Neidio i'r prif gynnwy

Hwyl fawr a diolch am bopeth

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Annwyl Gydweithwyr,

Pan welwch eich swydd eich hun yn cael ei hysbysebu, fel sydd wedi digwydd i mi’n ddiweddar, mae’n dwyn yr hen gân i gof ‘The times they are a-changing’. Yn wir, mae hynny wedi bod yn wir i bawb ohonom eleni – mae wedi bod yn flwyddyn ryfedd iawn. Wrth imi ddymuno Nadolig heddychlon ichi i gyd, hoffwn hefyd dalu teyrnged i bob un ohonoch.

Eleni rydw i wedi gweld cryfder a dewrder eithriadol. Mae eich penderfyniad a’ch creadigrwydd wrth fynd ati i ddarparu gwersi i’n dysgwyr drwy gydol dyddiau Covid wedi bod yn rhyfeddol. Rydych wedi bod yn gryf pan nad yw hynny wedi bod yn hawdd yn aml. Rydych chi wedi bod hyd yn oed yn bwysicach na’r arfer o ran cynnal ein cymunedau, ac eleni dwi’n credu bod y boblogaeth ehangach wedi dod i weld hynny’n llawer mwy eglur. Rydych chi’n cael eich gwerthfawrogi’n fwy nag erioed. Diolch am y gwaith gwych rydych chi’n ei wneud.

Yn ystod y flwyddyn, dw i’n gwybod bod sawl un – yn sicr yn y sector cynradd a blwyddyn 7 – wedi bod yn meddwl am y ffyrdd y daw’r cwricwlwm newydd yn fyw yn eich ysgolion. I mi, mae’n teimlo fel pe bai’r cwricwlwm newydd bron wedi’i gynllunio i gynnig yr hyblygrwydd a’r fframwaith cadarnhaol sydd ei angen arnom i ymateb i’r amgylchiadau presennol. Mae’r pwyslais newydd ar Iechyd a Lles, y fframwaith cymhwysedd digidol, y cyfle i ddod â phersbectif drwy edrych ar straeon sy’n wirioneddol berthnasol i ddysgwyr, i gyd yn teimlo fel nodweddion ein hoes.

Felly wrth inni symud tuag at flwyddyn well yn 2021 ac wrth i mi baratoi i drosglwyddo’r awenau i’m holynydd ym mis Mai, dw i’n meddwl yn gadarnhaol iawn am y cwricwlwm, y diwygiadau ehangach ym maes addysg a fydd yn ei gefnogi (gan gynnwys atebolrwydd), dyfodol ein proffesiwn, a dyfodol ein dysgwyr. Chi sydd wrth galon y cwbl.

Diolch i chi gyd, cymerwch ofal a gobeithio y cewch Nadolig Llawen.

Steve Davies, y Cyfarwyddwr Addysg, Llywodraeth Cymru.

Iaith arwyddion Prydain: cyfleoedd newydd trwy’r Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio i gynnig hyblygrwydd a galluogedd i athrawon o fewn fframwaith cenedlaethol; mae’n nodi y dylai pob plentyn gael addysg eang a chytbwys, a gwneud cynnydd parhaus o 3 i 16 oed.

Fel rhan o’r cwricwlwm newydd, bydd modd addysgu iaith arwyddion Prydain (BSL) fel trydedd iaith neu iaith ddilynol, fel Ffrangeg neu Almaeneg. Mae hyn yn golygu y gallai BSL fod yn rhan o gwricwlwm ysgol bob dysgwr, yn ogystal â’r ddarpariaeth ar gyfer plant byddar a phlant trwm eu clyw.

Read more

Lles dysgwyr ac asesu: systemau cydgefnogaeth

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Pedwar Diben Cwricwlwm i Gymru [t23, Canllawiau Cwricwlwm i Gymru] yn ymgorffori gweledigaeth addysg sy’n cynnwys pwysigrwydd lles dysgwyr. Mae effaith pandemig Covid-19 ar ddysgwyr wedi arwain at roi mwy o flaenoriaeth i hybu lles dysgwyr. Gall pob ymarferydd gyfrannu’n sylweddol at les meddyliol, emosiynol a chymdeithasol dysgwyr drwy eu defnydd o asesu yn yr ystafell ddosbarth.

Llun George MacBride yn ‘Myth or Reality?’ Cynhadledd EIS. Gwesty Radisson SAS. Llun Drew Farrell.

Mae lles yn fwy hanfodol na theimlo boddhad ar unwaith: mae’n golygu datblygu fel unigolyn, ffynnu, bod yn fodlon a chyfrannu at y gymuned. Fel mae’r gair Saesneg ‘being’ yn ei awgrymu, mae’n ymwneud â ‘bod’ yn yr eiliad bresennol yn ogystal â ‘datblygu i fod’.

Mae tri therm – cysylltiad, ymreolaeth a galluogedd* – fel arfer yn crynhoi nodweddion rhyngberthynol diwylliannau ac arferion yn yr ystafell ddosbarth sy’n hanfodol i hybu lles. Wrth i ymarferwyr ddefnyddio asesiadau i gefnogi dysgwyr unigol o ddydd i ddydd, a nodi, cofnodi ac ystyried eu cynnydd dros amser [Canllawiau t224] gallant hyrwyddo cysylltiad, ymreolaeth a galluogedd drwy gyflawni’r cyfrifoldebau cydategol y mae’r Canllawiau [t227] yn eu rhagweld ar gyfer ymarferwyr a dysgwyr.

Mae cysylltiad yn cyfeirio at ymgysylltiad y dysgwr fel aelod o gymuned ysgol sy’n cefnogi cynnydd mewn dysgu a chyd-ddiwylliant ac ethos o barch i bawb. Mae parch yn golygu cydnabod hawl plant i gael rhywun i wrando ar eu llais wrth iddynt gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol a’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys defnyddio asesiadau i adolygu a chynllunio eu dysgu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cwricwlwm sy’n cydnabod y gall cynnydd ar hyd y daith ddysgu ddilyn llwybrau gwahanol o fewn map llwybr cyffredin.

Read more

Mae cysylltiad yn cyfeirio at ymgysylltiad y dysgwr fel aelod o gymuned ysgol sy’n cefnogi cynnydd mewn dysgu a chyd-ddiwylliant ac ethos o barch i bawb. Mae parch yn golygu cydnabod hawl plant i gael rhywun i wrando ar eu llais wrth iddynt gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol a’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys defnyddio asesiadau i adolygu a chynllunio eu dysgu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cwricwlwm sy’n cydnabod y gall cynnydd ar hyd y daith ddysgu ddilyn llwybrau gwahanol o fewn map llwybr cyffredin.

Read more

Ar Drywydd Dysgu – Digwyddiad adborth a galwad am fideos newydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu (ADD) yn cefnogi ymarferwyr i asesu dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog. 

Ochr yn ochr â datblygu’r cwricwlwm newydd, mae ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd wedi diweddaru’r deunyddiau ADD, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, 2020. Maent yn cynnwys:

Map llwybrau

Fideos enghreifftiol

Llyfryn asesu

Canllawiau

Mae’r gwaith hwnnw’n parhau wrth i ddysgu proffesiynol a deunyddiau enghreifftiol gael eu datblygu i helpu ymarferwyr i ddefnyddio’r deunyddiau newydd yn llwyddiannus. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae angen adborth i gynorthwyo i gwblhau’r gwaith, felly trefnir digwyddiad rhithwir:

Ar 2 Rhagfyr, gwahoddir ymarferwyr i ragweld y Deunyddiau Dysgu Proffesiynol a rhoi adborth.  

Bydd y gyfres gyfan o ddeunyddiau ar gael i’w hadolygu, gan gynnwys yr eirfa. Bydd aelodau’r grŵp Cynghori sy’n gyfrifol am eu datblygu yn gwrando ar adborth ac yn ymateb i gwestiynau.

Gall ymarferwyr a hoffai fynychu ofyn am le drwy anfon e-bost i asesu@llyw.cymru (gyda’r ysgol/lleoliad a manylion rôl) cyn 25 Tachwedd. Mae’r digwyddiad yn debygol o ddechrau am 2.00 p.m. a phara am ddwy awr.

Mae hwn yn gyfnod prysur, felly gall ymarferwyr na all mynychu roi adborth neu awgrymiadau i asesu@llyw.cymru

Mewn eitem flaenorol ar y blog hwn, disgrifiodd yr ymarferydd Aron Bradley ddigwyddiad adborth yn gynharach yn y broses ddatblygu pan oedd ymarferwyr yn gallu cyfarfod yn bersonol.

Galwad am fideos Enghreifftiol

Read more

Dysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm newydd: offer a dulliau gweithredu – Cynghorydd ‘Pennaeth’ yn siarad!

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Q: Felly Mark, sut y digwyddodd y newid rolau – o Bennaeth i ‘Gynghorydd Proffesiynol’?

Roeddwn i’n ‘arloeswr’ digidol ac mewn Mathemateg a Rhifedd, a dw i wedi gwneud llawer o waith ar gydweithio. Efallai mai dyna pam y ces i alwad o nunlle ym mis Ionawr y llynedd gan Kevin Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol yn yr Adran Addysg, yn gofyn imi a fyddai gyda fi ddiddordeb mewn arwain prosiect. Y nod oedd datblygu adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon – i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Fe drafodais i hyn gyda chadeirydd ein llywodraethwyr. Roedden nhw’n teimlo ei fod yn gyfle dysgu proffesiynol i mi hefyd, ac fe gefnogon nhw’r secondiad.

C: Rydych chi’n cefnogi’r cwricwlwm newydd felly?

Yn llwyr. Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ysgolion fod yn greadigol, datblygu dealltwriaeth dysgwyr mewn ffyrdd mwy hyblyg, a moderneiddio sut mae athrawon yn gweithio yn yr oes ddigidol. Mae’n ddatblygiad dewr a bydd athrawon yn gwerthfawrogi’r gwahaniaeth.

C: Os oes gennych fantra, beth yw hwnnw?

Mae angen inni weithio gyda’n gilydd mewn ysgolion! Mae cydweithio yn allweddol. Rydyn ni’n ailddyfeisio’r olwyn lawer gormod yng Nghymru.

Read more

Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe: cyfleoedd yn y cwricwlwm newydd – er gwaethaf Covid-19.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe rydym yn addysgu dysgwyr o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, y mae gan bob un ohonynt anawsterau cymdeithasol, emosiynol, iechyd meddwl neu anawsterau o ran ymddygiad. Mae effaith Covid-19 wedi arwain at rai o’r newidiadau mwyaf a chyflymaf i mi eu gweld erioed o ran beth yr ydym yn ei addysgu i’n disgyblion a sut yr ydym yn gwneud hynny. Dyma’r 6 mis mwyaf heriol sydd wedi fy wynebu yn fy ngyrfa.

Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ysgol 2020/21, mae angen i ni asesu sut mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf wedi effeithio ar les ein disgyblion, a chynllunio ar gyfer sut y gallwn gefnogi eu lles, eu gwydnwch a’u hiechyd meddwl wrth inni symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf., Nid oes modd i ni weld beth sydd o’n blaenau ychwaith.

Rydym wedi gwneud ein gorau i ymgysylltu â phob dysgwr, ac er nad ydym efallai wedi llwyddo gyda phob disgybl bob tro, rydym wedi dysgu cymaint yn ystod y broses. Mae’r strategaethau creadigol a ddatblygwyd gan athrawon a staff cyswllt yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’r angen arbennig wedi sbarduno ffocws ar drafodaeth, lles a llunio’r dysgu i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau unigol ein disgyblion.

Bydd y flwyddyn academaidd newydd yn ein gweld yn gweithio gyda’n gilydd i weithredu’r amgylchedd dysgu ‘newydd’ mewn ymateb i Covid-19. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym hefyd yn bwriadu symud i’n hadeilad pwrpasol newydd ar ddechrau 2021. Felly, mae pryderon a theimladau o bryder ar y naill law ac ymdeimlad o gyffro a chyfle ar y llall.

Cyn i mi ddweud rhagor wrthych am hynny, gadewch i ni edrych ar sut y bydd y cwricwlwm newydd yn helpu disgyblion yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe.

I ni, mae cefnogi dysgwyr i wireddu pedwar diben  Cwricwlwm i Gymru bob amser wedi gwneud synnwyr perffaith. Fodd bynnag, mae’r ffocws ar ddatblygu ein holl blant a phobl ifanc i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

…mor berthnasol ag erioed ar hyn o bryd.

Mae’r gallu i lunio’r dysgu ar gyfer ein disgyblion mewn ffordd sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion, eu diddordebau a’u profiadau unigol i’w groesawu’n fawr. Ac wrth i ni symud yn nes at gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae’n amlwg na allwn aros tan 2022.

Gydag Iechyd a Lles yn un o’r chwe maes dysgu a phrofiad yn y cwricwlwm newydd, mae cydnabod bod hyn yn rhan annatod o’r holl ddysgu yn sicrhau ei fod yn ganolog i’r cynllunio ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae’n rhoi man cychwyn clir i ni yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer cynllunio ein cwricwlwm o gwmpas materion sydd yn gweithredu fel rhwystrau i lawer o’n disgyblion; fel hyn, gallwn ddechrau goresgyn y materion sy’n eu hatal rhag ymgysylltu’n gadarnhaol – gydag eraill, gyda’r dysgu, gyda chymdeithas, ac yn fwyaf ofnadwy i rai disgyblion, gyda bywyd ei hun.

Hwsmonaeth anifeiliaid

Mae’r cwricwlwm newydd hefyd yn cynnig cyfle i’n hathrawon lunio cyfleoedd dysgu mewn ffordd fwy ystyrlon fyth, ac i ennyn diddordeb y dysgwyr hynny sydd wedi ymddieithrio fwyaf. Mae angen meithrin y ddawn greadigol y mae ein staff wedi’i ddangos dros y 6 mis diwethaf a’i datblygu ymhellach i gefnogi’r gwaith o gynllunio cwricwlwm mwy dewr,  cyffrous a diddorol. Mae’r ffocws ar gynnydd mewn dysgu yn ein galluogi i ddefnyddio asesu’n fwy gonest ac yn fwy realistig – i fesur yn gywir lle mae disgyblion yn eu dysgu, i lywio’r cynllunio a’r addysgeg i’w galluogi i gyrraedd y camau nesaf; a hefyd i arsylwi a dathlu eu cynnydd ym mhob agwedd ar eu dysgu yn hytrach na chanolbwyntio ar anawsterau a diffygion sy’n gysylltiedig â chaffael meysydd gwybodaeth cul.

Thechnoleg bur

Mae dysgu digidol hefyd wedi esblygu wrth i ni newid y ffyrdd rydym yn gweithio i reoli materion Covid-19, ac amlygwyd pŵer cymhwysedd a hyder digidol yn fwy nag erioed o’r blaen. Eleni byddwn yn croesawu dysgu digidol yn llawn ac yn ddewr oherwydd gwelwn ei bwysigrwydd i’n disgyblion a’u dyfodol. Mae’n cefnogi mwy o annibyniaeth a chysylltedd mewn dysgu, yn ogystal â chyfathrebu â ffrindiau, teuluoedd, athrawon, cyflogwyr y dyfodol a’r byd ehangach. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan ein holl staff y sgiliau a’r wybodaeth i gynllunio’n ystyrlon i’w defnyddio ar draws y cwricwlwm ac i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc yn eu meistrolaeth o sgiliau digidol. Bydd angen i ni hefyd adolygu mynediad i ddyfeisiau, meddalwedd a llwyfannau dysgu fel y gellir eu defnyddio’n ddiogel i gefnogi dysgu y tu allan i adeilad yr ysgol yn ogystal ag mewn gwersi. 

Ochr yn ochr â hyn, y flwyddyn nesaf bydd ein hadeilad newydd bwrpasol yn ein helpu i adeiladu gwell dyfodol. Rydym yn gobeithio symud i mewn i’r adeilad ar ddechrau 2021, gan ddefnyddio cyfleusterau a fydd yn ein helpu i gefnogi dysgwyr ymhellach a gwella profiadau dysgu.

Mae angen i’n dysgwyr ddeall effaith eu penderfyniadau ar ansawdd eu bywydau, a bywydau pobl eraill, rhywbeth rydym bob amser wedi gweithio i’w ddatblygu. Mae ein hadeilad newydd wedi’i gynllunio i’n helpu gyda hyn, fel y gallwn lunio eu dysgu’n fwy effeithiol a’i deilwra i anghenion, diddordebau a phrofiadau unigol. Bydd hefyd yn helpu i ddysgu am iechyd a lles, megis deall pwysigrwydd datblygu iechyd corfforol da gydag ystafelloedd addysgu technoleg bwyd, mynediad da i fannau awyr agored ac eco-ardaloedd. Bydd gennym neuadd fawr, gydag ystafelloedd synhwyraidd, ystafelloedd therapi a mannau tawel wedi’u cynllunio’n ofalus a fydd yn ein helpu i ddarparu cwricwlwm therapiwtig, gan ddatblygu a meithrin iechyd meddwl da.

Felly, gyda thymor newydd wedi cychwyn, carfan newydd o ddisgyblion ac adeilad newydd ar y gorwel, a oes gwell amser i ddatblygu ein cwricwlwm newydd?  Cwricwlwm sy’n cael ei lywio gan y diben ac sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig? Wel i ni dyma’r amser iawn, a hynny er gwaetha’r pandemig! Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe yn croesawu’r newydd, acyn sicr nid dyma ddiwedd ‘y newyddion’ i ni.

Amanda Taylor,

Pennaeth Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe (UCD) ac Uned Cefnogi Ymddygiad

Mae Amanda yn un o’r ymarferwyr sydd ar hyn o bryd yn datblygu canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol.

All Addysg Bellach ddysgu o’r hyn sy’n digwydd gyda’r cwricwlwm newydd?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru wedi’u cyhoeddi erbyn hyn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefais gyfle i weithio fel rhan o grŵp maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn mireinio’r cwricwlwm ar ôl cyhoeddi’r fersiwn ddrafft ym mis Ebrill.

Karl FE for the blog (2)Roeddwn i’n cyfrannu at y grŵp o safbwynt cyfrifiadureg. Bues i’n gweithio fel rhan o’r maes dysgu a phrofiad, ond yn bwysicach, roeddwn i’n gallu cyfrannu safbwynt y sector addysg bellach ôl-16 hefyd.

Nod y Cwricwlwm i Gymru yw newid arferion yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â delfryd newydd o ran y nod terfynol o addysgu pobl ifanc Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r maes dysgu ac addysgu yn canolbwyntio’n bennaf ar y gallu i dderbyn ac ailadrodd ffeithiau fel parot, os yw’r dysgwyr i gael eu hystyried yn llwyddiannus. Read more

Technocamps Haf o STEM: Cyflwyno Gwyddoniaeth a Thechnoleg trwy Ddysgu o Bell

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Technocamps item 2 top pic

Mae gwyliau ysgol yn wahanol eleni, gyda disgyblion o bob rhan o Gymru yn dechrau eu gwyliau Haf ar ôl misoedd o gloi gorfodol lle mae dysgu wedi bod bron i gyd ar-lein. Er gwaethaf – neu oherwydd – hyn, bu ymateb brwdfrydig i’n rhaglen Haf o STEM sy’n rhedeg trwy gydol tair wythnos gyntaf mis Awst. Mae dros 600 o ddisgyblion rhwng 9 ac 16 oed wedi cofrestru i ymuno â 15 diwrnod o weithgareddau hwyliog, ysbrydoledig.

Rhaglen Haf o STEM Read more

Technocamps: Ysgogi Cyfrifiadureg ar gyfer y Cwricwlwm Newydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Technocamps logoMae’n adeg hynod o gyffrous i ysgolion yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau, a hynny wrth i gyfnod y cwricwlwm newydd wawrio lle bydd yn cael ei roi ar waith ymhob ysgol o fis Medi 2022 ymlaen. Mae’n adeg gyffrous gan y bydd cyfle i athrawon ac ysgolion feithrin cwricwlwm wedi’i deilwra ar gyfer eu disgyblion, a’i roi ar waith, ond gallai fod yn heriol wrth i Feysydd Dysgu a Phrofiad trawsddisgyblaethol (MDaPh) gael eu cyflwyno, yn ogystal â phynciau newydd tebyg i gyfrifiadureg.

 Mae Technocamps bob amser wedi cenhadu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn diddordeb pobl mewn meddwl cyfrifiadurol. Byddwn yn parhau â’r genhadaeth hon trwy helpu athrawon a’u hysgolion i ddatblygu arferion addysgu effeithiol ac atyniadol yn ymwneud â’r datganiad cyfrifiadureg o Beth Sy’n Bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

 Mae’r datganiad cyfrifiadureg o Beth Sy’n Bwysig yn nodi:

‘Cyfrifiadureg yw’r sylfaen ar gyfer ein byd digidol:

Mae cyfrifiadureg yn cynnwys algorithmau sy’n prosesu data i ddatrys amrywiaeth eang o broblemau yn y byd go iawn. Mae prosesau cyfrifiadureg wedi newid ein ffordd o fyw, gweithio, astudio a rhyngweithio â’n gilydd a’n hamgylchedd. Maent yn sylfaen ar gyfer yr holl systemau meddalwedd a chaledwedd, ond dylai dysgwyr hefyd fod yn ymwybodol o gyfyngiadau’r hyn y gall cyfrifiaduron ei gyflawni. Er mwyn creu technolegau digidol a’u defnyddio i’w llawn botensial, rhaid i ddysgwyr ddeall sut y maent yn gweithio. Rhaid iddynt hefyd ddeall fod canlyniadau cyfreithiol, cymdeithasol a moesegol eang i’r defnydd o dechnoleg. Gallai hyn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch datblygu a chymhwyso technoleg yn y dyfodol.’  Read more

Diweddaru deunyddiau Ar Drywydd Dysgu: cyfarfod i ymarferwyr gael rhoi eu hadborth

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn helpu ymarferwyr i asesu sgiliau cyfathrebu a gwybyddol cynnar dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae’r deunyddiau yn cael eu diweddaru mewn ymateb i’r gwaith ymchwil diweddaraf, ac er mwyn adlewyrchu’r newidiadau addysgol ehangach yng Nghymru. Cawsant eu rhyddhau ar 28 Ionawr er mwyn i ymarferwyr gael rhoi eu hadborth.

 Ym mis Chwefror, ymunodd ymarferwyr â digwyddiadau yn y Gogledd a’r De i drafod y datblygiadau a chynnig adborth wyneb yn wyneb. Aeth Aron Bradley, Pennaeth Ysgol Hen Felin, i’r digwyddiad yng Nghaerdydd:

Aron for Assessment blog post‘Es i i ddigwyddiad Ar Drywydd Dysgu er mwyn cael gwybod mwy am y deunyddiau newydd a chyfrannu at y broses adborth.

Roedd cael clywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr sydd wedi datblygu’r deunyddiau newydd yn help i gael goleuni ar bethau. Roedd yn arbennig o ddiddorol gwrando ar academyddion a’r rheini sy’n gweithio mewn ysgolion ar hyn o bryd yn sôn am y broses o adolygu’r canllawiau blaenorol a sut y cawsant eu defnyddio gyda disgyblion priodol ledled Cymru. Rhannwyd gwaith ymchwil academaidd a luniwyd ers creu’r canllawiau hynny, ac roedd hwn yn dangos pam bod angen eu diweddaru. Mae hyn oll yn cefnogi’r gwaith o addysgu, dysgu ac asesu’r garfan benodol hon o ddysgwyr. Read more