Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Dim ond â brwdfrydedd ac ymrwymiad ein proffesiwn addysgu y bydd y cwricwlwm newydd yn llwyddo.
Ond rwy’n deall bod yn rhaid wrth ddysgu proffesiynol hefyd os ydym i gyflawni potensial y cwricwlwm i’n disgyblion.
Ac ymhlith y ffactorau pwysig lawer sydd ynghlwm â hynny mae cyllid. Dyna pam rydym wedi buddsoddi’r swm unigol mwyaf mewn dysgu proffesiynol i bob ymarferydd ers datganoli, cyllid sydd eisoes yn cael ei wario ac a fydd ar gael am ddwy flynedd arall.
Rydym hefyd yn cynnig diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ychwanegol. Bydd y cyntaf yn ystod tymor yr haf pan fydd pob ysgol yn ymchwilio i’r cwricwlwm newydd gan ddefnyddio adnoddau cenedlaethol a fydd ar gael ar Hwb yn rhad ac am ddim. Dyma fy llythyr at Benaethiaid sy’n rhoi esboniad llawn.
Yn fwy cyffredinol, mae adnoddau helaeth yn cael eu datblygu. Bydd adnoddau digidol rhad ac am ddim yn arbed ysgolion rhag gwariant allanol, a bydd ysgolion yn gallu dewis yr adnoddau mwyaf priodol at eu dibenion nhw gan ddefnyddio offeryn newydd a fydd ar gael yn fuan – y Daith Ddysgu Broffesiynol.
Mae’r adnoddau yn ategu’r rhaglen draws-ranbarthol ar gyfer dysgu proffesiynol a gynigir gan y consortia rhanbarthol a’r cydweithredu mwy lleol fesul clwstwr sy’n gallu bod mor bwerus.
Rwy’n falch y bydd pecyn cymorth cydlynol ar gyfer athrawon, ar sail Dull Cenedlaethol strategol o Ddysgu Proffesiynol, yn help i baratoi ein holl ymarferwyr addysgu ar gyfer y camau cyffrous nesaf.
Bydd y blog hwn yn rhannu enghreifftiau yn fuan o’r ffordd y mae ysgolion eisoes wedi defnyddio’u cyllid yn greadigol. Ond am y tro, dyma ffilm wych o’r ffordd y mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur wedi bod yn datblygu addysgeg a chreadigrwydd ymhlith athrawon fel ‘Ysgol Fraenaru’.
Steve Davies,
Cyfarwyddwr yr Adran Addysg