Neidio i'r prif gynnwy

Adnodd newydd ar gyfer Gwerthuso a Gwella Ysgolion yn cael ei ddatblygu – cyfle i ddysgu mwy ar 12 Hydref

Read this page in English

Mae adnodd wedi bod yn cael ei ddatblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i helpu ysgolion i hunanwerthuso a gwella. Mae wedi cael ei lunio gydag ymarferwyr a chyda cefnogaeth Estyn, ac wedi’i brofi gan 100 o ysgolion dros yr wythnosau diwethaf. Cynhelir cynllun peilot cenedlaethol o fis Tachwedd.

Bydd cyfle i ymarferwyr ddysgu mwy am yr adnodd a chael syniad bras o sut i’w ddefnyddio ar 12 Hydref o 2:00-3:00pm. Bydd y digwyddiad ‘Cipolwg ar Bolisi’ yn cynnwys disgrifiad o’r nodweddion a sut y gellir eu defnyddio yng nghyd-destun yr ysgol heb gynyddu’r baich gweinyddol.

Er mwyn ymuno â’r sesiwn, cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen hon. Os nad oes modd i chi fod yn rhan o’r digwyddiad, bydd y sesiwn gyfan ar gael fel adnodd rhestr chwarae all-lein a bydd dolen ato ar y dudalen hon. Gweler y sesiwn yma.

Trefnir digwyddiadau ‘Cipolwg ar Bolisi’ gan athrawon sydd ar secondiad yn Llywodraeth Cymru, ac maent wedi’u cynllunio er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i ymarferwyr am ddysgu proffesiynol, yn enwedig gan ei fod yn gysylltiedig a gweithredu’r cwricwlwm. Mae trosolwg, rhestr o ddigwyddiadau a ffurflen i gadw lle ar gael yma.

Dyma rai o’r digwyddiadau sydd ar y gweill:

Diweddariad am Ddysgu Proffesiynol ac ail-lansio’r Prosiect Ymholi Proffesiynol – 11  Tachwedd

Diweddariad am y Daith Dysgu Proffesiynol Digidol – 9 Rhagfyr

Gadael ymateb