Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Cwricwlwm newydd yn ystod cyfnod heriol

Read this page in English

Yn ystod y blynyddoedd pan oedd CiG yn cael ei gyd-lunio, roedd y syniad o fframwaith a chanllawiau newydd (rydyn ni’n ofalus i beidio â’i alw’n gwricwlwm!) yn ymddangos yn rhywbeth pell-i-ffwrdd i lawer ohonom, nid yn rhywbeth i gynhyrfu neu gyffroi amdano am beth amser. 

Kath Lewis, Arweinydd Strategol
ar gyfer Diwygio’r Cwricwlwm

Dros gyfnod o bedair blynedd, treuliodd arbenigwyr, academyddion ac athrawon fel ei gilydd amser yn ymgodymu â chwestiynau athronyddol enfawr, gan gnoi cil ar ‘gwricwlwm’ a sut beth allai fod yng Nghymru.  Roedd y sgyrsiau athronyddol “oni fyddai’n wych pe bai…?”, “pam ein bod ni wastad wedi gorfod…?” a “pam nad ydyn ni’n…?” yn adleisio drwy goridorau, ynghyd â thrafodaethau tanbaid ar adegau ynghylch beth ddylai gael ei gynnwys yn y fframwaith cenedlaethol, a beth ddylai gael ei adael i ysgolion ac ymarferwyr benderfynu arno. 

Fodd bynnag, y ‘dethol rai’ oedd yn rhan o’r sgyrsiau hyn – y rheini a oedd wedi sicrhau sedd wrth y bwrdd arloesi.  Beth, felly, am y lleill? Beth am y rhai a oedd yn anghytuno â’r hyn a gyflwynwyd iddynt?  Beth am y rheini nad oeddent eisiau’r ffordd newydd hon?  Cafodd y drafft ei gyhoeddi, cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori (gyda 1200 o ymatebion wedi dod i law), cyrhaeddodd y fframwaith a’r canllawiau terfynol a ph’un a oeddech chi wedi eistedd wrth y bwrdd arloesi hwnnw, p’un a oeddech chi wedi rhannu eich safbwyntiau drwy’r ymgynghoriad, neu heb fod yn rhan o gwbl, daeth 28 Ionawr 2020 yn Ddiwrnod 1 ar gyfer CiG; cychwyn newydd i bawb, yn mynd â phawb at y fframwaith, nid at fersiynau drafft neu gopïau yr oeddent efallai wedi’u gweld neu eu benthyg ar hyd y ffordd. 

Fodd bynnag, y ‘dethol rai’ oedd yn rhan o’r sgyrsiau hyn – y rheini a oedd wedi sicrhau sedd wrth y bwrdd arloesi.  Beth, felly, am y lleill? Beth am y rhai a oedd yn anghytuno â’r hyn a gyflwynwyd iddynt?  Beth am y rheini nad oeddent eisiau’r ffordd newydd hon?  Cafodd y drafft ei gyhoeddi, cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori (gyda 1200 o ymatebion wedi dod i law), cyrhaeddodd y fframwaith a’r canllawiau terfynol a ph’un a oeddech chi wedi eistedd wrth y bwrdd arloesi hwnnw, p’un a oeddech chi wedi rCyn y diwrnod hwnnw, efallai fod llawer wedi edrych ar y pedwar diben ac wedi ystyried yr egwyddorion addysgeg, ond dim ond ar ôl cael y cyhoeddiad terfynol y gallem i gyd weithio’n ddibynadwy o’r canllawiau a dechrau gwneud synnwyr o’r cwricwlwm yng nghyd-destun pob ysgol.  Roedd Diwrnod 1 yn ddechrau proses a allai, gellid dadlau, fod y mwyaf heriol i ymarferwyr ysgol Cymru ei phrofi ers cyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1988.

Ac felly, ymlaen â ni i’r presennol.  18 mis ar ôl Diwrnod 1.  Yn ystod y cyfnod hwnnw byddem wedi gallu dod i adnabod y fframwaith, cydweithio o fewn timau, clystyrau a rhwydweithiau ysgolion; dadansoddi, gofyn beth allai fod yn bosibl i ddysgwyr, ystyried sut i gymryd y fframwaith cenedlaethol hwn – nid cwricwlwm – a’i droi’n gwricwlwm sy’n gweddu i’n dysgwyr fel ei fod yn bendant yn well na’r hyn a oedd gennym o’r blaen. Ond roedd hynny cyn i Covid-19 newid y byd.  Pwy allai fod wedi dychmygu y byddai pandemig yn ein taflu oddi ar y trywydd? Yn dwyn amser oddi wrthym ac yn tarfu ar fywydau, fel y gwnaeth?  Lle’r oedd y CiG gynt y peth pwysicaf yn ein maes, i lawer o ysgolion dyma’r lleiaf o’u pryderon bellach, y peth y byddan nhw’n ei wneud ond ddim eto, nid tra maen nhw’n canolbwyntio ar reoli argyfwng. Mae’r pandemig wedi bod yn feistr caled, nid yw’n cymryd i ystyriaeth y rheini nad oeddent yn rhan o’r broses arloesi a bod angen mwy o amser arnynt, y rheini sydd â mynydd enfawr i’w ddringo. Mae Covid wedi effeithio’n sylweddol ar bob ysgol, ac mae’n parhau i wneud hynny, a hynny’n waeth nawr nag erioed mewn llawer o achosion. 

Fodd bynnag, bu llygedyn o obaith hwnt ac yma.  O’r heriau a’r tarfu, rydym wedi gweld arloesi, creadigrwydd a ffyrdd newydd o feddwl yn gwthio drwodd.  Mae llawer o ysgolion wedi trawsnewid eu ffyrdd o weithio, wedi addasu arferion, wedi mireinio dulliau gweithredu, wedi defnyddio llawer iawn o egni ac wedi meddwl yn ddwfn am y cwestiynau mwyaf sylfaenol: “Pam ydyn ni’n addysgu ein plant a’n pobl ifanc a beth mewn gwirionedd maen nhw ei angen gennym ni?“ I lawer, mae modd ateb y cwestiynau hynny’n fwy hyderus oherwydd bu’r ffocws yn y flwyddyn ddiwethaf ar ystyried beth sy’n bwysig o ran dysgu, sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu (mewn ystafelloedd dosbarth, ar-lein a thrwy gyfuniad o’r ddau), a beth maen nhw’n gallu ei wneud i gefnogi pob dysgwr – eu camau mawr a’u camau micro wrth ddysgu, eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, eu bywydau cartref a’r cymunedau lle maen nhw’n byw.  Er gwaethaf yr ansicrwydd a’r tarfu, mae llawer o ysgolion ledled Cymru wedi creu sylfaen gadarn ar gyfer symud CiG yn ei flaen. 

Yr hyn sydd ar ôl yw i bob ysgol a lleoliad ledled Cymru edrych ar yr hyn sy’n bwysig mewn dysgu – y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, edrych ar sut mae dysgu’n cael ei ddisgrifio ar lefel genedlaethol – y disgrifiadau o ddysgu, ac fel ysgol neu glwstwr, trefnu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn dod â’r cysyniadau hynny o ‘beth sy’n bwysig’ a syniadau mawr yn fyw.  Ac mae hynny’n dipyn o gamp! Ymarferwyr sydd wrth y gwaith bob dydd ac mae angen eu sylw a’u gofal nhw ar ddysgwyr yn fwy nag erioed, felly sut mae creu’r amser a’r lle i alluogi hyn?

Fel gyda phopeth mewn bywyd, mae’n dechrau gyda chamau bach.  Mae’n dechrau drwy wybod na allwch chi wneud popeth ar eich pen eich hun, ac nad oes rhaid i chi wneud hynny.  Mae CiG yn gyfle Fel gyda phopeth mewn bywyd, mae’n dechrau gyda chamau bach.  Mae’n dechrau drwy wybod na allwch chi wneud popeth ar eich pen eich hun, ac nad oes rhaid i chi wneud hynny.  Mae CiG yn gyfle enfawr ond yn un na allwn fynd i’r afael ag ef ar ein pen ein hunain.  Rhaid i ni ddibynnu ar ein gilydd i rannu, cydweithio a chyfuno gwybodaeth ac arbenigedd gan ymarferwyr ar draws ein clystyrau a’n rhwydweithiau amrywiol.  Mae’n golygu adnabod pa gefnogaeth a dysgu proffesiynol sydd eu hangen arnoch gan eich rhanbarth.  

Nid yw gweithio mewn clystyrau a chydweithio yn ateb sydyn i bopeth. Wrth gwrs, nid yw heb ei heriau. Ond does dim amheuaeth, o’r clystyrau rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda nhw’n uniongyrchol, na allai unrhyw gynnyrch parod atgynhyrchu’r manteision na’r allbwn maen nhw wedi’i gynhyrchu o’r broses honno.  Mewn llawer ffordd, cydweithio a chreu rhywbeth pwrpasol ar lefel leol yw greal sanctaidd CiG. 

Felly, beth am y llu o gynhyrchion, cynlluniau neu becynnau rydyn ni’n eu defnyddio’n barod neu sy’n dal i gael eu cynnig gyda’r addewid o sicrhau bod ysgolion yn barod ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru? Wrth gwrs y gall cynhyrchion gefnogi syniadau am y cwricwlwm a bod yn rhywbeth i bwyso arno pan nad oes gan ysgolion ddigon o arbenigedd a hyder i weithredu ar eu pen eu hunain.  Byddwn mewn cyfnod pontio am beth amser ac nid oes gwadu y bydd rhai ysgolion yn defnyddio adnoddau, deunyddiau a chanllawiau sydd wedi bod yn effeithiol neu’n ddefnyddiol iddynt yn y gorffennol. Ond efallai mai’r neges gryfaf y gallwn ei rhannu yw bod gwneud hynny o fewn CiG yn dod gyda chafeatau. Rhaid i’r deunyddiau rydyn ni’n eu defnyddio i gefnogi ein gwaith cynllunio, addysgu a dysgu fod wedi cael eu dewis yn fwriadol i gyflwyno’r dysgu sydd wedi’i nodi a’i drefnu yn ein cwricwlwm ar lefel ysgol, yn hytrach na chyflawni bwriadau sydd wedi’u pennu ymlaen llaw gan y cynnyrch.  Mae pob ysgol, pob ymarferydd yn gwybod beth mae eu dysgwyr yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud, ac mae pob ymarferydd yn gwybod beth ddylai’r camau dysgu nesaf fod ar gyfer yr unigolion hynny.  Rhaid inni ymddiried yn ein barn yn hyn o beth. Mae’r lefel honno o wybodaeth fewnol, yn y fan a’r lle, yn llawer mwy gwerthfawr nag unrhyw gamau neu weithgareddau nesaf cyffredinol o fewn cynnyrch statig sydd wedi’i gyhoeddi. Rhaid i ni ymddiried yn ein proffesiynoldeb, yn y cymwyseddau sydd gennym yn barod ac yr ydym yn eu datblygu ymhellach drwy ddysgu proffesiynol, gan wybod y bydd ein hyder yn cynyddu wrth i ni barhau ar y daith tuag at weithredu’r CiG. 

Mae angen i ni gefnogi a herio, nid beirniadu; meddwl ac ystyried ond nid barnu, a chynnig geiriau o hyder ac anogaeth i’n gilydd yn ystod y blynyddoedd i ddod.  Mae CiG yn dal i fod yn syniad cyffrous ond i rai, bellach, mae’n newid enfawr sydd ar y gorwel.  Nid yw newid yn hawdd ac mae newid ar y raddfa hon mewn pandemig yn ddigynsail, ond nid yw’n golygu nad yw’n bosibl! Mae angen inni gefnogi ein gilydd, cydweithio a byddwn yn cyflawni pethau gwych ar gyfer ein dysgwyr.  Nid pawb ar yr un pryd ac nid heb darfu, mynd ar lwybr hir o bryd i’w gilydd ac, weithiau, gymryd cam yn ôl, ond rhaid inni barhau i symud ymlaen.

Kathryn Lewis, Arweinydd Strategol ar gyfer Diwygio’r Cwricwlwm

  • I gael cymorth a gwybodaeth am ddysgu proffesiynol, cysylltwch â’ch consortia rhanbarthol.

Gadael ymateb