Neidio i'r prif gynnwy

Asesu o fewn Cwricwlwm Cymru – Cefnogi Dilyniant Dysgwyr

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Female teacher with her pupils in classroomYn dilyn cyhoeddi’r cynigion asesu cychwynnol ym mis Ebrill 2019, daeth cryn dipyn o adborth i law. Roedd llawer yn cefnogi’r trywydd yr ydym yn ei ddilyn ond roedd gofyn am ragor o eglurhad ar rai agweddau. Roedd yr adborth yn gymorth mawr wrth i ni feddwl ymhellach am asesu, ac mae wedi arwain at ganllawiau diwygiedig sy’n wirioneddol adlewyrchu’r newid diwylliant sydd ar droed gyda Chwricwlwm Cymru. Mae’r Grŵp Cynghori ar Asesu wedi bod yn greiddiol i’r broses hon, gydag aelodaeth y Grŵp yn cynnwys: ymarferwyr, academyddion a chynrychiolwyr o’r Consortia Rhanbarthol, Estyn a Chymwysterau Cymru.

Ym mis Ionawr 2020, byddwn yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion a lleoliadau wrth iddynt ddechrau ystyried sut y byddant yn cynllunio, dylunio a gweithredu eu cwricwlwm ysgol newydd – bydd asesu yn rhan hanfodol o hyn. Mae’r blog hwn yn amlinellu rhai o’r negeseuon allweddol mewn perthynas ag asesu, gan roi syniad i chi o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld ym mis Ionawr.

Diben asesu 

Ar hyn o bryd, rydym yn cyfeirio at asesu ffurfiannol a chrynodol mewn trafodaethau proffesiynol a chanllawiau. Fodd bynnag, wrth ystyried eich adborth a chynnal trafodaethau pellach gydag ymarferwyr ac arbenigwyr, rydym wedi sylweddoli y gall termau fel hyn arwain at ddeuoliaeth annefnyddiol. Felly, yn y canllawiau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, byddwn yn canolbwyntio ar ddiben asesu, sef cefnogi dilyniant pob dysgwr unigol yn y continwwm 3-16. O gadw hynny mewn cof, rydym wedi nodi tri phrif diben ar gyfer asesu:

  1. Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
  2. Nodi, cofnodi ac ystyried dilyniant dysgwyr unigol dros amser
  3. Deall dilyniant grŵp er mwyn ystyried arferion

 Trefniadau asesu mewn ysgolion

Rydym yn symud oddi wrth ein system bresennol lle ffurfir barn am gyrhaeddiad cyffredinol dysgwr mewn pwnc ar adeg benodol, drwy roi lefel i ddysgwyr ar sail yr hyn sydd yn cyd-fynd orau â’i gyrhaeddiad. O fewn cwricwlwm Cymru, nid oes camau a chyfnodau allweddol mwyach, ac felly bydd asesiadau diwedd y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol yn cael eu dileu. Bydd y ffocws ar asesu parhaus, a bydd y dysgwr yn cael eu hasesu ar sail eu dilyniant personol yng nghwricwlwm yr ysgol.   Mae hyn yn golygu, pan fydd ysgolion yn cynllunio eu cwricwlwm, y byddant hefyd yn datblygu trefniadau asesu priodol i helpu dysgwyr i wneud cynnydd.

Sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ddilyniant

Ni fydd cymedroli yn ei ffurf bresennol yn digwydd mewn ysgolion mwyach. Yn hytrach, rydym yn cyflwyno proses newydd ar gyfer datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant o fewn ac ar draws ysgolion, gan gynnwys disgwyliadau ynghylch natur dilyniant a pha mor gyflym y gall dysgwyr symud yn eu blaen.

Pontio ar hyd continwwm 3-16

Ar hyn o bryd, mae prosesau pontio yn canolbwyntio’n bennaf ar ddysgwyr yn symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Byddwn yn pwysleisio pwysigrwydd cael dull gweithredu ehangach ar gyfer pontio, gan roi cymorth i ddysgwyr ar hyd y continwwm dysgu wrth iddyn nhw symud rhwng grwpiau, dosbarthiadau, blynyddoedd a lleoliadau.

 Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr

Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr yn cael ei ystyried yn broses barhaus, ddwyffordd a ddylai ddigwydd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Yn ein canllawiau, rydym yn pwysleisio mai dim ond un ffordd o gyfathrebu â rhieni/gofalwyr yw adroddiad ffurfiol, a dylai fod yn rhan o broses sy’n gwella dilyniant dysgwyr drwy helpu rhieni/gofalwyr i ddeall sut y gallant gefnogi dysgu o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol.

E-bortffolios

Ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd mewn perthynas ag e-bortffolios, teimlwn ei bod yn hanfodol rhoi hyblygrwydd i ysgolion ddatblygu a defnyddio e-bortffolios mewn ffordd sy’n briodol i’w cwricwla a’u cyd-destun. Yn hytrach na datblygu un system e-bortffolio ar gyfer pob ysgol, rydym yn bwriadu darparu cyfres o dempledi y gall ysgolion ddewis eu defnyddio, eu haddasu neu eu datblygu ymhellach fel y gwelant yn dda, gyda’r nod o gefnogi dysgwyr i gymryd perchenogaeth o’u taith tuag at y pedwar diben.

Bydd y gwaith o ddatblygu templedi drafft yn dechrau yn gynnar yn 2020, a byddant ar gael i ysgolion yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Edrych ymlaen o Ionawr

Ar ôl i’r canllawiau asesu gael eu cyhoeddi ym mis Ionawr, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu canllawiau ategol, deunyddiau enghreifftiol a dysgu proffesiynol er mwyn helpu i weithredu’r trefniadau asesu’n’ effeithiol i gefnogi dilyniant dysgwyr.

 

Y tîm Asesu, Llywodraeth Cymru

Gadael ymateb