Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol eithriadol i bawb sy’n ymwneud â chefnogi lles pobl ifanc Cymru. Yn benodol, bu’n rhaid i athrawon, penaethiaid, rhieni a gofalwyr oresgyn pwysau a phryderon personol wrth iddynt geisio ymgysylltu â phobl ifanc a’u dysgu. Wrth weld yr ymdrech hon, sylwais ar ffyrdd y gallai’r diwygiadau addysgol yng Nghymru helpu i ganfod llwybr drwy ansicrwydd y sefyllfa bresennol.
Mae’r Bil a fydd yn sefydlu’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer y cwricwlwm newydd bellach wedi dechrau ar ei daith drwy’r Senedd. Fodd bynnag, bydd y fframwaith cyfreithiol newydd yn edrych yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi bodoli ers y 1990au. Bydd gan ysgolion lawer mwy o gyfle i lywio dysgu eu pobl ifanc mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu eu hanghenion yn well. Mae’r pedwar diben sydd wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru yn dangos pwysigrwydd hanfodol meithrin yr awydd a’r gallu i ddysgu drwy gydol oes; gallu cysylltu a chymhwyso gwybodaeth; bod yn fentrus ac yn greadigol; dod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus; ac, yn hanfodol, deall y ffactorau sy’n gwella iechyd a lles.
Un o’r gwersi sydd wedi’i hatgyfnerthu yn ystod y cyfnod yma o ansicrwydd yw pwysigrwydd cael cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a’r cartref. Fel cwricwlwm sy’n cael ei ysgogi gan ddibenion, gall Cwricwlwm i Gymru ddarparu’r cyfrwng sy’n rhwymo dysgu yn yr ysgol a dysgu tu allan i’r ysgol. Drwy osod gweithgareddau dysgu penodol yng nghyd-destun ehangach y dibenion, gellir sefydlu iaith gyffredin ac ymdeimlad o bwrpas ymhlith yr athrawon, y myfyrwyr a’r cartref.
Gallai strwythur y cwricwlwm newydd, o ystyried y cyfyngiadau posibl yn yr amser ar gyfer addysgu ffurfiol ym mis Medi, hefyd helpu i fynd i’r afael â pha agweddau ar ddysgu y dylid rhoi’r flaenoriaeth fwyaf iddynt. Mae pob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad yn rhan annatod o’r cwricwlwm, ac mae’r un peth yn wir am y cyfrifoldebau trawsbynciol, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Serch hynny, drwy egluro ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ ym mhob maes, mae lle i ganolbwyntio ar ddysgu mewn ffyrdd nad ydynt yn ymwneud yn unig â chasglu mwy a mwy o wybodaeth. Gellir llunio gweithgareddau dysgu i adlewyrchu’r arbenigedd a’r cyfleoedd a gynigir gan yr ysgol neu’r tu allan iddi. Gall asesu sydd wedi’i gynllunio i gefnogi dysgu yn hytrach na cheisio graddio yn ôl lefelau bras hefyd helpu i ddefnyddio amser gwerthfawr i gynnal ffocws ar ddilyniant yn hytrach na labelu.
Bydd y pwyslais cryf iawn ar iechyd a lles yn Cwricwlwm i Gymru hefyd yn arbennig o bwysig wrth i bobl ifanc geisio gwneud synnwyr o’r pwysau gwrthgyferbyniol y maent yn ei wynebu ac yn addasu iddo. Ni ddylid ystyried lles fel rhywbeth ychwanegol sydd rywsut yn cael ei wasgu i mewn i gwricwlwm sy’n rhoi’r pwyslais mwyaf ar grynhoi gwybodaeth fel prif amcan gyffredinol. Mae Cwricwlwm i Gymru yn mynd i’r afael â phwysigrwydd iechyd corfforol a meddyliol ac yn cydnabod y berthynas uniongyrchol rhwng lles a dysgu.
Yn yr un modd, mae’r ymrwymiad at gymhwysedd digidol i bob myfyriwr yn ymddangos yn arbennig o amserol yng nghyd-destun yr argyfwng hwn. Wrth inni symud drwy’r cyfyngiadau real iawn sy’n deillio o Covid-19, bydd y cyfleoedd a gynigir gan gysylltedd digidol yn dod i’r amlwg a’r gallu i’w cyrraedd yn cyflymu. Ni ddylid ystyried dysgu’n ddigidol fel ateb tymor byr ond yn hytrach fel rhan annatod o amgylchedd cyfoethog mewn dyfodol a all hybu mwy o annibyniaeth a chydweithio. Er bod y cyd-destun presennol wedi amlygu annhegwch difrifol yng ngallu’r myfyrwyr i gael mynediad at ffordd i ddysgu’n ddigidol o bell, byd y dyfodol yw’r byd digidol, ac felly rhaid i ni barhau i greu’r amodau ar gyfer mynediad cyfartal i’r sgiliau dysgu annibynnol y mae’n rhaid ei meithrin.
Y wobr i addysg Cymru fydd defnyddio fframwaith newydd y Cwricwlwm i Gymru i helpu ysgolion a rhieni i weld eu ffordd ymlaen yn wyneb yr ansicrwydd presennol. Wrth i ni symud y tu hwnt i’r pandemig, gallai’r profiad hwn ddarparu llwyfan cryfach ar gyfer llwyr wireddu’r cyfleoedd ar gyfer dysgu cyffrous a safonau uwch a gynigir gan Cwricwlwm i Gymru.
Graham Donaldson