Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn sgil y cwricwlwm newydd daw cyfleoedd newydd i ailedrych ar ein dulliau addysgu. Mae’n gyfnod cyffrous ond gall deimlo’n heriol hefyd. Felly mae ‘Trafod Addysgeg’ wedi cael ei greu fel man cyfeillgar i rannu a dysgu am ddulliau gweithredu addysgeg. Mae’n rhan o’r gefnogaeth ehangach ar gyfer dysgu proffesiynol.
Dyma Matt a Lucy yn esbonio sut y mae ‘Trafod Addysgeg’ yn gweithio iddyn nhw:
Cyfleoedd i ymuno
Dechreuodd Trafod Addysgeg gyda thrafodaethau grŵp bychain yn Nhymor yr Hydref. Ers hynny, mae wedi tyfu a newid i ddiwallu anghenion a diddordebau gwahanol. Mae rhan o’r twf hwn yn cynnwys digwyddiadau byw rheolaidd sy’n rhoi cyfle i glywed gan gydweithwyr a chynnal sgyrsiau ag eraill ar draws Cymru.
I gymryd rhan, cliciwch yma ar Trafod Addysgeg. Wedi i chi fynd i mewn, defnyddir y sianel Cyffredinol i roi’r newyddion diweddaraf i chi am weithgarwch sydd yn yr arfaeth a byddwch yn cael gwahoddiadau di-ofyn i unrhyw ddigwyddiadau newydd. Gallwch hefyd ddal i fyny ag unrhyw sgyrsiau a chyflwyniadau blaenorol sydd wedi’u recordio a’u gosod ar y sianel berthnasol. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn ymuno â’r sianel, a ddylai edrych fel y llun isod, e-bostiwch FordM44@hwbcymru.net

Beth am ymuno ag un o’n sesiynau hamddenol ‘galw i mewn – dod i wybod mwy’ misol neu ewch yn syth i sgwrs o’ch dewis. Os hoffech weld ardal newydd yn agor am sgwrs heblaw y rhai sydd ar y rhestr, gadewch i ni wybod ac fe holwn i weld a oes diddordeb.
Am wybodaeth ehangach, ewch i’n tudalennau Addysgeg ar Hwb: https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/prosiect-addysgeg-cenedlaethol/
Gweithgareddau sydd eisoes yn y calendr:
Addysgeg ar ôl COVID (17 Mehefin, 4pm)
Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau ‘Rhannu’r hyn sy’n gweithio’ a oedd yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol dysgu cyfunol, mae’r grŵp hwn bellach yn edrych ar addysgeg ar ôl COVID ac yn meddwl ymlaen at y Cwricwlwm i Gymru. Sut y mae’n meddylfryd a’n harferion dros y deuddeg mis diwethaf yn dylanwadu ar ein gweithgarwch wrth symud ymlaen?
Ail feddwl am addysgeg – edrych ar y dystiolaeth (10 Mehefin, 4pm)
Mae edrych ar dystiolaeth ac ymchwil yn gallu newid meddylfryd a pheri i ni ystyried addysgeg ac arferion.
Yn y sesiwn hon, bydd athrawon sydd wedi defnyddio tystiolaeth i ysbrydoli newid mewn dulliau dysgu yn esbonio’r hyn a wnaethant, ac yn arwain y drafodaeth.
Bydd yr ail sesiwn hon yn canolbwyntio ar y ‘cof a dysgu – creadigrwydd a meddwl yn feirniadol’
Dulliau gweithredu creadigol mewn perthynas ag addysgeg a’r Cwricwlwm i Gymru (1 Gorffenaf, 3:45pm)
Rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad cychwynnol, y mae modd ei gweld fel recordiadau ar y sianel, lle cawsom glywed gan ddwy ysgol am eu taith yn edrych ar greadigrwydd a’i ymgorffori yn eu gwaith . Rydym ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer sesiynau yn y dyfodol, a gallwch ymuno â’r trafodaethau hyn, sy’n edrych ar ffordd greadigol o feddwl, Cwricwlwm i Gymru, y pedwar diben a’r 12 egwyddor addysgeg.
Edrych ar y 12 Egwyddor Addysgeg (7 Gorffennaf, 3:45pm)
Bydd panel o staff, ar draws ystod o oedrannau ysgol, yn rhannu’u profiadau a’u meddylfryd mewn awyrgylch o sgwrsio’n hamddenol, fel pob ystafell athrawon dda. Dewch â phaned i ymuno â ni, gofyn cwestiynau, siarad, neu beth am eistedd yn ôl, gwrando a dysgu wrth i chi farcio gwaith!
Bydd y ‘gyfres ystafell athrawon’ hon yn parhau yn nhymor yr Hydref, ac yn canolbwyntio ar egwyddor addysgeg benodol ym mhob sesiwn.
Addysgeg a Llafaredd (6 Gorffennaf, 3:45pm)
Mae’r grŵp bychan hwn o ysgolion cynradd ac uwchradd yn trafod pwysigrwydd ‘siarad ar gyfer dysgu a dysgu siarad’, rhan bwysig o fod yn ddysgwr hyderus ac abl.
Y digwyddiad hwn ym mis Gorffennaf yw’r trydydd o dri, ond mae cyflwyniadau a thrafodaethau’r ddau gyntaf ar gael ar y sianel Addysgeg a Llafaredd.
Dysgu a Chymhwysedd Digidol (24 Mehefin, 3:45pm)
Dewch i glywed mwy am agweddau ar y Daith Ddigidol mewn perthynas â Dysgu Proffesiynol ac ystyried, o bosibl, ddulliau dysgu cyfunol. Mwy na thebyg mai dyma fydd y sylfaen ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau yn nhymor yr Hydref.
Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau – Adeiladu Gwytnwch
Mae grŵp siapio Trafod Addysgeg wedi canolbwyntio ar Wrando ar Ddysgwyr a phwysigrwydd hynny yn ystod y pandemig. Mae’r cyflwyniad, ‘Sways’ a gynhyrchwyd ar gael yma unwaith y byddwch wedi ymuno â Trafod Addysgeg.
Mae’r grŵp nawr yn canolbwyntio ar adeiladu gwytnwch ac annog dysgwyr i weld pwysigrwydd ymdrech barhaus. Maent yn edrych am athrawon ac arweinwyr o ysgolion eraill i ymuno â nhw, felly os yw’r gwaith hwn yn berthnasol i’ch sefyllfa chi, ac os hoffech fod yn rhan o hyn, e-bostiwch neu anfonwch neges yn Trafod Addysgeg.
Sgyrsiau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, rydym yn dechrau sgyrsiau ynghylch y meysydd canlynol, ac mae arnom angen grwpiau bychain o athrawon i helpu i’w llunio. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o unrhyw un o’r rhain, cysylltwch drwy Trafod Addysgeg neu ar e-bost. Hefyd, cysylltwch os oes meysydd eraill sydd o ddiddordeb yr hoffech eu harchwilio.
- Edrych ar yr egwyddorion addysgeg
- Addysgeg, rhifedd a mathemateg
- Edrych ar ‘Ar Drywydd Dysgu’
- Edrych ar ddull gweithredu ‘gweithdy’ ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth
Mark Ford, arweinydd ‘Trafod Addysgeg’, Llywodraeth Cymru –