Neidio i'r prif gynnwy

Ma’ fe ’ma! Rhowch groeso i Ganllawiau Cwricwlwm i Gymru.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Curriculum image HwbMae’r cwricwlwm newydd, a gyflwynir isod gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, ar gael ar Hwb nawr. Caiff ei ddefnyddio o 2022 ymlaen mewn ysgolion cynradd a blwyddyn 7, ac yna chaiff ei gyflwyno fesul blwyddyn nes ei fod yn cynnwys blwyddyn 11 erbyn 2026.

 

 

Mewn ymateb i adborth a gafwyd ar y drafft, mae’r canllawiau bellach yn fwy cryno a chlir, gyda chynnwys am sut i gynllunio cwricwlwm ar lefel ysgol.

Mae hefyd yn ymgorffori Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a Fframwaith Cymhwysedd Digidol sydd wedi’u diweddaru.

Er mwyn helpu ymarferwyr addysgu i ddod â’r cwricwlwm newydd yn fyw, bydd rhaglenni dysgu proffesiynol ac adnoddau yn cael eu darparu am ddim. Manylion i ddilyn yn y Gwanwyn.

Mae gan Gymdeithion yr Academi Arweinyddiaeth rôl bwysig – ac mae angen mwy ohonynt nawr, yn ôl Pennaeth.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

 

C: Beth yw rôl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol?

A: Ei chenhadaeth yw ‘Ysbrydoli Arweinwyr: Cyfoethogi Bywydau’, ond yn syml bwriad yr Academi yw helpu Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer dysgwyr drwy gefnogi a datblygu arweinwyr yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion ar y wefan.

C: Felly beth yw Cydymaith?

A: Mae Cymdeithion yn galluogi’r Academi i gyflawni ei nodau drwy helpu arweinwyr eraill i ddatblygu eu gallu ar lefel ysgol, clwstwr neu gonsortia, cymeradwyo darpariaeth arweinyddiaeth (neu beidio!), cefnogi’r gwaith o ddylunio darpariaeth ac ymchwilio, ymysg pethau eraill. Mae dau gohort ar waith, ac mae’r nesaf yn recriwtio nawr – mae’n gyfle gwych i gydweithwyr.

 C: Pryd y daethoch chi’n Gydymaith – a pham? Read more

Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn cael eu diwygio. Hoffem glywed eich adborth.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

RFL image for blogMae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn helpu ymarferwyr i asesu sgiliau gwybyddol a chyfathrebu cynnar dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.

Yn rhan o’r gwaith ehangach i ddiwygio’r cwricwlwm a threfniadau asesu, ac er mwyn adlewyrchu’r ymchwil diweddaraf yn y maes, mae’r deunyddiau yn awr yn cael eu diweddaru. Ar 28 Ionawr, bydd deunyddiau diwygiedig ar gael ichi gynnig adborth arnynt. Ym mis Chwefror, gwahoddir ymarferwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau i drafod y datblygiadau ac i gynnig eu hadborth eu hunain.

Cyhoeddwyd y deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn 2006 yn wreiddiol, ac maent yn uchel eu parch ledled y DU a’r byd. Maent wedi eu cyfieithu i amryw o ieithoedd Ewropeaidd ac wedi eu defnyddio mewn gwledydd mor bell i ffwrdd â Nigeria. Mae’r gyfres o ddeunyddiau’n cynnwys: Read more

Cymwysterau Cymru: Profi’r dyfodol

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gyfle i feddwl yn wahanol am addysg. Wrth i Cymwysterau Cymru lansio ei ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar gymwysterau i gefnogi’r cwricwlwm, mae’r Prif Weithredwr Philip Blaker yn dweud bod angen y ddarpariaeth gywir ar gyfer yfory i bobl ifanc 16 oed.

Philip_Blaker_03Profi’r dyfodol

Wrth i gwricwlwm newydd uchelgeisiol Cymru symud yn nes at fod yn realiti, mae’n anorfod y bydd cwestiynau’n codi ynglŷn â sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei ddeddfu.

Fel rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol, rydym yn gwybod bod y newid mewn dull a fwriadwyd gan y cwricwlwm yn cynnig cyfle i ailystyried sut rydym yn disgwyl i bobl ifanc 16 oed ddangos eu cyrhaeddiad.

Sut ydyn ni’n mesur llwyddiant mewn dysgu? Beth ydym am i’n pobl ifanc ei wybod erbyn iddyn nhw adael yr ysgol? Beth ddylen nhw allu ei wneud? Sut allwn roi’r cyfle gorau i ddysgwyr Cymru lwyddo? Ni all cymwysterau ateb yr holl gwestiynau hyn. Yn wir, ddylen ni ddim gofyn iddyn nhw wneud hynny – dim ond rhan o brofiad addysgol rhywun all cymwysterau fod ac ni ddylid eu hystyried yn lle cwricwlwm crwn a phrofiad addysgol eang. Read more