Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Cenhadaeth BookTrust Cymru yw cael pob plentyn yng Nghymru i ddarllen er mwynhad. Felly, mae’n debyg na fydd yn eich synnu ein bod ni wedi gwirioni gweld ‘llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd’ fel un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym maes dysgu a phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Ond efallai nad ydych yn disgwyl i ni ddweud bod cynnwys cyffrous a thrawsnewidiol ym Maes Iechyd a Lles yn bwysig. Mae’n cynnwys dealltwriaeth bod gan ddarllen a llythrennedd ran allweddol i’w chwarae o ran cefnogi iechyd meddwl, lles emosiynol a datblygiad cyfannol.
Mae’r canllaw yn dangos cysylltiadau rhwng y ddau Faes gan gynnwys mynegi barn yn hyderus; datblygu hunaniaeth, empathi a pherthnasoedd; mynegi emosiynau; ac archwilio dylanwadau cymdeithasol drwy lenyddiaeth.
Rydym ni, yn BookTrust Cymru, yn gwybod bod mwynhau darllen yn golygu llawer mwy na datblygu sgiliau llythrennedd yn unig. Mae ymchwil yn disgrifio buddion gwybyddol, cymdeithasol a phersonol darllen er mwynhad. Mae gan lawer o’r buddion berthynas uniongyrchol â lles. Mae’r rhain yn cynnwys meithrin perthynas, empathi, ymlacio, hunan-ddealltwriaeth, dealltwriaeth o’r byd ac o bobl arall, dychymyg a chreadigrwydd.
Er bod canlyniadau PISA fis Rhagfyr diwethaf yn galonogol, maen nhw’n awgrymu bod gwaith i’w wneud o hyd o ran lles disgyblion Cymru. Byddem yn dadlau bod gan ddarllen er mwynhad rôl bwysig i’w chwarae yma.
Dywedodd PISA hefyd fod dysgwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o ddarllen ar-lein na darllen nofel. Mae hyn yn bwysig gan fod ymchwil yn awgrymu bod yr hyn y mae dysgwyr yn ei ddarllen yn gwneud gwahaniaeth, a bod darllen ffuglen yn arbennig o fuddiol.
Mae dadansoddiad o ganlyniadau PISA 2009 yn nodi’r ‘effaith ffuglen’. Sgoriodd rhai yn eu harddegau oedd yn darllen ffuglen bron bob dydd tua 26 pwynt yn uwch na’r rhai nad oeddent – hyd yn oed os oeddent yn darllen papurau newydd, cylchgronau, comics a llyfrau ffeithiol yn aml. Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod hyn yn cyfateb i tua 10 mis o addysg ychwanegol.
Felly wrth i Gwricwlwm i Gymru gael ei ddehongli mewn ysgolion, rydym yn awgrymu eu bod yn ail-ymweld â phwysigrwydd darllen a rhoi darllen er mwynhad wrth wraidd cwricwlwm bob ysgol.
Ond sut mae helpu’r plentyn sy’n cael trafferth i ddarllen am dri munud ymgolli yng nghyfrol ddiweddaraf Cressida Cowell neu Manon Steffan Ros – heb sôn am ei mwynhau?
Credwn bod angen pedwar peth allweddol: ymrwymiad gwirioneddol o’r blynyddoedd cynnar hyd at adael yr ysgol; creu amodau a chyfleoedd i ddatblygu arferion darllen cadarnhaol; cred ym manteision cyfannol darllen er mwynhad; ac amynedd.
Gyda hynny mewn golwg, dyma ‘cyngor hyfforddi ‘ ar gyfer gwneud darllen er mwynhad yn greiddiol yng Nghwricwlwm i Gymru.
Dechrau’n gynnar a pheidiwch â stopio. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, ond mae’n syndod faint o rieni/gofalwyr sy dal yn aros cyn dechrau. Mae gan ddarparwyr y blynyddoedd cynnar rôl hanfodol i’w chwarae wrth gyfleu’r neges hon – ac mae angen i ysgolion ei chadw’n fyw.
Canolbwyntio go iawn ar fwynhad. P’un a yw dysgwr yn 15 mis neu’n 15 oed, ydych chi’n neilltuo amser yn benodol ar gyfer mwynhau llyfrau a straeon? Ydych chi’n siarad â rhieni/gofalwyr am bwysigrwydd mwynhau darllen? Oes cyfleoedd ar gyfer darllen hwyl, rhydd ochr yn ochr â chynlluniau darllen a thestunau gosod?
Darllen ar goedd. Ni ddylai darllen yn uchel stopio pan fydd plant yn meistroli sgiliau technegol darllen. Mae llyfrau clyw yn golygu y gall dysgwyr fwynhau straeon fydden nhw ddim yn darllen eu hunain. Gall greu profiad gwerthfawr a rennir, ac atgoffa darllenwyr anfodlon bod modd mwynhau llyfrau.
Gofalus gyda ‘her’. Os ydym am i blant a phobl ifanc ddarllen yn annibynnol, mae angen inni barchu eu dewisiadau fel darllenwyr. Mae dweud wrth ddysgwr bod llyfr yn ‘rhy hawdd’ neu’n ‘rhy anodd’ yn gallu digalonni. Y llyfr ‘cywir’ i fwynhau yw’r un y mae’r darllenydd ei hun yn ei ddewis.
Dangos enghraifft dda a gwneud darllen yn weladwy. A yw plant a phobl ifanc yn gweld oedolion yn eu bywydau yn darllen (ac yn mwynhau darllen)? Ydych chi’n siarad am yr hyn rydych chi’n ei ddarllen? Mae siarad am lyfrau yn bwysicach byth os ydych chi’n darllen ar ddyfais ddigidol – efallai byddan nhw’n meddwl eich bod chi ar Instagram!
A beth bynnag yw manteision e-ddarllenwyr, mae angen llyfrau arnom yn ein hysgolion a’n lleoliadau. Mae llyfrau yn wrthrychau sy’n gwneud darllen yn weladwy, yn ddiriaethol ac yn hawdd ei rannu.
Buddsoddi mewn llyfrau gwych. Byddwch yn onest: oes gennych chi lyfrau ar gael y mae dysgwyr am eu darllen? A yw’r llyfrau sydd ar gael ar gyfer ‘darllen yn rhydd’ yn mynd i helpu plant i symud o fod yn ddarllenydd-sy’n-dysgu i fod yn ddarllenydd annibynnol, brwdfrydig? Ydy’r dysgwyr yn helpu i ddewis beth sydd ar gael? Gall detholiad bach o lyfrau cyffrous iawn fod yn fwy deniadol na silffoedd llawn o deitlau sydd ddim yn eu hysbrydoli.
Gwybod beth sydd ar gael. Mae dod o hyd i’r llyfrau iawn i annog dysgwyr gwahanol i fwynhau darllen yn dasg anodd, ond gallai’r ffynonellau hyn helpu:
- Mae’r BookTrust Bookfinder yn gadael ichi chwilio am lyfrau ar gyfer oed neu thema arbennig. Mae gan Booktrust hefyd restrau llyfrau ar gyfer themâu a materion penodol.
- Mae Blwyddlyfr Llyfrau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru yn darparu manylion llyfrau Cymraeg.
- Mae ar bobl ifanc angen llyfrau sy’n adlewyrchu eu bywdau nhw eu hunain a’u profiadau. Mae rhestrau byrion Gwobr Tir na n-Og yn fan cychwyn da ar gyfer llyfrau gyda chyd-destun Cymreig go iawn..
- Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn cynnig cyngor ac arbenigedd am beth i ddarllen yn ogystal â mynediad at lyfrau yn rhad ac am ddim.
Ysgrifennwyd y Blog hwn gan Helen Wales, Pennaeth BookTrust Cymru. Elusen darllen fwyaf y DU yw BookTrust. Mae BookTrust Cymru yn gweithio i ysbrydoli plant i garu ddarllen.