Ym mis Mawrth, cynhaliwyd ‘sgwrs genedlaethol’ ar gyfer ymarferwyr drwy Gymru, er mwyn rhannu profiadau a dysgu, a helpu i lywio dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer symud ymlaen y tu hwnt i Covid.
Roedd y sgyrsiau gwerthfawr, personol hyn yn onest iawn. Er mwyn rhannu naws a chanlyniad y trafod mae podlediad a fideos ategol.

Fideos gan addysgwyr blaenllaw
Cafodd y rhain eu rhannu ymlaen llaw i annog trafodaeth ac ystyriaeth mewn grwpiau, ond maent yn ddefnyddiol i unrhyw ymarferydd sy’n meddwl am ddysgu ac addysgu yn y cam nesaf.
Mae Mike Griffiths yn siarad am effaith datblygu ar y cyd, gan gyflwyno cwestiynau am yr hyn sydd wedi gweithio’n dda, a pham, dros y flwyddyn ddiwethaf ym maes dysgu ac addysgu.
Mae Robin Bannerjee yn siarad am yr angen i adeiladu sylfeini cryf ar gyfer dysgu ymysg dysgwyr, gan gynnwys pwysigrwydd llesiant, ac mae’n gofyn cwestiynau am sut y gallwn ni roi cymorth i ddysgwyr er mwyn iddynt fod yn barod i ddysgu yn y dyfodol.
Mae’r Athro Graham Donaldson a Louise Hayward yn siarad am bwysigrwydd dilyniant dysgwyr, ailgynnau diddordeb a chwilfrydedd dysgwyr, a phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru fel pethau i ganolbwyntio arnynt i’r dyfodol.
Graham Donaldson:
Louise Hayward:
Adroddiad dadansoddi adborth
Mae’r dadansoddiad o’r adborth o’r sesiynau, gan gynnwys natur y sgyrsiau, y themâu a’r casgliadau, bellach ar gael yn yr adroddiad hwn.