Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Ers dechrau argyfwng Covid, mae ein dulliau dysgu ac addysgu wedi newid yng Nghymru. Mae cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell yn realiti i’r mwyafrif o ddysgwyr ac ymarferwyr mwyach.
Bydd y pandemig Covid-19 yn parhau i effeithio ar ddysgu ac addysgu yn ystod y flwyddyn ysgol 2020/21. Bydd y dulliau a ddilynir gan ysgolion a lleoliadau yn parhau i ddatblygu i ddarparu dysgu yn yr ysgol ac mewn mannau eraill – os fydd yr angen. Gall y cydbwysedd rhwng dysgu mewn ysgolion a lleoliadau, a’r amser a dreulir yn dysgu mewn mannau eraill, newid ar adegau penodol mewn ymateb i’r pandemig.
Wrth i ysgolion a lleoliadau gynyddu eu gweithrediadau yn ystod tymor yr haf, mae ymarferwyr wedi bod yn defnyddio’u hamser cyswllt i ‘ailgydio’ a ‘dal i fyny’ â’r dysgwyr, a gwneir hynny er mwyn cefnogi eu llesiant a’u helpu i ailgydio yn eu dysgu.
Mae’r sylw a roddir i gefnogi anghenion unigol dysgwyr yn gweddu’n dda â’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r broses asesu fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Mae’r sefyllfa gyfredol yn rhoi cyfle inni ailedrych ar y broses asesu, ailfeithrin ein hagwedd ati, a symud tuag at y trefniadau newydd, sy’n rhoi pwyslais ar gefnogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd.
Llesiant y dysgwyr yw blaenoriaeth bennaf oll ysgolion a lleoliadau yn ystod y cyfnod hwn. Fel rhan hanfodol o’r broses ddysgu, mae gan asesu rhan allweddol i’w chwarae yn hynny o beth, gan gefnogi dysgwyr wrth iddynt barhau i ennyn diddordeb mewn dysgu mewn cyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni ddylai’r asesu fod yn ymwneud â ‘phrofi’ dysgwyr mewn ymgais i ddal i fyny a chynnwys popeth y byddent wedi’i wneud cyn i argyfwng Covid ddechrau. Dylai’r asesu gyfrannu at ddatblygu llun holistaidd o’r dysgwyr – eu cryfderau, y ffordd y maent yn mynd ati i ddysgu, y meysydd i’w datblygu, ac unrhyw gymorth ychwanegol neu her sydd eu hangen – er mwyn cefnogi pob unigolyn ac i’r wybodaeth honno fynd yn sail i’r camau dysgu nesaf. Dylai’r adborth a roddir ganolbwyntio ar gefnogi’r dysgwr i symud ymlaen drwy roi sicrwydd iddynt, a chydnabod eu hymdrechion a’u cyflawniad, a’u helpu i ddeall y camau nesaf sydd eu hangen. Yr hyn sy’n allweddol yw sicrhau bod yr ymarferydd a’r dysgwr, yn ogystal â’r rhiant/gofalwr yn cyfathrebu â’i gilydd. Bydd hynny’n helpu i bontio rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu drwy brofiad, gan gynnwys helpu dysgwyr i fynd ati i ddysgu ar eu hysgogiad eu hunain.
Mae deialog rhwng yr ymarferwr a’r dysgwr yn hanfodol i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr unigol o’r ffordd y maent yn dysgu, gan eu galluogi nhw i wneud cynnydd yn eu dysg. Wrth gynllunio eu cwricwlwm, bydd ysgolion a lleoliadau’n addasu ac yn datblygu eu dulliau gweithredu i sicrhau bod asesu’n rhan sylfaenol o gefnogi dysgwyr.
Ffactor arall sy’n cefnogi’r newidiadau i’r broses asesu yw’r datgymhwysiad presennol mewn perthynas â meysydd statudol dysgu a rhaglenni astudio, gan gynnwys rhoi terfyn ar asesiadau’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol – newidiadau yr ydym wedi’u rhoi ar waith i roi’r hyblygrwydd sydd ei angen ar ysgolion i gyflawni ffordd newydd o addysgu a dysgu. Yn ystod y cyfnod hwn, nid yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r asesiadau hynny gael eu cynnal, nac ychwaith i ddata am ddeilliannau a lefelau gael eu casglu. Dylai’r asesiad ganolbwyntio ar gefnogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd wrth ddysgu.
Byddwn yn ystyried yr angen am newidiadau pellach i’r gofynion statudol dros yr haf ac yn cadarnhau’r sefyllfa o ran unrhyw asesiad statudol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf cyn dechrau tymor yr hydref, gydag anghenion a buddiannau dysgwyr yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn wrth wraidd y penderfyniadau a wneir. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau tymor hir, er enghraifft cael gwared ar y gofynion cymedroli neu eu haddasu i roi mwy o hyblygrwydd i ysgolion, wrth iddynt fwrw ymlaen â’r trefniadau newydd o dan Gwricwlwm Cymru. Byddai’r hyblygrwydd hwnnw nid yn unig yn caniatáu i ysgolion ganolbwyntio ar gefnogi pob un o’u dysgwyr i wneud cynnydd, ond byddai hefyd yn caniatáu iddynt ddatblygu eu dealltwriaeth o’r cynnydd a wneir, gan ddefnyddio’r gwybodaeth o’r broses asesu i ystyried a mireinio eu ffordd o weithio ymhellach.
I helpu ymarferwyr i rannu eu profiadau yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn cyhoeddi astudiaethau achos sy’n amlinellu gwahanol ffyrdd o fynd ati i asesu, gan gynnwys meysydd eraill sy’n gysylltiedig. Mae’r astudiaethau achos cyntaf yn canolbwyntio ar roi adroddiad i rieni/gofalwyr a sicrhau mai’r dysgwr sydd dan sylw penodol yr asesiad. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, a bydd rhagor o ddeunyddiau ategol ar gael yn ystod tymor yr hydref.
Y Tîm Asesu, Llywodraeth Cymru