Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm newydd: offer a dulliau gweithredu – Cynghorydd ‘Pennaeth’ yn siarad!

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Q: Felly Mark, sut y digwyddodd y newid rolau – o Bennaeth i ‘Gynghorydd Proffesiynol’?

Roeddwn i’n ‘arloeswr’ digidol ac mewn Mathemateg a Rhifedd, a dw i wedi gwneud llawer o waith ar gydweithio. Efallai mai dyna pam y ces i alwad o nunlle ym mis Ionawr y llynedd gan Kevin Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol yn yr Adran Addysg, yn gofyn imi a fyddai gyda fi ddiddordeb mewn arwain prosiect. Y nod oedd datblygu adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon – i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Fe drafodais i hyn gyda chadeirydd ein llywodraethwyr. Roedden nhw’n teimlo ei fod yn gyfle dysgu proffesiynol i mi hefyd, ac fe gefnogon nhw’r secondiad.

C: Rydych chi’n cefnogi’r cwricwlwm newydd felly?

Yn llwyr. Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ysgolion fod yn greadigol, datblygu dealltwriaeth dysgwyr mewn ffyrdd mwy hyblyg, a moderneiddio sut mae athrawon yn gweithio yn yr oes ddigidol. Mae’n ddatblygiad dewr a bydd athrawon yn gwerthfawrogi’r gwahaniaeth.

C: Os oes gennych fantra, beth yw hwnnw?

Mae angen inni weithio gyda’n gilydd mewn ysgolion! Mae cydweithio yn allweddol. Rydyn ni’n ailddyfeisio’r olwyn lawer gormod yng Nghymru.

C: Mae hwn yn brosiect mawr. Ydy’r gwaith yn cael ei rannu ar draws tîm?

Ydy, yn sicr, dw i’n un o bedwar secondai ac mae ein gwaith ni’n gorgyffwrdd yn naturiol.

Dw i’n gweithio ar fy mhen fy hun mewn rhai prosiectau, megis gwneud y Daith Dysgu Proffesiynol yn adnodd hwylus i’w ddefnyddio, helpu gyda phrosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol a chreu adnoddau i rannu arferion rhwng ysgolion.

Mae Mark Ford o ERW yn canolbwyntio ar addysgeg – bydd ei brosiect ‘trafod addysgeg’ yn cysylltu athrawon ledled Cymru ac yn rhan bwysig o’r daith dysgu proffesiynol.

Mae Ann Bradshaw o Ysgol Aberconwy yn arwain ar ehangu model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu i gyrraedd pob ysgol. Dyma’r cam cyntaf ar daith dysgu proffesiynol ysgolion.

Mae David Egan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn dod â safbwynt ymholi ac ymchwil ryngwladol.

(Nodyn: byddwn yn sôn am waith pob un o’r Cynghorwyr yn ein cyhoeddiadau yn y dyfodol)

Mae cyfres o ddigwyddiadau ‘cipolwg polisi’ rhithwir ymlaen yr hydref hwn lle gall pobl edrych i mewn i’r gwaith sy’n cael ei wneud. Dim ond awr o hyd ydyn nhw, a gallwch ddarganfod mwy a chofrestru nawr!

Mewn gwahanol ffyrdd, rydym hefyd yn gweithio gydag Estyn, consortia rhanbarthol a thîm Hwb.

C: Sut mae eich gwaith chi a’u gwaith nhw yn cyd-fynd â gwaith ysgolion arloesi – ydy’r arloeswyr yn dal wrthi?

Mae’r ysgolion arloesi ym maes dysgu proffesiynol wedi esblygu i fod yn ‘ysgolion ymholi arweiniol’, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r broses ymholi er mwyn gwella safonau ysgolion. Mae rhai wedi bod yn gweithio gyda mi ar y Daith Dysgu Proffesiynol i esbonio eu teithiau datblygu nhw wrth iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

C: Dywedwch fwy wrthon ni am eich maes penodol chi. A sut caiff y gwaith hwnnw ei rannu?

Dw i’n gweithio gyda sawl prosiect, ond fe ges i fy mhenodi i ganolbwyntio ar ddau brif brosiect:

  1. Datblygu adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm newydd
  2. Ailgydio yn y fframwaith dysgu proffesiynol digidol i ategu’r FfCD

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau dysgu proffesiynol, fe wnaethon ni sylweddoli bod angen inni integreiddio’r prosiectau a’r dulliau amrywiol i helpu ysgolion drwy’r newid i roi’r cwricwlwm ar waith. Rydyn ni’n argymell defnyddio model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu fel man cychwyn i ysgol, a fydd yn cynnig cyfarwyddyd o ran y Daith Dysgu Proffesiynol – ffordd o wneud y defnydd gorau o’r canllawiau a’r adnoddau sydd wedi’u datblygu.

C: Ydych chi wedi llwyddo i symud ymlaen, hyd yn oed yn ystod cyfnod Covid? Sut?

Ydyn – a dweud y gwir, fe wnaeth hyn fy helpu i ganolbwyntio ar y prosiect. Cwblhawyd yr adnoddau ar gyfer y Daith Dysgu Proffesiynol erbyn diwedd Chwefror, ac fe gyflawnodd y timau cyfathrebu digidol y broses o sicrhau ansawdd o bell, felly roedden nhw wedi’u gosod ar Hwb erbyn mis Mai.

Mae gweithio gartref wedi golygu hefyd fy mod i wedi bod yn arbed llawer o amser y byddwn i wedi bod yn ei dreulio’n teithio fel arfer. Dw i wedi gallu cyfarfod ag arweinwyr ysgolion yn rhithiol, felly, i rannu eu profiadau nhw o ddysgu o bell, paratoi at ailagor ysgolion, dysgu cyfunol ac, yn fwy diweddar, sut maen nhw’n bwriadu defnyddio’r grant ‘recriwtio, adfer a chodi safonau’ newydd.

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn – bellach mae yna 35 o restrau chwarae sy’n cynnwys dros 250 o glipiau fideo ar safle ‘Rhannu ein profiadau’ Hwb, ac mae mwy i ddod yr wythnos nesaf!

C: Ydych chi’n meddwl bod yr holl opsiynau a deunydd dysgu proffesiynol sydd ar gael yn llethu rhai arweinwyr ysgolion?

Ydw. Dyma oedd y prif reswm dros dynnu ynghyd yr holl elfennau yn y ‘Daith Dysgu Proffesiynol’ i ysgolion. Mae gan arweinwyr ysgolion eu gwaith bob dydd i’w wneud a does ganddyn nhw ddim yr amser i weithio’u ffordd drwy’r holl ddeunyddiau.

Mae’n anodd hefyd dychmygu sut y mae hyn yn edrych mewn ysgol, a dyna pam ein bod ni wedi creu cyfres o astudiaethau achos. Maen nhw’n dangos sut mae ysgolion a oedd yn rhan o’r broses arloesi wedi mynd i’r afael â gwahanol gwestiynau datblygu, megis datblygu eu gweledigaeth, rheoli newid, datblygu elfennau o gyfleoedd dysgu proffesiynol staff, ystyried natur cwricwlwm sy’n seiliedig ar ddibenion penodol ac ati. Dw i’n teimlo mai fy ngwaith i yw ceisio symleiddio pethau a helpu ysgolion drwy’r datblygiadau, gan gadw’r hyblygrwydd a’r rhyddid ar yr un pryd i ddewis eu dulliau a’u llwybrau datblygu eu hunain.

C: Mewn munud neu lai, esboniwch sut y dylai pennaeth neu athro ymgyfarwyddo â’r dulliau dysgu proffesiynol yng Nghymru.

C: I roi hyn ar bapur…

Gall ysgolion ddewis eu dull gweithredu eu hunain, ond pe bawn i am edrych ar hyn o safbwynt pennaeth sy’n newydd i’r daith ddatblygu, fe fyddwn i’n gwneud arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu er mwyn cael syniad o’r graddau y mae fy ysgol wedi datblygu fel sefydliad sy’n dysgu. Wedyn, fe fyddwn i’n creu gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol, gan sicrhau cymeradwyaeth pob rhanddeiliad. Yna, fe fyddwn i’n mynd drwy adrannau perthnasol y PLJ, gan edrych ar yr astudiaethau achos a rhaglenni cymorth y consortia rhanbarthol. Fe fyddwn i’n edrych ar ddatblygu addysgu a dysgu, ac ymchwilio i brosiect ‘trafod addysgeg’ yn ogystal ag ystyried sut mae ysgolion wedi defnyddio’r broses ymholi i fynd i’r afael â chwestiwn gwelliant drwy edrych ar yr astudiaethau achos ymholi ar safle’r Rhaglen Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol.

Y flwyddyn nesaf, fe fyddwn i’n defnyddio hunanwerthusiadau a chamau gwella i baratoi ymhellach ar gyfer y cwricwlwm newydd a datblygu fy ysgol fel sefydliad sy’n dysgu.

C: Ac a oes modd i’r dysgu ddigwydd yn rhithiol, neu oes angen gwaith tîm a chlystyrau?

Fyddwn i ddim yn dweud bod yn rhaid dewis y naill neu’r llall. Mae modd gwneud gwaith tîm a gwaith clwstwr wyneb yn wyneb ac yn rhithiol. Byddai dull cyfunol yn gweithio’n dda, ond mae angen inni wneud mwy o waith i wella ansawdd dysgu rhithiol er mwyn sicrhau ei fod o’r un safon â’r dysgu wyneb yn wyneb rydyn ni wedi’i ddatblygu mewn ysgolion.

C: Beth yw’r elfen fwyaf gyffrous am hyn i’ch cydathrawon – pobl fel chi sydd wedi treulio 20 mlynedd yn troedio ystafelloedd dosbarth? Fydd hyn yn newid dulliau addysgu mewn gwirionedd?

O gael yr arweiniad cywir mewn ysgolion, a’r systemau a’r strwythurau priodol yn eu lle, gall hyn fod yn gyffrous iawn yn sicr. Rydyn ni wedi mynd i ychydig o rigol mewn ysgolion, gan ganolbwyntio fwyfwy ar fesurau atebolrwydd ac addysgu ar gyfer yr arholiad yn unig. Mae cyfle bellach i wneud dysgu ac addysgu yn berthnasol i anghenion y dysgwr, i fod yn hyblyg i ddyfnhau dealltwriaeth a datblygu sgiliau, a chreu unigolion mwy crwn a fydd wedi’u paratoi’n well ar gyfer byd gwaith sy’n newid, lle mae rolau yn newid sawl gwaith o fewn cyfnod gyrfa. Wnawn ni ddim helpu dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben drwy barhau gyda’n haddysgu sialc a siarad traddodiadol. Dull gwahanol, wedi’i ategu gan strwythurau priodol o fewn ysgolion, a chan gydweithio ag ysgolion eraill er lles y system ehangach, yw’r ffordd ymlaen.

C: Beth rydych chi’n gweld ei eisiau fwyaf am yr ysgol?

Bod ar ddyletswydd iard ar ddydd Iau gwlyb a gwyntog!

Unig anfantais y gwaith hwn yw eich bod gam ymhellach oddi wrth y dysgwyr. Hyd yn oed fel pennaeth, dydych chi ddim mor debygol o weld effaith uniongyrchol bob dydd y datblygiadau rydych chi’n eu harwain. Ar y lefel weithio hon, mae’r datblygiadau yn mynd drwy ranbarthau, ysgolion ac athrawon cyn cyrraedd y dysgwyr. Mae Covid-19 hefyd wedi golygu llai o gyswllt gyda’r ymarferwyr. Mae hyn yn rhywbeth y gallen ni edrych arno, er enghraifft partneru gydag ysgol a chyfarfod yn fwy rheolaidd er mwyn gweld sut mae’r ysgol honno yn gweithredu gwahanol agweddau ar bolisi Llywodraeth Cymru. Fe weithiodd hyn yn dda pan oeddwn i’n gynghorydd cyswllt mewn ysgol – roedd modd dod i ddeall sut roedd y lle yn gweithio a gweld y datblygiadau drostoch chi’ch hun.

Gadael ymateb