysgu Proffesiynol o’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysg, a Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De, yn egluro eu rôl wrth ddatblygu’r Hawl, ac yn rhoi gwybod pam maen nhw’n teimlo ei bod yn bwysig, a beth maen nhw’n meddwl y gall yr Hawl ei gyflawni.

Clara Seery

Beth oedd cyfraniad Consortiwm Canolbarth y De at y gwaith o ddatblygu’r Hawl ar y cyd?

Buon ni’n hwyluso grwpiau o randdeiliaid ar y cyd â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau gweithlu ysgolion yn ein rhanbarth yn cael eu clywed a’u defnyddio i lunio’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Roedden ni’n awyddus i sicrhau y byddai’r hawl yn cefnogi arweinwyr, athrawon, cynorthwywyr addysgu, a’r consortia i wella canlyniadau ar gyfer pob dysgwr. Roedd Consortiwm Canolbarth y De, fel pob rhanbarth, yn gallu ystyried rolau a chyfrifoldebau’r haen ganol yn ofalus.

Pam mae’r Hawl yn bwysig i arweinwyr ysgolion?

Mae’r Hawl yn rhoi’r mandad i arweinwyr wireddu’r hyn rydyn ni’n ei wybod am bwysigrwydd dysgu proffesiynol.  Mae’n cefnogi sgyrsiau proffesiynol ynghylch sut y gallai dysgu proffesiynol edrych a’r ffordd orau i ennyn diddordeb gweithwyr proffesiynol. Mae’n hyrwyddo diwylliant o ddysgu proffesiynol parhaus i bawb yn unol â datblygu ein hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu. Mae hefyd yn sicrhau bod yr arweinwyr eu hunain yn ystyried eu hawl, ynghyd â’r rhai y maent yn eu cefnogi, i gael mynediad at ddysgu proffesiynol

Sut bydd yr Hawl yn effeithio ar y ffordd y mae rhanbarthau a phartneriaethau yn gweithio?

Byddwn ni’n parhau i siarad ag arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr i ddarparu cynnig eang a chytbwys ar gyfer dysgu proffesiynol sy’n cynnig pecynnau cymorth pwrpasol i alluogi ysgolion i fanteisio ar yr hyn sydd ei angen arnynt. Byddwn ni’n sicrhau bod ein staff i gyd yn ymwybodol o’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol, gan hyrwyddo’r ffordd hon o weithio mewn ysgolion gydag arweinwyr a staff ar bob lefel.

Sut bydd yr Hawl yn gwneud gwahaniaeth go iawn?

Mae’r hyn y gall unrhyw newid polisi ei gyflawni yn seiliedig ar y ffordd y caiff ei weithredu.  Ac mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae yn hynny o beth.  Os ydyn ni am gael system sy’n cefnogi dysgu proffesiynol trawsnewidiol fel norm, bydd yr hawl, a’r disgwyliadau sy’n rhan ohoni, yn cefnogi’r system i wireddu dyheadau’r diwygiadau.

Dan Davies:

Beth oedd eich rôl chi yn y gwaith o helpu i ddatblygu’r Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol?

Fel rhanbarth, buon ni’n cydweithio i ddatblygu’r hawl ar gyfer dysgu proffesiynol gyda Llywodraeth Cymru. Roedden ni’n rhan o’r meddylfryd cychwynnol y tu ôl i’r hawl ac yn cynnig adborth ar ddrafftiau cynnar. Rydyn ni hefyd wedi bod yn rhan o rannu’r meddylfryd hwnnw ag ysgolion yn ein rhanbarth a’r tu hwnt. Rwy’n credu ei fod yn sbardun allweddol i allu gwireddu’r uchelgeisiau sydd wedi’u nodi yn y Cwricwlwm i Gymru.

Pam mae’n bwysig i bartneriaethau rhanbarthol?

Mae’r ddogfen yn arwyddocaol am ei bod yn pennu disgwyliadau clir ar gyfer unigolion, ysgolion, a rhanbarthau. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu proffesiynol i bawb sy’n rhan o’n system, ac yn cefnogi ein cynnig rhanbarthol. Mae’n ein herio ni i newid ein ffordd o feddwl rywfaint mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Hynny yw, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth sy’n cael ei wneud i ni, mae cyfrifoldeb arnon ni i arwain ein dysgu proffesiynol ein hunain. Bydd hyn, yn fy marn i, yn cael effaith gadarnhaol ar les ymarferwyr, ac yn rhoi ymdeimlad o foddhad iddyn nhw ynghylch eu gwaith. 

Beth mae’n ei olygu i ymarferwyr gan gynnwys cynorthwywyr addysgu?

Heb os, mae hyn yn rhywbeth cadarnhaol i bawb syn rhan o’r system addysg. Mae’n nodi’n glir beth mae gan weithwyr proffesiynol yr hawl iddo, a beth mae hynny’n ei olygu pan fydd hwnnw’n effeithiol iawn. Mae hefyd yn ein herio ni i fynd ati i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol, a chynllunio ein dysgu ein hunain. Rwy’n arbennig o hoff o’r gair hawl gan ei fod yn rhoi mwy o rym i bwysigrwydd dysgu proffesiynol.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd yn ei gyflawni?

Rwy’n cofio rai blynyddoedd yn ôl i gydweithiwr ddweud “nad oedd modd datblygu’r cwricwlwm heb ddatblygu’r bobl sy’n ymwneud ag e”. Roedd hyn yn taro deuddeg i mi ar y pryd ac yn dal i wneud synnwyr i mi heddiw. Os ydyn ni am ddatblygu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol, yna mae’n rhaid i ni ddatblygu ein gweithlu addysg. Mae’r hawl yn rhoi dysgu proffesiynol ar frig yr agenda, ac rwy’n siŵr y bydd hwnnw’n cefnogi ein gallu i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru a gwella canlyniadau i’n dysgwyr.

Gweler y rhaglen genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol o’n partneriaethau rhanbarthol yma.

Deunyddiau ar gyfer Gweithdai Cynnydd ac Asesu – yn barod i’w defnyddio gan ysgolion

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae cyfres o weithdai ar gael ar Hwb i helpu ysgolion i ddatblygu sgiliau ym maes hanfodol o ddefnyddio asesiad i gefnogi cynnydd. Mae gwaith ymchwil ac arbenigedd athrawon wedi bod yn ganolog i’w datblygiad.

Mae’r gweithdai hyn yn helpu ymarferwyr i wella eu dealltwriaeth o gynnydd ac asesu a’r berthynas bwysig rhyngddynt. Yn y pen draw, maent wedi’u cynllunio i helpu i ddatblygu dulliau asesu sy’n sicrhau bod cynnydd wrth ddysgu yn symud ymlaen, yn hytrach na phrofi’r hyn sy’n cael ei ddysgu ar y pryd.

Mae’r chwe gweithdy wedi’u trefnu mewn tri phâr – a phob pâr yn ymdrin â thema bwysig sy’n gysylltiedig ag asesu a chynllunio cwricwlwm o dan y Cwricwlwm i Gymru:

  • Gweithdai 1 a 2: cynnydd ac asesu
  • Gweithdai 3 a 4: y dysgwr wrth galon yr asesiad
  • Gweithdai 5 a 6: integreiddio’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg

Mae’r deunyddiau ar gael am ddim i unrhyw ysgol neu ymarferwyr eu defnyddio. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:

  • Er bod y chwe gweithdy’n gysylltiedig mewn cyfres, gall ymarferwyr ddefnyddio unrhyw un neu rai ohonynt fel y dewisant os yw’r cynnwys yn berthnasol i’w hanghenion ar y pryd
  • Os yw’r chwe gweithdy’n cael eu defnyddio fel cyfres, gall ymarferwyr amrywio faint o sylw ac amser a roddir i weithgaredd neu thema benodol
  • Argymhellir defnyddio’r gweithdai yn gydweithredol:: gellir trefnu cydweithredu o fewn ysgol neu leoliad, neu ar draws clwstwr (e.e. ysgol uwchradd ac ysgolion cynradd cysylltiedig), neu o fewn rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli
  • Gellir trefnu gweithgareddau cydweithredu a hwyluso cyfranogiad, a chefnogi hynny o’r gwaelod i fyny, neu eu datblygu drwy gymorth allanol  
  • Er bod cyfranogiad cydweithredol yn cael ei argymell, gall ymarferwyr unigol barhau i ddefnyddio’r deunyddiau yn fuddiol ar gyfer datblygiad personol

Mae staff mewn partneriaethau a chonsortia rhanbarthol yn barod i gynghori a chefnogi cydweithwyr i ddefnyddio adnoddau’r gweithdai. Gallwch gysylltu â’r canlynol:

Partneriaeth Sir Gaerfyrddin-Sir Benfro-Abertawe – Debbie Moon – DEBBIE.MOON@partneriaeth.cymru

Partneriaeth Canolbarth Cymru – Chris Davies – christopher.davies2@powys.gov.uk/

Consortiwm Canolbarth y De – Kath Lewis – Kathryn.A.Lewis@cscjes.org.uk

Consortiwm GwE – Dafydd Rhys – dafyddrhys@gwegogledd.cymru

Consortiwm GCA – James Kent – James.Kent@sewaleseas.org.uk

Awdurdod Lleol Casnewydd – Owain Hywett – o.hyett@npt.gov.uk

Dod o hyd i’r ffordd orau i fynd i’r afael â Chanllawiau Cwricwlwm i Gymru

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae Canllawiau Cwricwlwm i Gymru o reidrwydd yn eithaf mawr – mae’n cynnwys cwricwlwm cyfan ar gyfer 3 i 16 oed. Dydy penderfynu ar ble i ddechrau darllen, a sut i ffeindio’ch ffordd drwyddo i gael y gorau ohono ddim bob amser yn amlwg.

Bydd yr esboniwr byr hwn yn dangos y lle gorau i chi ddechrau, gan helpu i sicrhau nad ydych yn rhuthro’n syth at y  manylion ac yn methu’r pethau sylfaenol.

Datblygu’r Cwricwlwm a Rheoli Newid yn Ysgol Gyfun Treforys

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae Ysgol Gyfun Treforys wedi mabwysiadu agwedd feiddgar wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Yn yr astudiaeth achos hon, mae arweinwyr a staff yn siarad am ddull yr Ysgol o ddatblygu’r cwricwlwm, gan ddefnyddio hyrwyddwyr cwricwlwm a model rheoli newid.

Yn yr adran gyntaf mae crynodeb yr arweinwyr. Yn yr ail adran isod gallwch ddarllen safbwyntiau amrywiaeth o staff a disgyblion, sy’n siarad yn blwmp ac yn blaen am y dull gweithredu, rhai pryderon, ffyrdd o symud pethau ymlaen, a’u gobaith ar gyfer y dyfodol.

Safbwynt yr arweinwyr

Martin Franklin – Pennaeth

Mae Treforys yn gwasanaethu rhan ogledd-ddwyreiniol Abertawe ac mae’n ysgol wirioneddol gyfun. Mae gennym blant sy’n dod o ardaloedd eithaf difreintiedig, ac mae plant o bob math o allu yma hefyd.

Ar ddiwedd 2020 roeddem yn llwyr werthfawrogi nad oeddem wedi gwneud digon o gynnydd yn ein taith ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Penderfynwyd bryd hynny i benodi hyrwyddwyr Cwricwlwm i Gymru a fyddai’n helpu i roi ein dull gweithredu ar lwybr carlam.

Rydym wedi rhoi cyfnodau defnyddiol iawn iddynt weithio gydag arweinwyr adran, nid yn unig am ychydig o oriau, ond drwy dynnu staff oddi ar yr amserlen am ddiwrnod ar adegau i weithio ar themâu’r Cwricwlwm i Gymru gyda thri aelod o staff hefyd. Ac mae hynny’n sicr wedi cyflymu ein dull.

Rydym wedi cadw ein strwythur adrannol, felly mae gennym benaethiaid hanes, daearyddiaeth, gwyddoniaeth, technoleg, ac ati o hyd, ond maent yn gweithio o dan y Meysydd Dysgu a Phrofiad gyda’i gilydd ac rydym wedi canfod bod hwn yn ddull llawer mwy effeithiol i ni oherwydd yn fy meddwl i mae gen i dri o bobl yn y Dyniaethau erbyn hyn, er enghraifft, yn cydweithio ar y Cwricwlwm i Gymru.

Dr Sam Williams – Pennaeth Cynorthwyol

Yn bersonol, rwy’n gweld bod her y Cwricwlwm i Gymru yn enfawr. Mae nifer fawr o bolisïau y mae angen i ymarferwyr ac arweinwyr roi sylw dyledus iddynt, ac yna mae’n rhaid trosi hynny’n ymarferol. Sut olwg fydd ar y weithred mewn gwirionedd erbyn ichi syntheseiddio a deall nodau a dyheadau canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru – ac rwy’n meddwl bod pawb yn cytuno â hynny. Sut ydym ni wir yn mynd i roi’r syniad hwnnw ar waith?

Felly penderfynais ar y syniad o fodel Rheoli Newid Kotter, sef wyth cam gwahanol o sicrhau newid. Gan ddechrau gyda chreu ymdeimlad o frys, ffurfio’r math o dîm a fydd yn gyrru’r newid, creu’r weledigaeth honno, cyfleu’r weledigaeth, ac yna symud ymlaen i rymuso’r gweithredu.

Read more

Y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg 

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Gymraeg yn eiddo i ni i gyd. Mae’n un o drysorau Cymru, rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel pobl a fel cenedl. Mae’n rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru newydd.

Gyda’r Gymraeg yn bwnc mandadol, yr uchelgais yw bod pawb yn mwynhau defnyddio’r Gymraeg, yn gwneud cynnydd parhaus wrth ddysgu’r Gymraeg ac yn magu’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg tu hwnt i’r dosbarth. Bydd gan bob dysgwr, waeth beth yw ei fan geni nac iaith ei gartref, berthynas â’r Gymraeg

Nawr mae fframwaith newydd wedi’i ddatblygu i helpu ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg feithrin gwir bwrpas ar gyfer dysgu ac addysgu dilys ar gyfer y Gymraeg yn eu cwricwlwm.

Mae ymarferwyr a rhanddeiliaid wedi datblygu’r fframwaith sy’n gallu helpu ysgolion i drefnu, cynllunio ac adolygu dysgu ac addysgu Cymraeg yn eu cwricwlwm. Mae’n nodi profiadau, gwybodaeth, sgiliau ac ymagweddau ar gyfer pob un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer Maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ac mae ar gael o fewn canllawiau’r Maes hwn.

Nid yw’r fframwaith yn nodi adnoddau addysgu penodol, felly mae rhestr chwarae Hwb  hefyd wedi’i datblygu gan ymarferwyr i roi blas ar adnoddau sydd ar gael. Mae gwybodaeth am le i fynd am fwy o gymorth hefyd ar gael. Fodd bynnag mae’n bwysig nodi bod adnoddau a chanllawiau ond yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio i ysgogi sgyrsiau a newidiadau i ddysgu ac addysgu Cymraeg er lles ein holl blant a phobl ifanc.

Mae gan ein dysgwyr gymaint i elwa o ddealltwriaeth ddyfnach o’u hiaith genedlaethol a diwylliannau Cymru.

Hoffem ddiolch i’r ymarferwyr canlynol am eu cyfraniadau i ddatblygu’r fframwaith Cymraeg:

Rachel Antoniazzi

Debbie Bond

Natasha Davies-Puddy

Alyson McKay

Bethan Moore

Yvonne Roberts-Ablett

Anna Vivian Jones

Mae’r adroddiad o’r ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn ar y fframwaith drafft ar gyfer addysg cyfrwng Saesneg ar gael yma.

Ac mae ffilm astudiaeth achos o Ysgol Pen y Dre hefyd ar gael, a ymddangosodd ar y blog yma yn gynharach yn y flwyddyn.

Ffilmiau adnodd newydd ar y cwricwlwm, a mwy ar y ffordd…

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae ffilmiau newydd yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd i’r safle adnoddau ar Hwb. Mae ychwanegiadau diweddar yn archwilio Asesu a Chynnydd, a datblygu Sicrhau Ansawdd yn Ysgol y Strade. Mae’r ffilmiau i’w gweld isod.

Datblygwyd adnodd pontio hefyd gan glwstwr Fitzalan. Yn seiliedig ar ymchwil, mae’n dangos sut y gellir defnyddio 5 pontydd ‘pontio’ i wneud trefniadau pontio ar draws y continwwm 3-16 yn gydlynol a chynhwysfawr.

Bydd adnoddau yn parhau i gael eu hychwanegu ar safle adnoddau Hwb yn ystod y flwyddyn ysgol, trwy gyfrwng Saesneg a Chymraeg, ond nid bob amser yn gydamserol. Bydd y cynnwys yn gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn. Mae hi bob amser yn werth gwirio’r tudalennau adnoddau yn y ddwy iaith i weld beth sydd ar gael yn llawn.

Datblygu dulliau asesu yn Ysgol y Strade:

Datblygu prosesau sicrhau ansawdd yn Ysgol y Strade:

Mae angen i’r Hawl  i Ddysgu Proffesiynol – fod yn ‘gyson ac o’r ansawdd uchaf’ 

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Does  na ddim amheuaeth o gwbl gyda fi fod ansawdd system addysg yn dibynnu ar ansawdd ei weithlu. Ac o’r herwydd, rwy’n hynod o falch o’r weithlu ymroddedig sydd gyda ni yng Nghymru.

Wrth siarad ag ymarferwyr, rwy’n aml yn cael gwybod am y dysgu proffesiynol ardderchog (PL) sydd ar gael, ond rwyf hefyd yn cael gwybod am yr anawsterau sydd gan rai wrth ddod o hyd i’r math ‘cywir’ o PL ar eu cyfer. Rwyf wedi gwrando, ac wedi gweithredu, ar y pryderon hynny.

Rwy’n falch iawn heddiw o gyhoeddi’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Mae hyn yn dod â phecyn o ddysgu proffesiynol at ei gilydd ar gyfer pob ymarferydd, fel y  gall pawb, ymhobman, elwa ohoni.

Nid yn unig y bydd yr Hawl  yn ei gwneud hi’n haws i ymarferwyr gael mynediad at raglenni a phrofiadau, ond yn bwysig iawn, mae’n gosod disgwyliadau clir ynglŷn â’r hyn y mae’n rhaid i bob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru  fod â’r hawl iddo. Os  nad yw’r hawl hwnnw ar gael mewn ardal benodol ar hyn o bryd, byddwn yn gweithio’n gyflym gyda phartneriaid i wella’r cynnig.  Bydd yn ddogfen ‘fyw’ – wedi’i mireinio a’i gwella wrth i ni barhau i wneud cynnydd.

Rwy’n glir bod yn rhaid i’n cynnig cenedlaethol fod yn gyson ac o’r  ansawdd uchaf posib.  Byddaf felly yn cyflwyno proses ddilysu newydd cyn bo hir er mwyn sicrhau bod yr ansawdd yr holl ddysgu proffesiynol cenedlaethol yn cael ei sicrhau a’i gydnabod.

Cafodd gwefan draws ranbarthol newydd ei lansio yr wythnos hon hefyd.   (link) Mae creu’r wefan hon yn arwyddocaol – mae’n dangos ein bod yn chwalu’r rhwystrau i weithio cydweithredol.  Bydd y safle’n parhau i ddatblygu, gan gynnig mynediad i bawb at gyfleoedd pellach ac adnoddau dysgu proffesiynol.

Mae’r broses ddilysu  newydd a’r wefan draws ranbarthol newydd yn gamau pwysig tuag at gynnig cyson, wedi’i dilysu, sy’n uchel ei barch ac sydd ar gael i bawb.

Mae gan systemau addysg sy’n perfformio orau yn y byd ymarferwyr disglair  sy’n ymroddedig i ddysgu parhaus. Mae’r Hawl ry’ i’n ei gyhoeddi heddiw yn gam pellach yn ein hymdrechion i gefnogi ein hymarferwyr i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes sy’n gwella eu harfer eu hunain er mwyn cymell ac ysbrydoli dysgwyr ledled Cymru.

Yn olaf, mae’n bwysig i mi fy mod i’n clywed yn uniongyrchol gan gymaint ohonoch chi â phosib.   Bob mis rwy’n cynnal bwrdd crwn gyda phenaethiaid ac arweinwyr yn y sector addysg.  Os nad ydych wedi cymryd rhan, hoffwn glywed gennych yn fawr. E-bost dysg@gov.wales