Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Annwyl Gydweithwyr,
Pan welwch eich swydd eich hun yn cael ei hysbysebu, fel sydd wedi digwydd i mi’n ddiweddar, mae’n dwyn yr hen gân i gof ‘The times they are a-changing’. Yn wir, mae hynny wedi bod yn wir i bawb ohonom eleni – mae wedi bod yn flwyddyn ryfedd iawn. Wrth imi ddymuno Nadolig heddychlon ichi i gyd, hoffwn hefyd dalu teyrnged i bob un ohonoch.

Eleni rydw i wedi gweld cryfder a dewrder eithriadol. Mae eich penderfyniad a’ch creadigrwydd wrth fynd ati i ddarparu gwersi i’n dysgwyr drwy gydol dyddiau Covid wedi bod yn rhyfeddol. Rydych wedi bod yn gryf pan nad yw hynny wedi bod yn hawdd yn aml. Rydych chi wedi bod hyd yn oed yn bwysicach na’r arfer o ran cynnal ein cymunedau, ac eleni dwi’n credu bod y boblogaeth ehangach wedi dod i weld hynny’n llawer mwy eglur. Rydych chi’n cael eich gwerthfawrogi’n fwy nag erioed. Diolch am y gwaith gwych rydych chi’n ei wneud.
Yn ystod y flwyddyn, dw i’n gwybod bod sawl un – yn sicr yn y sector cynradd a blwyddyn 7 – wedi bod yn meddwl am y ffyrdd y daw’r cwricwlwm newydd yn fyw yn eich ysgolion. I mi, mae’n teimlo fel pe bai’r cwricwlwm newydd bron wedi’i gynllunio i gynnig yr hyblygrwydd a’r fframwaith cadarnhaol sydd ei angen arnom i ymateb i’r amgylchiadau presennol. Mae’r pwyslais newydd ar Iechyd a Lles, y fframwaith cymhwysedd digidol, y cyfle i ddod â phersbectif drwy edrych ar straeon sy’n wirioneddol berthnasol i ddysgwyr, i gyd yn teimlo fel nodweddion ein hoes.
Felly wrth inni symud tuag at flwyddyn well yn 2021 ac wrth i mi baratoi i drosglwyddo’r awenau i’m holynydd ym mis Mai, dw i’n meddwl yn gadarnhaol iawn am y cwricwlwm, y diwygiadau ehangach ym maes addysg a fydd yn ei gefnogi (gan gynnwys atebolrwydd), dyfodol ein proffesiwn, a dyfodol ein dysgwyr. Chi sydd wrth galon y cwbl.
Diolch i chi gyd, cymerwch ofal a gobeithio y cewch Nadolig Llawen.
Steve Davies, y Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru.