Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn helpu ymarferwyr i asesu sgiliau gwybyddol a chyfathrebu cynnar dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.
Yn rhan o’r gwaith ehangach i ddiwygio’r cwricwlwm a threfniadau asesu, ac er mwyn adlewyrchu’r ymchwil diweddaraf yn y maes, mae’r deunyddiau yn awr yn cael eu diweddaru. Ar 28 Ionawr, bydd deunyddiau diwygiedig ar gael ichi gynnig adborth arnynt. Ym mis Chwefror, gwahoddir ymarferwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau i drafod y datblygiadau ac i gynnig eu hadborth eu hunain.
Cyhoeddwyd y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn 2006 yn wreiddiol, ac maent yn uchel eu parch ledled y DU a’r byd. Maent wedi eu cyfieithu i amryw o ieithoedd Ewropeaidd ac wedi eu defnyddio mewn gwledydd mor bell i ffwrdd â Nigeria. Mae’r gyfres o ddeunyddiau’n cynnwys:
- Map Llwybrau sy’n rhoi trosolwg o ddatblygiad gwybyddol, cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol cynnar, ac yn dangos y cerrig milltir pwysicaf.
- Fideos sy’n dangos dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog y mae eu hymatebion yn amlygu cerrig milltir y Map Llwybrau.
- Canllawiau i alluogi ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog i’w hasesu ac i gael gwybod sut i’w cefnogi wrth iddynt ddatblygu eu dysgu.
- Llyfryn asesu sy’n cynnig cymorth ynghylch sut i ddefnyddio’r Map Llwybrau, drwy roi enghreifftiau o weithgareddau asesu a strategaethau addysgu a syniad o’r hyn y mae angen chwilio amdano wrth asesu.
Mae ymarferwyr ac arbenigwyr yn cydweithio i ddiweddaru’r rhain, ac mae rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru wedi gwneud cyfraniad allweddol drwy gasglu’r fideos ac asesu eu hansawdd er mwyn amlygu disgrifyddion y Map Llwybrau. Ers mis Mehefin 2019, mae Grŵp Cynghori Ar Drywydd Dysgu wedi bod yn diweddaru’r canllawiau i helpu ymarferwyr i gael gwybod sut i asesu’r rhai sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, a sut i ddatblygu eu dysgu.
Ar 28 Ionawr, bydd yr eitemau wedi eu diweddaru hyn ar gael ichi gynnig adborth arnynt:
- Y Map Llwybrau gydag argymhellion ynglŷn â newidiadau i’r derminoleg, er mwyn egluro ystyr rhai o ddisgrifyddion y llwybrau
- Rhagor o fideos yn amlygu 10 o ddisgrifyddion y llwybrau sydd ar y map
- Canllawiau drafft Ar Drywydd Dysgu
Byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o’r adborth a gafwyd ar Fap Llwybrau diwygiedig Ar Drywydd Dysgu a’r 10 fideo esboniadol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019. Yn wir, mae’r diwygiadau sy’n cael eu cynnig a’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn ynglŷn â’r Map Llwybrau wedi eu llunio ar sail yr adborth a gafwyd.
Mae’n hollbwysig cael rhagor o adborth gan ymarferwyr i helpu i lunio deunyddiau terfynol Ar Drywydd Dysgu. Yn ogystal â chasglu sylwadau drwy gyfrwng ffurflen ar-lein rhwng 28 Ionawr a 6 Mawrth, byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad ymgysylltu:
- 11 Chwefror – Llandudno
- 25 Chwefror – Caerdydd
Digwyddiadau yw’r rhain ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog ac sydd, efallai, yn defnyddio Ar Drywydd Dysgu. Byddant yn gyfle i feithrin cyswllt ag ymarferwyr ac arbenigwyr sydd wedi cyfrannu at ddiweddaru’r deunyddiau; bydd cwestiynau allweddol yn cael eu gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan er mwyn cael clywed eu barn am y gwaith hyd yma.
Gall ymarferwyr sydd am gymryd rhan wneud cais am le drwy anfon e-bost i asesu@llyw.cymru (gan roi manylion eu hysgol a’u rôl) cyn 31 Ionawr. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y digwyddiadau neu’r broses adborth drwy e-bost i’r un cyfeiriad.
Yn ystod y misoedd sydd i ddod, bydd gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru gweddill deunyddiau Ar Drywydd Dysgu. Bydd gwaith yn cychwyn cyn hir ar y llyfryn asesu, ac mae fideos esboniadol hefyd yn cael eu casglu, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Os hoffai eich ysgol neu eich lleoliad weithio gyda ni i ddarparu fideos o’r fath, mae croeso ichi anfon e-bost i asesu@llyw.cymru.