Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru wedi’u cyhoeddi erbyn hyn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefais gyfle i weithio fel rhan o grŵp maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn mireinio’r cwricwlwm ar ôl cyhoeddi’r fersiwn ddrafft ym mis Ebrill.
Roeddwn i’n cyfrannu at y grŵp o safbwynt cyfrifiadureg. Bues i’n gweithio fel rhan o’r maes dysgu a phrofiad, ond yn bwysicach, roeddwn i’n gallu cyfrannu safbwynt y sector addysg bellach ôl-16 hefyd.
Nod y Cwricwlwm i Gymru yw newid arferion yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â delfryd newydd o ran y nod terfynol o addysgu pobl ifanc Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r maes dysgu ac addysgu yn canolbwyntio’n bennaf ar y gallu i dderbyn ac ailadrodd ffeithiau fel parot, os yw’r dysgwyr i gael eu hystyried yn llwyddiannus.
Ar y cyfan mae cymwysterau galwedigaethol ôl-16 yn ymdrin ag asesu o ben arall y sbectrwm. Yn aml caiff y cymwysterau hyn eu cynllunio gyda chryn bwyslais ar y sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn eu maes – ond eto, maen nhw’n dioddef (yn fawr mewn rhai achosion) o ludded asesu.
Felly, mae perygl gwirioneddol o golli’r profiad dysgu o blaid y profiad asesu, os mai’r cymhwyster terfynol yw’r penderfynydd sy’n llywio’r broses o gynllunio ein cwricwlwm.
Mae’r cwricwlwm newydd yn cydnabod nad yw deilliannau llym seiliedig ar oedran yn adlewyrchiad cywir o sut mae dysgu’n digwydd, ac yn cydnabod pwysigrwydd cynllun cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.
I mi, mae hynny’n dweud y canlynol – tra bod uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru yn anhygoel, rhaid peidio gadael i asesiad bennu cynllun y cwricwlwm ar lefel ysgol neu mewn addysg ôl-16.
Hefyd, hoffwn weld sut fydd cynllun y cwricwlwm newydd yn cyd-fynd â delfrydau’r cwricwlwm newydd. Rwy’n falch o weld bod Cymwysterau Cymru i’w gweld yn ymgynghori ar hyn mewn ffordd adeiladol.
Ond mae’r cwestiwn yn parhau – beth sy’n digwydd pan fydd y myfyrwyr hyn – carfan gynta’r system addysg newydd – yn ymuno â’r maes addysg ôl-orfodol.
Mae addysgeg ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yn gallu bod yn dra gwahanol i addysgeg ar gyfer pynciau ysgol. Bydd angen i ddarlithwyr addysg bellach roi’r un ystyriaeth ofalus i nid yn unig beth fydd yn cael ei gyflwyno, ond i bwy, rhywbeth nad yw mor hawdd gyda chynnwys yn cael ei reoli gan gyrff dyfarnu.
Wrth inni symud i’r cymwysterau newydd ar gyfer ysgolion, sut fydd cymwysterau addysg bellach cyfredol yn addasu i’r math newydd o ddysgwr? Mae llawer o’r cymwysterau galwedigaethol ôl-16 yn cael eu darparu gan gyrff dyfarnu nad ydynt wedi’u lleol yma yng Nghymru – a fyddan nhw hefyd yn gweld budd o ddatblygu cymwysterau newydd ar gyfer dysgwr newydd?
Y sefyllfa waethaf i mi yw y gallai myfyrwyr y cwricwlwm newydd sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gael eu taflu i ganol yr ymarfer presennol ar sail asesiad ar lefel addysg bellach.
Y sefyllfa orau, fodd bynnag, yw bod y trefniadau ar gyfer asesu a chymwysterau i ddysgwyr cyn-16 yn cael eu mabwysiadu ym maes addysg bellach, fel bod darlithwyr yn cael cyfle i addasu gyda chyfoedion mewn ysgolion. Wrth i gymwysterau addysg bellach esblygu, gall ein darlithwyr addysg bellach hynod alluog fod yn athrawon dysg yn ogystal ag athrawon pynciau; nid dim ond ceidwaid y porth ar ddiwedd y daith, ond cyfeillion arweiniol sy’n dal y map.
Ôl-sgript: Mae cyhoeddi’r blog hwn wedi’i ohirio oherwydd Covid, ond nid yw fy meddyliau wedi newid a chredaf na all y newid mewn arfer yn yr ystafell ddosbarth sydd ar y ffordd ond helpu i baratoi pobl ifanc yn well ar gyfer dyfodol ansicr.
Karl Jones
Mae Karl yn gyn-athro Cyfrifiadureg yng Ngholeg Merthyr, a bellach yn Arweinydd TAR Cyfrifiadureg ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.