Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Cafodd canllawiau’r cwricwlwm a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020 eu creu mewn partneriaeth ag ysgolion, gyda chefnogaeth arbenigwyr, dros nifer o flynyddoedd. Cawsant eu llywio hefyd gan broses ymgynghori helaeth yn 2019, ac roedd yr adborth o’r broses honno’n cyfeirio at yr angen am ganllawiau ychwanegol a rhai diwygiadau mewn meysydd allweddol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ymarferwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid wedi bod yn datblygu’r canllawiau ychwanegol a diwygiedig hynny ar y cyd, sydd bellach yn cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori.
Mae wyth maes yn rhan o’r ymgynghoriad, a fydd yn para am wyth wythnos tan 16 Gorffennaf. Unwaith y bydd yr adborth wedi’i ddadansoddi, bydd canllawiau’r cwricwlwm yn cael eu diweddaru a’u cyhoeddi mewn dwy gyfres – Medi a Rhagfyr – eleni.
Teitlau’r ymgynghoriad yw:
- Canllawiau a Chod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Gwerthoedd, Crefydd a Moeseg
- Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith
- Agor Llwybrau
- Diwygiadau i’r Fframweithiau Sgiliau Trawsgwricwlaidd
- Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir
Yr is-ddeddfwriaeth gysylltiedig yw:
Rwy’n falch dros ben i weld bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau’r elfen o hanes Cymru a’i diwylliant ym meysydd y dyniaethau a’r celfyddydau mynegiannol yn y cwricwlwm newydd.
Bydd angen cydweithio gydag (a rhwng) ysgolion, awdurdodau addysg lleol a phrifysgolion er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng-Cymraeg.