Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Gymdeithion yr Academi Arweinyddiaeth rôl bwysig – ac mae angen mwy ohonynt nawr, yn ôl Pennaeth.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

 

C: Beth yw rôl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol?

A: Ei chenhadaeth yw ‘Ysbrydoli Arweinwyr: Cyfoethogi Bywydau’, ond yn syml bwriad yr Academi yw helpu Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer dysgwyr drwy gefnogi a datblygu arweinwyr yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion ar y wefan.

C: Felly beth yw Cydymaith?

A: Mae Cymdeithion yn galluogi’r Academi i gyflawni ei nodau drwy helpu arweinwyr eraill i ddatblygu eu gallu ar lefel ysgol, clwstwr neu gonsortia, cymeradwyo darpariaeth arweinyddiaeth (neu beidio!), cefnogi’r gwaith o ddylunio darpariaeth ac ymchwilio, ymysg pethau eraill. Mae dau gohort ar waith, ac mae’r nesaf yn recriwtio nawr – mae’n gyfle gwych i gydweithwyr.

 C: Pryd y daethoch chi’n Gydymaith – a pham?

Head of Gilwern Roger GuyA: Ym mis Ebrill 2019. I fod yn onest, rwy’n Bennaeth ers dros 20 mlynedd ac rwy’n credu bod y cwricwlwm newydd a’r diwygiadau ategol yn gwbl addas ar gyfer dysgwyr y dyfodol – a hoffwn i ei gefnogi. Rwyf wedi edrych ar systemau eraill sydd ar waith yn rhyngwladol a thrwy hynny rwyf wedi fy argyhoeddi hyd yn oed yn fwy ein bod yn teithio i’r cyfeiriad cywir. Ond roeddwn i hefyd am fod yn llais i’r proffesiwn – i’r rheini sydd heb ymuno â ni ar y daith eto – i helpu i leihau’r nerfusrwydd. Ac roeddwn am fynegi’r gwir wrth y rheini mewn grym gan fod herio polisi yn rhan o rôl yr Academi.

Yn fras, rwyf yma i godi llais ac i ymladd dros y diwygiadau hyn gan fy mod i’n credu ynddyn nhw.

 C: Sut mae’n teimlo i fod yn Gydymaith?

A: Roeddwn i’n hynod falch o gael fy newis. Doeddwn i heb gael cyfweliad ers 20 mlynedd ac er fy mod i wedi hyfforddi athrawon ar gyfer y cymhwyster CPCP, roedd yr esgid nawr ar y droed arall! Mae’n her – nid yw’n sefyllfa gyfforddus – ond mae’n rhoi safbwynt gwych i chi o’r holl leoliadau, sefyllfaoedd a ffyrdd o weithredu. Rwyf wedi dysgu cymaint drwy gael mynediad arbennig at arweinwyr byd-eang ym maes addysg.

C: Pa fath o weithgareddau ydych chi wedi bod yn rhan ohonynt?

A: Cafodd cyfres wych o seminarau a gweithdai ei chynnal gydag arbenigwyr addysg er mwyn dysgu am ddulliau a’u cwestiynu, ac mae’r negeseuon hynny wedi dechrau cael eu rhannu. Mae gennym hefyd ‘Gomisiwn’ sydd â’r bwriad o fynd ati i ymchwilio ac yna llunio papur ar rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu gweledigaeth Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus, gan gadw un llygad ar y ffordd rydyn ni’n rhannu ac yn lledaenu hynny. Rhan arall o waith yr Academi yw’r broses gymeradwyo ar gyfer y ddarpariaeth arweinyddiaeth sy’n cael ei chynnig ledled Cymru: er enghraifft eleni rydyn ni’n edrych ar gynigion ar gyfer hyfforddiant i arweinwyr canol gan ddarparwyr masnachol a’r consortia – rydyn ni’n edrych am ddarpariaeth sy’n cael effaith ehangach yn hytrach na darpariaeth fwy arbenigol, gan nodi hefyd unrhyw fylchau posibl yn y ddarpariaeth.

 C: Beth yw effaith hyn?

A: Ynghyd â’r gwaith craidd, rydyn ni’n ei asesu’r sefyllfa bresennol o ran arweinyddiaeth. Yna, fy ngwaith i a’r holl Gymdeithion – dau gohort hyd yma, dau ddeg pedwar ohonom – yw bod yn beiriant yr Academi, yn rhannu ac yn cefnogi arfer da. Rydyn ni eisoes wedi dechrau ar lefel clwstwr ac awdurdod lleol.

C: Pa mor bwysig yw darparu cymorth arweinyddiaeth yn ystod y diwygiadau presennol?

A: Hollbwysig. Gall newid arwain at ansicrwydd. Dyma gyfle o’r radd flaenaf ac mae angen eglurder ar yr arweinwyr ynghylch pam rydyn ni’n gwneud hyn oll. Mae angen hyfforddiant a chymorth arnyn nhw. Y newid o fod yn seiliedig ar ddeilliannau i fod yn seiliedig ar ddiben a phroses yw’r newid allweddol. Gall arweinwyr hefyd fod yn eithaf ynysig, felly mae’n rhaid i ni eu hannog i weithio gyda chlystyrau, rhanbarthau ac ysgolion yn genedlaethol, lle bo hynny’n bosibl. Ac os oes rhai yn teimlo’n ynysig ar y pwynt hwn yn ystod y broses ddiwygio, hoffwn feddwl ein bod yn gallu eu cefnogi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae angen inni hefyd addysgu arweinyddiaeth. Rwy’n credu y gallwn ni wneud hynny – i helpu pobl i adeiladu ar  gryfderau a datblygu’r mannau gwan.

C: Sut ydych chi’n gweld eich rôl fel Cydymaith yn datblygu?

A: Fy uchelgais yw helpu eraill, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r system wedi 20 mlynedd fel Pennaeth. Byddwn ni, fel grŵp, yn helpu eraill sydd heb gyrraedd mor bell yn eu taith ddiwygio, ac yn annog y defnydd o’r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu. Byddwn yn asesu ac yn craffu fwy ar hyfforddiant arwain, ac yn edrych yn bennaf ar y cynigion sy’n cael mwy o effaith. Un rhan o’r rôl yw sicrhau ansawdd sy’n ymwneud â’n diwygiadau. Ond byddwn hefyd yn herio arweinyddiaeth Haen 1, er enghraifft drwy ein Comisiwn, gan fod y gwaith hwn mor bwysig ac o natur drawsffurfiol.

Wrth gwrs, byddaf hefyd yn ymuno â’r gweddill i gefnogi’r cohort nesaf o Gymdeithion, a gweithio i gynnal pwrpas yr Academi.

C: A fu unrhyw effaith ar eich ysgol wrth i chi gymryd rhan yn y gwaith hwn?

IMG_0157A:  Drwy fod yn rhan o’r Academi, rwyf hyd yn oed yn fwy angerddol dros ddiben y daith ddiwygio a’i dylanwad ar sut rydych chi’n llywio eich ysgol chi. Fe wnaethon ni achub y blaen ar hyn wrth fod yn ysgol arloesi ac felly rydyn ni eisoes wedi dechrau rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith, gan ganolbwyntio ar ddibenion yn hytrach na deilliannau. A dweud y gwir, roedd un llygad yn dal i fod ar Estyn ac ar ddeilliannau wrth inni wneud hynny, ond fe wnes i roi hynny o’r neilltu ac ymlaen â ni. Ond fel mae’n digwydd, mae’r deilliannau o wneud hyn yn well hefyd!

C: Felly, a yw hi’n anodd dod (a bod) yn Gydymaith)?

A: Mae’r broses ymgeisio ar gyfer y cohort nesaf  ar agor tan 7 Chwefror, ac felly dylech yn sicr ystyried ymgeisio.

Mae’n gwneud i chi ystyried eich safle yn y system. Fe wnaeth fy annog i gwestiynu a ydw i mewn sefyllfa yn fy ngyrfa i gyfrannu at y system ehangach. Nid oedran sy’n bwysig yn hynny o beth – mae unigolion llawer iau na mi yn Gymdeithion – dim ond yr amseru.

Ar ôl ymgeisio, daw’r cyfweliad. Dim ond un ac mae’n ddiddorol! Rwy’n asesu fel rhan o’r rhaglen CPCP, ond er gwaethaf hynny roeddwn i’n dal i fod yn nerfus wrth fod yr ochr arall i’r broses gyfweld. Mae’n rhaid i chi fod yn barod i gyfrannu.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, rwy’n credu bod angen i chi ymrwymo a bod yn barod i roi o’ch amser i gyfrannu’n llawn at waith yr Academi. Rhaid i chi fanteisio i’r eithaf ar y buddion sy’n ymwneud â thyfu’n bersonol, ond hefyd manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hynny i ddylanwadu a chefnogi’r gwaith o ddatblygu dyfodol addysg yng Nghymru. Mae’n waith caled ond yn hynod werth chweil – mae’n fraint cynrychioli’r Academi ac mae’n rhaid ad-dalu hynny drwy sicrhau bod gan ein hysgolion yr hyn sydd eu hangen arnynt i roi addysg o’r radd flaenaf i bawb.

Gadael ymateb