Neidio i'r prif gynnwy

Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn edrych ar y diwygiadau i addysg yng Nghymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn dilyn uwch-gynhadledd yr “Atlantic Rim Collaboratory (ARC)” yn yr hydref, a groesawyd i Gaerdydd gan Lywodraeth Cymru, dychwelodd dirprwyaeth o’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), sydd â’i bencadlys ym Mharis, i gael golwg mwy manwl ar hynt y gwaith sy’n mynd rhagddo ar draws y system addysg i roi’r cwricwlwm newydd ar waith.

sdrYmunodd Claire Sinnema, Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Auckland, Seland Newydd â’r dirprwyon, gan ddangos faint o sylw y mae’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru yn ei ddenu ar draws y byd.

Roedd yr ymweliad yn rhan o asesiad ehangach o’r diwygiadau i addysg yng Nghymru, a disgwylir y bydd adroddiad yr asesiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni. 

Yn ystod wythnos brysur, cyfarfu’r ddirprwyaeth ag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr o’r consortia addysg yn ogystal â phartneriaid yn y sector Addysg Uwch sy’n gyfrifol am arwain y ffordd o ran elfennau dysgu proffesiynol y gwaith i ddiwygio’r cwricwlwm. Hefyd, cawsant ‘frecwast gwaith’ gyda Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, a thrafodaethau â phobl allweddol eraill ym maes addysg.

Roedd y grŵp yn awyddus i ymweld ag ysgolion i gael sylwadau gan ddisgyblion ac ymarferwyr ar y paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Roedd Ysgol Uwchradd Caerdydd ac Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yng Nghasnewydd ymhlith y sefydliadau yr ymwelwyd â nhw. Mae ysgol Parc Jiwbilî yn ysgol 21ain Ganrif newydd sbon, sydd wedi arddel ethos y cwricwlwm newydd ers iddi agor. Sgwrsiodd y grŵp â staff ar bob lefel i ddysgu am eu profiadau, ac â disgyblion a roddodd gipolwg iddynt o’r effaith y bydd ein cwricwlwm arloesol yn ei chael ar genedlaethau’r dyfodol.

Yn ystod tymor yr hydref, dechreuodd yr  ysgolion Ymholi Arweiniol (Arloeswyr Dysgu Proffesiynol gynt) ar gam nesaf y prosiect, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm newydd.  Gall gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ddilyn ymholiadau presennol a arweinir gan ysgolion ar Hwb – bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru nesaf ym mis Mawrth.

Tîm Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth, Llywodraeth Cymru.

Gadael ymateb