Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn helpu ymarferwyr i asesu sgiliau cyfathrebu a gwybyddol cynnar dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae’r deunyddiau yn cael eu diweddaru mewn ymateb i’r gwaith ymchwil diweddaraf, ac er mwyn adlewyrchu’r newidiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Cawsant eu rhyddhau ar 28 Ionawr er mwyn i ymarferwyr gael rhoi eu hadborth.
Ym mis Chwefror, ymunodd ymarferwyr â digwyddiadau yn y Gogledd a’r De i drafod y datblygiadau a chynnig adborth wyneb yn wyneb. Aeth Aron Bradley, Pennaeth Ysgol Hen Felin, i’r digwyddiad yng Nghaerdydd:
‘Es i i ddigwyddiad Ar Drywydd Dysgu er mwyn cael gwybod mwy am y deunyddiau newydd a chyfrannu at y broses adborth.
Roedd cael clywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr sydd wedi datblygu’r deunyddiau newydd yn help i gael goleuni ar bethau. Roedd yn arbennig o ddiddorol gwrando ar academyddion a’r rheini sy’n gweithio mewn ysgolion ar hyn o bryd yn sôn am y broses o adolygu’r canllawiau blaenorol a sut y cawsant eu defnyddio gyda disgyblion priodol ledled Cymru. Rhannwyd gwaith ymchwil academaidd a luniwyd ers creu’r canllawiau hynny, ac roedd hwn yn dangos pam bod angen eu diweddaru. Mae hyn oll yn cefnogi’r gwaith o addysgu, dysgu ac asesu’r garfan benodol hon o ddysgwyr. Read more