Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) wedi cwblhau ei gam olaf yn y Senedd cyn cael ei basio’n gyfraith. Wedi iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol, a ragwelir ym mis Ebrill, bydd y Bil yn dod yn Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Disgwylir i Gwricwlwm Cymru gael ei gyflwyno o fis Medi 2022.
Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog gynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru yn nodi’r camau nesaf yn nhaith ddiwygio Cymru, cyn cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Ochr yn ochr â chynllun gweithredu diweddaraf Cenhadaeth Ein Cenedl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen hefyd yn nodi ein disgwyliadau o’r hyn y bydd gwireddu’r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr ac ysgolion o 2022. Mae Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022 wedi’i greu i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu’r Cwricwlwm a fydd yn llywio’n gwaith ar y cyd â phartneriaid i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae hynt y bil yn golygu y gall ysgolion ac athrawon bellach fanteisio ar y cyfle i gynllunio eu cwricwla eu hunain i gefnogi teithiau datblygu a dysgu eu dysgwyr, gan weithio gyda rhieni a chymunedau, o fewn fframwaith sy’n gyson yn genedlaethol.
Mae diwygiadau cyfochrog i gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm hefyd wedi parhau, er gwaethaf pandemig COVID-19. Mae’r canllawiau ‘Atebolrwydd, Gwerthuso a Gwella’ newydd yn destun i ymgynghoriad, ac mae dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad y cwricwlwm ar lefel ysgol yn parhau i gael ei ddarparu dan arweiniad y Consortia a thrwy ddarparu sesiynau ac adnoddau rhyngweithiol ar-lein:
Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu – Hwb (llyw.cymru)
Prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol – Hwb (llyw.cymru)
Prosiect addysgeg cenedlaethol – Hwb (llyw.cymru)
Georgina Haarhoff,
Dirprwy Gyfarwyddwr, cwricwlwm, Llywodraeth Cymru.