Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Dysgu Proffesiynol ein Consortia Addysg Rhanbarthol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Consortia imageBydd dysgu proffesiynol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod gan bob aelod staff yn ein hysgolion yr wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol i gyflwyno’r diwygiadau addysgol sydd ar y gweill yng Nghymru. Yn y blog hwn, rydyn ni’n disgrifio’r rhaglen o ddysgu proffesiynol y bydd y Consortia’n ei darparu i baratoi ysgolion ar gyfer yr heriau y byddant yn eu hwynebu.

Bydd mynediad at y dysgu yn rhad ac am ddim ac mae’n cynnwys elfennau cenedlaethol cyffredin gydag elfennau rhanbarthol ychwanegol. Bydd ar gael i uwch arweinwyr o fis Ionawr 2020 ac i eraill yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn.

Mae timau rhanbarthol wedi cynllunio’r rhaglen fel ei bod yn cydweddu â’r Dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae wedi’i rhannu yn ôl cerrig milltir gyrfaol fel bod pob ymarferydd, wrth gyrraedd y gwahanol gerrig milltir, yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau perthnasol ar gyfer rhoi’r cwricwlwm ar waith yn effeithiol.

Pwy fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen?

Bydd y rhaglen yn cael ei llunio ar y cyd, ei hadeiladu a’i chyflwyno mewn partneriaeth â’r ysgolion Arloesi, Gwella Ansawdd ac Ymholi Arweiniol presennol, â chymorth staff y consortia rhanbarthol a’u cysylltiadau nhw â sefydliadau Addysg Uwch. Bydd ysgolion nad ydynt yn rhan o’r rhwydwaith ‘arloesi’ cyfredol hefyd yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gefnogi’r broses ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen.

Sut gallaf i gael mynediad at yr adnoddau os nad ydw i’n gallu dod i sesiwn fyw?

Bydd yr holl adnoddau ar gael drwy opsiwn e-ddysgu ar Hwb. Byddant wedi’u rhannu yn adrannau llai, fel bod modd i arweinwyr, athrawon a staff cynorthwyol ddysgu fesul tamaid.

Beth fydd ar gael?

Carreg filltir  Adrannau’r Rhaglen
Penaethiaid / Uwch Dîm Arweinyddiaeth Arwain Newid (o theori i ymarfer)

Datblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cwricwlwm newydd

Cynllunio ar gyfer newid y cwricwlwm (cynllunio ac amserlennu’r cwricwlwm)

Creu lle ac amser ar gyfer Dysgu Proffesiynol

Agweddau cydweithredol ar gynllunio cwricwlwm (y continwwm 3-16; cynnydd; dulliau cydweithredol; gweithio mewn clystyrau; deall sybsidiaredd; gwerthuso dulliau disgyblaethol, rhyngddisgyblaethol ac integredig. Cynllunio tymor hir a thymor canolig (meysydd dysgu a phrofiad)

Arwain ar Addysgeg (Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a Safonau Arweinyddiaeth)

Arweinwyr Ganol ac Athrawon Cwricwlwm i Gymru: ymgyfarwyddo â fframwaith y cwricwlwm, a chwestiynau i helpu’r broses feddwl a thrafod (cwestiynau i helpu’r cyswllt cychwynnol)

Cwricwlwm i Gymru: beth sy’n wahanol? Sut mae’n debyg/gwahanol i’r Cwricwlwm Cenedlaethol presennol?

Ailystyried addysgeg yng ngoleuni’r cwricwlwm newydd i Gymru

Defnyddio deunyddiau’r canllawiau cynllunio

Cynnydd (egwyddorion i fod yn sail i gynllun y cwricwlwm) – Asesu ar gyfer Dysgu

Cynllunio’r cwricwlwm: (y continwwm 3-16; cynnydd; dulliau cydweithredol; gweithio mewn clystyrau; deall sybsidiaredd; gwerthuso dulliau disgyblaethol, rhyngddisgyblaethol ac integredig. Cynllunio tymor hir a thymor canolig (meysydd dysgu a phrofiad)

Dyletswyddau trawsgwricwlaidd a Sgiliau Ehangach

Cynnwys/gwybodaeth addysgegol (penodol i ddisgyblaeth/maes dysgu a phrofiad) – Ystyried yr wybodaeth ddisgyblaethol ofynnol a’r addysgeg fwyaf priodol er mwyn cefnogi’r broses ddysgu o fewn (ac ar draws) meysydd dysgu a phrofiad

Asesu (datblygu dulliau asesu yn y cyfnod pontio rhwng cwricwla 2020 – 2022).

Ble ydw i’n dechrau?

Ar lefel yr ysgol y man cychwyn ar gyfer penderfynu ar yr addysgeg a’r dulliau y mae eu hangen er mwyn rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith yw Model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu.

Dylai ysgolion fynd drwy eu consortia rhanbarthol i gael gafael ar yr arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu. Gall eu consortia hefyd eu cyfeirio at adnoddau digidol i helpu o ran taith Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu. I gefnogi’r arolwg a’r Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol, mae model Taith Dysgu Proffesiynol yn cael ei datblygu, sy’n integreiddio’r modelau amrywiol sydd eisoes ar gael, gan gynnwys y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, ac sydd hefyd yn gydnaws â’r rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol a gyflwynir drwy’r Consortia Rhanbarthol. Gosodir y Daith Dysgu Proffesiynol ar wefan Hwb, sef cyfres o adnoddau i helpu ysgolion i gynllunio a chyflwyno dysgu proffesiynol.

Ar lefel unigol, mae’r 5 Safon Broffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth  yn fan cychwyn naturiol.

Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol – Sut mae ysgolion yn gwneud eu hymholiadau ynghylch y Cwricwlwm newydd?

Mae’r rhanbarthau hefyd yn cefnogi datblygu cohort o ‘Ysgolion Ymholi Arweiniol’ i helpu’r rhwydwaith ysgolion ehangach i adeiladu ar raglen beilot y llynedd â Sefydliadau Addysg Uwch. Mae’r gwaith yn ymchwilio i oblygiadau proffesiynol y cwricwlwm newydd. Bydd yr ymholiadau a wneir yn cael eu casglu a’u cyhoeddi gydol gwahanol gamau’r gwaith datblygu a byddant yn cael eu rhannu â’r holl ysgolion drwy Hwb yr hydref hwn. Bydd Ysgolion Ymholi Arweiniol yn hyrwyddo’r dull gweithredu o ran ymholi cenedlaethol a byddant hefyd yn defnyddio eu cyllid i gefnogi ysgolion â’r arferion ymchwil gorau.

Gadael ymateb