Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe rydym yn addysgu dysgwyr o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, y mae gan bob un ohonynt anawsterau cymdeithasol, emosiynol, iechyd meddwl neu anawsterau o ran ymddygiad. Mae effaith Covid-19 wedi arwain at rai o’r newidiadau mwyaf a chyflymaf i mi eu gweld erioed o ran beth yr ydym yn ei addysgu i’n disgyblion a sut yr ydym yn gwneud hynny. Dyma’r 6 mis mwyaf heriol sydd wedi fy wynebu yn fy ngyrfa.
Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ysgol 2020/21, mae angen i ni asesu sut mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf wedi effeithio ar les ein disgyblion, a chynllunio ar gyfer sut y gallwn gefnogi eu lles, eu gwydnwch a’u hiechyd meddwl wrth inni symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf., Nid oes modd i ni weld beth sydd o’n blaenau ychwaith.
Rydym wedi gwneud ein gorau i ymgysylltu â phob dysgwr, ac er nad ydym efallai wedi llwyddo gyda phob disgybl bob tro, rydym wedi dysgu cymaint yn ystod y broses. Mae’r strategaethau creadigol a ddatblygwyd gan athrawon a staff cyswllt yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’r angen arbennig wedi sbarduno ffocws ar drafodaeth, lles a llunio’r dysgu i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau unigol ein disgyblion.
Bydd y flwyddyn academaidd newydd yn ein gweld yn gweithio gyda’n gilydd i weithredu’r amgylchedd dysgu ‘newydd’ mewn ymateb i Covid-19. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym hefyd yn bwriadu symud i’n hadeilad pwrpasol newydd ar ddechrau 2021. Felly, mae pryderon a theimladau o bryder ar y naill law ac ymdeimlad o gyffro a chyfle ar y llall.
Cyn i mi ddweud rhagor wrthych am hynny, gadewch i ni edrych ar sut y bydd y cwricwlwm newydd yn helpu disgyblion yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe.
I ni, mae cefnogi dysgwyr i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru bob amser wedi gwneud synnwyr perffaith. Fodd bynnag, mae’r ffocws ar ddatblygu ein holl blant a phobl ifanc i fod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
…mor berthnasol ag erioed ar hyn o bryd.
Mae’r gallu i lunio’r dysgu ar gyfer ein disgyblion mewn ffordd sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion, eu diddordebau a’u profiadau unigol i’w groesawu’n fawr. Ac wrth i ni symud yn nes at gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae’n amlwg na allwn aros tan 2022.
Gydag Iechyd a Lles yn un o’r chwe maes dysgu a phrofiad yn y cwricwlwm newydd, mae cydnabod bod hyn yn rhan annatod o’r holl ddysgu yn sicrhau ei fod yn ganolog i’r cynllunio ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae’n rhoi man cychwyn clir i ni yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer cynllunio ein cwricwlwm o gwmpas materion sydd yn gweithredu fel rhwystrau i lawer o’n disgyblion; fel hyn, gallwn ddechrau goresgyn y materion sy’n eu hatal rhag ymgysylltu’n gadarnhaol – gydag eraill, gyda’r dysgu, gyda chymdeithas, ac yn fwyaf ofnadwy i rai disgyblion, gyda bywyd ei hun.

Mae’r cwricwlwm newydd hefyd yn cynnig cyfle i’n hathrawon lunio cyfleoedd dysgu mewn ffordd fwy ystyrlon fyth, ac i ennyn diddordeb y dysgwyr hynny sydd wedi ymddieithrio fwyaf. Mae angen meithrin y ddawn greadigol y mae ein staff wedi’i ddangos dros y 6 mis diwethaf a’i datblygu ymhellach i gefnogi’r gwaith o gynllunio cwricwlwm mwy dewr, cyffrous a diddorol. Mae’r ffocws ar gynnydd mewn dysgu yn ein galluogi i ddefnyddio asesu’n fwy gonest ac yn fwy realistig – i fesur yn gywir lle mae disgyblion yn eu dysgu, i lywio’r cynllunio a’r addysgeg i’w galluogi i gyrraedd y camau nesaf; a hefyd i arsylwi a dathlu eu cynnydd ym mhob agwedd ar eu dysgu yn hytrach na chanolbwyntio ar anawsterau a diffygion sy’n gysylltiedig â chaffael meysydd gwybodaeth cul.

Mae dysgu digidol hefyd wedi esblygu wrth i ni newid y ffyrdd rydym yn gweithio i reoli materion Covid-19, ac amlygwyd pŵer cymhwysedd a hyder digidol yn fwy nag erioed o’r blaen. Eleni byddwn yn croesawu dysgu digidol yn llawn ac yn ddewr oherwydd gwelwn ei bwysigrwydd i’n disgyblion a’u dyfodol. Mae’n cefnogi mwy o annibyniaeth a chysylltedd mewn dysgu, yn ogystal â chyfathrebu â ffrindiau, teuluoedd, athrawon, cyflogwyr y dyfodol a’r byd ehangach. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan ein holl staff y sgiliau a’r wybodaeth i gynllunio’n ystyrlon i’w defnyddio ar draws y cwricwlwm ac i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc yn eu meistrolaeth o sgiliau digidol. Bydd angen i ni hefyd adolygu mynediad i ddyfeisiau, meddalwedd a llwyfannau dysgu fel y gellir eu defnyddio’n ddiogel i gefnogi dysgu y tu allan i adeilad yr ysgol yn ogystal ag mewn gwersi.
Ochr yn ochr â hyn, y flwyddyn nesaf bydd ein hadeilad newydd bwrpasol yn ein helpu i adeiladu gwell dyfodol. Rydym yn gobeithio symud i mewn i’r adeilad ar ddechrau 2021, gan ddefnyddio cyfleusterau a fydd yn ein helpu i gefnogi dysgwyr ymhellach a gwella profiadau dysgu.

Mae angen i’n dysgwyr ddeall effaith eu penderfyniadau ar ansawdd eu bywydau, a bywydau pobl eraill, rhywbeth rydym bob amser wedi gweithio i’w ddatblygu. Mae ein hadeilad newydd wedi’i gynllunio i’n helpu gyda hyn, fel y gallwn lunio eu dysgu’n fwy effeithiol a’i deilwra i anghenion, diddordebau a phrofiadau unigol. Bydd hefyd yn helpu i ddysgu am iechyd a lles, megis deall pwysigrwydd datblygu iechyd corfforol da gydag ystafelloedd addysgu technoleg bwyd, mynediad da i fannau awyr agored ac eco-ardaloedd. Bydd gennym neuadd fawr, gydag ystafelloedd synhwyraidd, ystafelloedd therapi a mannau tawel wedi’u cynllunio’n ofalus a fydd yn ein helpu i ddarparu cwricwlwm therapiwtig, gan ddatblygu a meithrin iechyd meddwl da.
Felly, gyda thymor newydd wedi cychwyn, carfan newydd o ddisgyblion ac adeilad newydd ar y gorwel, a oes gwell amser i ddatblygu ein cwricwlwm newydd? Cwricwlwm sy’n cael ei lywio gan y diben ac sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig? Wel i ni dyma’r amser iawn, a hynny er gwaetha’r pandemig! Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe yn croesawu’r newydd, acyn sicr nid dyma ddiwedd ‘y newyddion’ i ni.
Amanda Taylor,
Pennaeth Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe (UCD) ac Uned Cefnogi Ymddygiad
Mae Amanda yn un o’r ymarferwyr sydd ar hyn o bryd yn datblygu canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol.