Darllenwch y post hon yn Saesneg
Yn yr hydref eleni, mae Rhwydwaith Cenedlaethol newydd yn cael ei sefydlu i gefnogi’r gwaith o ddylunio, mabwysiadu a gweithredu’r cwricwlwm newydd. Caiff y gwaith ei berchnogi a’i hwyluso gan ymarferwyr addysgu, ac rydyn ni nawr yn chwilio am unigolion i helpu i gynllunio a llywio gwaith y Rhwydwaith a sut y caiff ei weithredu. Mae cyfle ichi ddatgan diddordeb nes 12 Gorffennaf.

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn cynnal cyfres o ‘sgyrsiau’ cenedlaethol y gall unrhyw ymarferydd yng Nghymru gymryd rhan ynddyn nhw. Fe fyddan nhw’n gweithredu ar lefel genedlaethol, yn rhithiol i ddechrau, ond mae’n bosibl y cynhelir cyfarfodydd i fynd iddyn nhw’n gorfforol hefyd.
Bydd yn helpu ymarferwyr i:
- gysylltu – hyrwyddo rhwydweithio a helpu i ddatblygu’r berthynas rhwng gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr addysg a rhanddeiliaid a all helpu ysgolion a lleoliadau yn uniongyrchol
- ysgogi newid – bydd sgyrsiau yn helpu i gefnogi camau gweithredu ar bob lefel
- casglu a rhannu dealltwriaeth – dod â gwahanol farn, safbwyntiau ac arbenigedd ynghyd yn genedlaethol er mwyn deall sut rydyn ni’n gwneud cynnydd, beth yw’r heriau a sut mae pobl yn ymateb iddyn nhw
- cyd-greu dulliau gweithredu – gyda’n gilydd, fe fyddwn ni’n penderfynu beth y gall gweithwyr addysgu proffesiynol, rhanddeiliaid, partneriaid galluogi a’r llywodraeth ei wneud i oresgyn yr heriau hyn, gan gynnwys nodi adnoddau i fynd i’r afael ag unrhyw beth sy’n rhwystro camau gweithredu, ynghyd â chyfleoedd dysgu proffesiynol.
Yn y pen draw, bydd yn helpu ymarferwyr i gyd-greu dulliau gweithredu ymarferol yn wyneb yr heriau, a mynd â’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu yn ôl i’w hysgolion, eu lleoliadau a’u clystyrau i’w sefydlu ac ymchwilio ymhellach.
Ac, yn bwysig iawn, bydd yn creu amser a chyfle i ystyried ac ymgysylltu.
Caiff y safbwyntiau, yr heriau a’r adborth a fydd yn codi yn y Sgyrsiau eu dadansoddi a’u defnyddio er mwyn llywio polisi’r llywodraeth a dulliau gweithredu partneriaid galluogi.
Yr ymarferwyr fydd yn arwain o ran dewis pynciau. Mae’r canlynol eisoes wedi’u nodi ar gyfer yr hydref:
- Paratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm, gan adeiladu ar ei brif gysyniadau
- Datblygu a sefydlu cynnydd, a sut mae hyn yn sail i asesu
- Yr adnoddau a’r deunyddiau ategol delfrydol ar gyfer y cwricwlwm newydd
A hoffech chi helpu?
Rydyn ni’n chwilio am ymarferwyr i gynllunio a hwyluso’r sgyrsiau hyn, ynghyd â phartneriaid addysg allweddol, ac felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan unigolion o bob math o ysgol a lleoliad, o addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg, ac sydd â sgiliau a gwybodaeth ar draws ystod o bynciau.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Sgiliau arwain cryf i helpu i sefydlu a chynnal ethos o her a chefnogaeth, gan arddangos gwerthoedd, agweddau a dulliau gweithio sy’n hollbwysig wrth weithio ar y cyd.
- Y gallu i lywio a rheoli sgwrs, annog pobl i gymryd rhan, ystyried a nodi’r prif themâu, a thrin pobl yn deg, ag urddas a pharch.
- Profiad o ddylunio cwricwlwm a brwdfrydedd dros y gwaith.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r rhwydwaith, ond nid yn y gwaith cynllunio a hwyluso, bydd digon o gyfleoedd yn codi dros y flwyddyn nesaf.
Ymrwymiad amser
Mae yna wahanol ffyrdd o gefnogi’r rhwydwaith, felly bydd yr ymrwymiad amser yn amrywio, yn dibynnu ar sut rydych chi am gymryd rhan. Dyma’r cyfleoedd:
- Cynllunio a strwythuro sgyrsiau – ymrwymiad o tua 2 ddiwrnod y tymor
- Hwyluso sgyrsiau’r rhwydwaith gydag ymarferwyr eraill – ymrwymiad o tua 3-4 diwrnod y tymor (gan gynnwys paratoi ac ôl-drafodaeth)
- Nodi’r prif flaenoriaethau a rhwystrau o ran diwygio – ymrwymiad o tua 2 ddiwrnod y tymor
- Helpu i lywio cyfeiriad a ffocws cyffredinol y rhwydwaith – ymrwymiad o tua 2-4 diwrnod y tymor
- Gweithio gyda rhanddeiliaid y tu allan i fyd addysg i ddatblygu dulliau gweithredu – ymrwymiad o tua 2-4 diwrnod y tymor
- Adolygu canfyddiadau sgyrsiau a gwneud argymhellion – ymrwymiad o tua 2- 4 diwrnod y tymor
- Helpu i ddatblygu comisiynau ar gyfer adnoddau a deunyddiau ategol – ymrwymiad o tua 2-4 diwrnod y tymor
Cyllid
Caiff ysgolion eu had-dalu am amser y bydd ymarferwyr yn ei dreulio yn cefnogi’r gwaith o redeg y rhwydwaith cenedlaethol, ar gyfradd o £200 y diwrnod, ar sail pro-rata fel y bo’n briodol.
Ydych chi mewn sefyllfa dda i gyfrannu? Os ydych, gwnewch gais yma
Tîm y Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru