Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Y Gwanwyn hwn, cynhelir y ‘sgwrs genedlaethol’ gyntaf o’i bath lle bydd ymarferwyr yn trafod y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig, sut i gefnogi dysgu yn y cam nesaf, a sut i sicrhau bod eu dysgwyr yn gwneud cynnydd. Bydd profiadau’n cael eu rhannu, a bydd y canfyddiadau’n helpu i lywio polisi cenedlaethol.
Bydd ffilmiau byrion i sbarduno’r sgyrsiau a fydd yn cynnwys yr academyddion blaenllaw Robin Bannerjee, Graham Donaldson, a Louise Hayward, ynghyd â Mike Griffiths, cyn ymarferydd sy’n cyfrannu’n helaeth at y gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y posibiliadau a’r cyfleoedd a gynigir gan y cwricwlwm newydd i lywio dulliau gweithredu ymarferwyr ar gyfer addysgu a dysgu yn y cam nesaf yn is-thema drwyddi draw.
Bydd cynrychiolydd o bob ysgol a lleoliad yn gallu cymryd rhan. Nid oes angen i’r person hwnnw fod yn uwch arweinydd, ond bydd yn gallu dod â’r un sgyrsiau yn ôl i’w hysgol a bwydo nôl o’r digwyddiad. Gellir trefnu lle drwy’r Consortia Rhanbarthol, a fydd yn ariannu pob cyfranogwr am 2.5 awr ar gyfer eu presenoldeb ac, yn bwysig iawn, i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr yn yr ysgol.
Yn anochel cynhelir y sgyrsiau ar-lein, a bydd ymarferwyr yn ymuno â grwpiau trafod rhithiol – gan ddwyn ynghyd syniadau a safbwyntiau mewn sesiynau a arweinir gan gyd-ymarferwyr.
Bydd y ‘sgyrsiau cenedlaethol’ hyn hefyd yn brawf defnyddiol ar gyfer gwaith i ddatblygu rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr a rhanddeiliaid i wireddu’r cwricwlwm. Bydd y sesiynau’n rhoi cipolwg defnyddiol ar a’r hygyrchedd y gall digwyddiadau rhithiol eu cynnig, a sut y gallai model cyfuno o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol fod yn dempled ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol.
Mae’r dyfyniad isod o’r briff i hwyluswyr ar y ‘sgyrsiau’ yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae’r sesiynau’n gobeithio ei gyflawni:
Diben y sgyrsiau
Diben y sesiynau hyn yw:
- Rhoi amser a lle i ymarferwyr fyfyrio ac ystyried sut mae symud gyda’n gilydd o’r sefyllfa sydd ohoni
- Gofyn i ymarferwyr gymryd yr hyn y maent wedi’i drafod yn ôl i’w hysgolion i lywio eu dulliau lleol eu hunain o ymdrin â’r materion hyn
- Llywio’r ymateb polisi cenedlaethol i fynd i’r afael ag amser dysgu a gollwyd, gan symud ymlaen tuag at ein diwygiadau addysg
Ffyrdd cyffredin o weithio
Drwy gydol y broses, rydym am i’r sgyrsiau hyn ymgorffori a hyrwyddo’r ffyrdd cyffredin o weithio a ddatblygwyd fel rhan o’r broses diwygio’r cwricwlwm – hynny yw:
- Datblygu ar y cyd
- Tegwch wrth ddatblygu ar y cyd
- Cyfle ac amser i feddwl ac ymgysylltu
- Dealltwriaeth glir o ‘pam’ y caiff pethau eu dysgu a’u gwneud
- Ymgysylltu’n feirniadol ag arbenigedd
- Arweinyddiaeth ar bob lefel
- Gweithredu fel sefydliadau sy’n dysgu
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Wybodaeth ar Hwb. Ar ôl y gyfres o ddigwyddiadau, bydd y canfyddiadau o’r sgyrsiau’n cael eu dadansoddi a’u crynhoi fel adnodd atodol.