
Mae ail-ddychmygu a diwygio cymwysterau TGAU yn hanfodol er mwyn creu ffordd newydd o ddysgu a fydd yn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd, astudio a gweithio yn yr unfed ganrif ar hugain.
I ategu’r Cwricwlwm newydd i Gymru, rydym yn edrych ar sut y gallwn wneud rhywbeth newydd gyda chymwysterau i baratoi dysgwyr i lwyddo mewn byd sy’n ansicr ac sy’n newid yn barhaus.
Rydym bellach wedi cytuno ar y pynciau y bydd cenhedlaeth newydd o TGAU addas ar gyfer y dyfodol yn cael eu cynnig ynddynt.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn gwrando ac yn trafod syniadau drwy ein sgwrs genedlaethol i gyd-greu cymwysterau TGAU. Cynnwys newydd a dulliau asesu newydd yw rhai o’r pethau y byddwn yn edrych arnynt wrth inni symud i ffyrdd mwy hyblyg ac ystwyth o ddysgu.
Fel rhan o’n rhaglen Cymwys ar gyfer y Dyfodol rydym yn recriwtio athrawon a gweithwyr addysgol proffesiynol i’n helpu gyda’r her gyffrous hon. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â ni wneud cais drwy ein gwefan.

Rydym am i bawb sydd â diddordeb mewn addysg gyfrannu at y sgwrs genedlaethol fel y gallwn ddiwallu anghenion ein cymunedau.
Mae hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu cymwysterau creadigol a chynaliadwy a fydd yn ymateb ac yn addasu i’r newidiadau cyflym a chynyddol sy’n ein hwynebu mewn cymdeithas.
Mae cytuno ar yr ystod o bynciau TGAU newydd yn nodi dechrau’r daith ddiwygio gyffrous hon.
Bydd y cymwysterau TGAU newydd hyn yn rhoi dewis o bynciau i ddysgwyr ac ysgolion sy’n adlewyrchu ehangder a chydbwysedd y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd llai o gymwysterau TGAU ar wahân mewn mathemateg, gwyddoniaeth ac ieithoedd yn rhoi mwy o le i ddysgwyr gael profiadau ehangach ar draws y cwricwlwm cyfan.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at y sgwrs genedlaethol gysylltu â ni drwy e-bostio diwygio@cymwysteraucymru.org
Mae’r Adroddiad Penderfyniadau llawn ar gael i’w ddarllen a’i lawrlwytho ar ein gwefan.
Emyr George, Cyfarwyddwr polisi a diwygio cymwysterau, Cymwysterau Cymru