Neidio i'r prif gynnwy

Amgueddfa Genedlaethol yn estyn allan gydag adnoddau cyfoethog

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mewn blwyddyn arferol, byddai dros 200,000 o ddisgyblion Cymru a thu hwnt yn ymwneud â chynnig addysgiadol Amgueddfa Cymru. Yn 2020, gyda’n hamgueddfeydd ar gau am gyfnodau, bu’n rhaid meddwl am sut i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cael mynediad atom a sut orau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru ‘o bell’.

Aethom ati i fuddsoddi mewn cyfarpar fyddai’n ein galluogi i gysylltu ag ysgolion dros Teams, sicrhau bod mynediad at ein casgliadau a datblygu cynnwys fyddai’n annog sgiliau ymholi a chwilfrydedd, gyda’r ffocws ar y Cwricwlwm i Gymru.

Mewn cwta dau fis, roedd dros 4,000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn un neu fwy o’n sesiynau rhithwir a’r ymateb iddynt yn wych. Dyma ymateb un athrawes i sesiwn ar y Celtiaid:

Mae’r Celtiaid Yn Dod!!! Laura Emanuel – athrawes Blwyddyn 3, Abertawe

Eleni, wedi sawl blwyddyn yn y Cyfnod Sylfaen, dwi wedi symud i Gyfnod Allweddol 2 (CA2). Roedd yn syniad cyffrous iawn, tan imi sylweddoli y bydden ni’n dysgu am ‘Y Celtiaid’! Roeddwn i’n bryderus iawn. Gan nad oeddwn i fy hun erioed wedi dysgu amdanyn nhw yn yr ysgol, doedd gen i ddim gwybodaeth am y pwnc na phrofiad o’i ddysgu. Archebais sawl llyfr ar-lein a darllen y rheiny, a ‘googlo’ ac ymchwilio gymaint â phosib. Roeddwn i’n dal yn nerfus iawn. Doeddwn i ddim yn siŵr sut i ddechrau’r pwnc na pa gyfeiriad i’w ddilyn. Roeddwn i’n awyddus i wneud cyfiawnder â’r peth, yn enwedig gan fod y pwyslais ar y cwricwlwm newydd yn hybu plant i fod yn ‘ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’. “Mewn cyd-destunau cyfoes a hanesyddol, gall ymchwilio ac archwilio’r profiad dynol yn eu hardal eu hunain a gweddill Cymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach, fod o gymorth i ddysgwyr ddarganfod eu treftadaeth a datblygu ymdeimlad o le a chynefin. Gall hyn hefyd hyrwyddo dealltwriaeth o’r ffordd y mae pobl Cymru, ei chymunedau, ei hanes, ei diwylliant, ei thirwedd, ei hadnoddau a’i diwydiannau yn cydberthyn i weddill y byd.”

Soniais wrth Leisa, o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, ein bod ni ar fin dechrau dysgu am y Celtiaid. O fewn munudau roedd hi wedi anfon posteri a dolenni at weithdai ar-lein am… y Celtiaid! Darllenais y wybodaeth ac roedd yn swnio’n wych. Dwi wedi ymweld â Sain Ffagan o’r blaen ac wedi cael amser gwych bob tro felly roeddwn i’n croesawu ac yn ymddiried yn unrhyw beth gan Amgueddfa Cymru! Soniais amdano wrth weddill staff CA2 ac roedden nhw i gyd yn awyddus i gymryd rhan. Yn unol â’r cyfarwyddiadau syml ar y dolenni a anfonodd Leisa, anfonais e-bost cyflym at Rachel. Ar yr un diwrnod cynigiwyd dyddiadau i ni ar gyfer gweithdai, rhoddwyd mwy o wybodaeth i ni, ffurfiwyd perthynas ac roedd yr hyder yn codi! Roeddwn i’n teimlo’n barod i ddechrau ar y pwnc, gan wybod bod arbenigwyr yn gefn i mi.

Yna anfonwyd e-byst unigol at bawb, gyda’r slotiau amser y cytunwyd arnynt a dolenni at y cyfarfod ar-lein. Derbyniodd pawb hefyd adnoddau hyfryd a chynllun i’w defnyddio. Cyn y cyfarfod ar-lein, cawsom gyfarwyddyd i wylio fideo. Dyma ni’n defnyddio delwedd o bentref Celtaidd i ennyn diddordeb drwy’r sgiliau meddwl “Rwy’n gweld, Rwy’n meddwl, Rwy’n dychmygu” cyn gwylio’r fideo lle mae actor yn ein harwain drwy fywyd dyddiol mewn tŷ crwn Celtaidd. Gwarandawodd y plant yn astud. Dyma’r plant wedyn yn creu rhestr o gwestiynau – llawer mwy o gwestiynau nag y bydden nhw heb y fideo. Roedden nhw’n frwdfrydig am eu bod yn gwybod y byddai ganddyn nhw’r cyfle i holi arbenigwr. Ar ddiwrnod yr alwad fideo, eisteddodd y plant o flaen y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol ac roeddwn i’n difaru peidio prynu popcorn, gan fod eu llygaid mor sownd at y sgrîn. Daeth y fenyw ymlaen ac roedd hi’n groesawgar ac yn broffesiynol ond gwnaeth yn siŵr ein bod yn chwerthin trwy gydol y gweithgaredd hefyd. Fe atebodd hi ein cwestiynau yn wych – hyd yn oed y rhai mwyaf heriol! Dyma hi wedyn yn mynd â ni ar gloddfa rithwir a gweld sawl arteffact a sgerbwd. Roedd y plant wrth eu boddau. Roedd y fenyw yn ymwneud â ni’n barhaus ac yn gofyn barn y plant drwy’r amser, roedd hi’n gwerthfawrogi pob ymdrech a syniad.

Yn dilyn y fideo, cafwyd adnoddau ac awgrymiadau ar ddatblygu’r pwnc ymhellach, gan ein gwneud ni’n frwdfrydig iawn. Rwy’n teimlo bod y plant wedi dysgu tipyn mwy nag ar ‘ymweliad dydd’, oherwydd nad oedd dim i dynnu sylw oddi ar y gwaith. Yn aml ar ymweliad, mae’r plant mor gyffrous i fod allan o’r dosbarth nes eu bod nhw’n colli’r gallu i ganolbwyntio. Rwy’n obeithiol iawn y byddwn yn gallu ymweld â Sain Ffagan yn fuan, gan fy mod i wir yn credu y byddan nhw’n gyffrous tu hwnt i weld yr holl bethau hyfryd y maen nhw wedi dysgu amdanynt – yn y cnawd! Rwy’n credu bod y broses o ddysgu gyda Sain Ffagan cyn yr ymweliad yn sicr yn mynd i fod o gymorth iddyn nhw archwilio gyda mwy o wybodaeth a brwdfrydedd, gan gysylltu â’r dreftadaeth a diwylliant yr ydyn ni bellach mor ymwybodol ohono! Diolch o galon i Amgueddfa Cymru, tîm a hanner!

A nid dim ond y Celtiaid sydd ar gael…mae sesiynau ar y Rhufeiniaid yng Nghymru, Deinosoriaid, Diwrnod Golch yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Tirluniau Cymru mewn Celf. Rydym wrthi’n gweithio ar fwy o sesiynau ac yn buddsoddi er mwyn sicrhau y bydd modd ymgysylltu â phob un o’n safleodd yn rhithwir.

Cynnal ein addasrwydd, rydym wedi addasu eto i sicrhau y gallwn gysylltu ag athrawon a dysgwyr yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mae’r sefyllfa wedi golygu bod ysgolion na fyddai’n gallu ymweld yn arferol oherwydd pellter, cyfyngiadau amser neu arian yn gallu cymryd rhan bellach. Mae’r adborth yn dangos bod y sesiynau yn cyfoethogi profiadau’r disgyblion yn y dosbarth ac yn cefnogi’r cwricwlwm.

Er na wyddwn yn iawn beth sydd o’n blaenau yn y flwyddyn i ddod, mae’r ffordd yr ydym yn cysylltu â disgyblion ar draws Cymru wedi newid am byth – a hynny’n dda o beth.

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i’n gwefan www.amgueddfa.cymru/addysg neu dilynwch ni ar Trydar @Amgueddfa_Learn 

Gadael ymateb