Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Diwygio Cymwysterau
Mae addysg yng Nghymru yn dechrau ar gyfnod sylweddol o newid. Yn ganolog i’r newidiadau hyn mae cwricwlwm newydd arloesol ar gyfer y rhai rhwng 3 ac 16 oed.
Er mwyn ategu’r cwricwlwm newydd, rydym am sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o bobl 16 oed yn cymryd cymwysterau ac iddynt barch byd-eang, sy’n eu hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. Rydym am sicrhau bod unrhyw newidiadau a wnawn yn arwain at welliannau a sefydlogrwydd hirhoedlog i’r system gymwysterau.
Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw bod pobl 16 oed yn sefyll cymwysterau ac iddynt barch byd-eang sy’n eu hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon a datblygu ein hymagwedd tuag at gymwysterau yn y dyfodol, bydd angen ymdrech ar y cyd gyda mewnbwn gan randdeiliaid addysg a thu hwnt. Byddwn yn gweithio’n agored ac ar y cyd ag eraill i gytuno sut y bydd angen i gymwysterau newid.
Dylid cynllunio cymwysterau i hyrwyddo addysgu a dysgu cadarnhaol ac ni ddylent fod yr unig ffordd y mae pobl ifanc 14-16 oed yn ymgysylltu ac yn cael profiad o’r cwricwlwm. Rydym, am sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd hwn yn gywir.
Mae cymwysterau’n gweithio orau pan fydd lefel dda o ddealltwriaeth gyhoeddus am eu gwerth a pham bod eu hangen, ar gyfer pwy a beth y maen nhw, a sut i’w dehongli. Trwy ein dull agored a chydweithredol rydym am greu ymdeimlad o berchnogaeth yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag mewn cymdeithas.
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chydweithio fel y gall pawb chwarae eu rhan wrth lunio’r cymwysterau gaiff eu cynnig yn y dyfodol. Rydym am glywed gan bawb sydd â diddordeb.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar ein cynigion mewn perthynas ag:
- Egwyddorion allweddol a ddylai gael eu hystyried i’r holl gymwysterau a arenir gan arian cyhoeddus fydd yn cael eu sefyll yn 16 oed;
- Cadw cymwysterau a elwir yn TGAU ac adolygu cymwysterau TGAU presennol i weld sut gallent fod yn fwy blaengar a chefnogi dibenion y cwricwlwm ar wahân yn well;
- Ailddatblygu’r Dystysgrif Her Sgiliau i barhau I gynnig y dewis o gymhwyster annibynnol sy’n asesu sgiliau ehangach.
Gwaith yn y dyfodol
Dyma’r cyntaf o gyfres ymgynghoriadau sy’n ymwneud â chymwysterau mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd, a bydd eich adborth yn ein cynorthwyo i lunio ein hymagwedd at y gwaith pwysig hwn.
Ebost: diwygio@cymwysteraucymru.org neu ewch i: www.cymwysteraucymru.org
Amserlen