Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
C: Pwy ydych chi a sut y daethoch chi’n rhan o hyn?
A: Richard Lawson ydw i. Roeddwn yn un o’r Arloeswyr gwreiddiol – yn wirfoddolwr. Roedden nhw angen athro ffiseg ac atebais yr alwad yn 2017.
C: Felly, sut brofiad oedd y cyfnod cynnar i chi?
A: Caled iawn! Profiad eithaf anodd weithiau. Fe ddechreuom siarad am gyrchfannau – ond roedd rhaid i ni greu ein ffordd ein hun, gwneud ein map ein hun. Mae hynny’n waith caled. Pan mae gennych chi 30 o bobl mewn ystafell, mae’n anodd cytuno ar lwybr i’w gymryd.
C: Beth yw’ch rôl yn y gwaith mireinio?
A: Sicrhau Ansawdd, gan weithio ar sail yr adborth ar y cwricwlwm drafft. Treulir dau draean o’n hamser yn edrych ar adborth ynghylch Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a thraean yn edrych ar y cwricwlwm cyfan – rhifedd yn fy achos i – yn edrych am gysondeb ar draws y cwricwlwm, y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, Mathemateg a Rhifedd…
C: A beth yn union oedd y gwaith?
A: Roedd yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud yn newid wrth i bethau symud ymlaen. Dyma’r ail gyfres o weithdai tri diwrnod – mae pedair cyfres i gyd, dros gyfnod o dri mis. Yn y gyfres gyntaf, y gwaith oedd didoli’r adborth ar y cwricwlwm drafft, gan edrych ar y camau oedd angen eu cymryd; cafwyd adborth o amryw o lefydd, rhai’n ddigon syml, eraill yn fwy heriol, a’n gwaith ni oedd ceisio gwneud synnwyr o’r cyfan.
Y tro hwn (Hydref 1-3), rydym yn ystyried yr adborth hwnnw ac, ymhlith pethau eraill, rydym yn edrych ar y modd y mae’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno, yn ailedrych ar ddatganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’, ac yn dechrau newid y canllawiau er mwyn awgrymu sut y gall athrawon greu’r dysgu sydd ei angen, a’r fethodoleg ar gyfer dewis pynciau a phrofiadau.
C: Beth oedd eich barn chi am yr adborth?
A: Roedd peth o’r adborth yn adeiladol ond roedd rhywfaint wedi’i seilio ar gamsyniadau a phryderon ein bod yn symleiddio’r cwricwlwm. Bu rhaid i ni fod yn weddol gadarn. Mae dwy flynedd a hanner o drafodaethau brwdfrydig wedi digwydd cyn heddiw. O ran fy Maes Dysgu a Phrofiad i, mae’r adborth mwyaf cadarnhaol wedi dod gan athrawon ysgol, ac mae’r adborth gan grwpiau megis cymdeithasau proffesiynol wedi bod yn llai cadarnhaol. Yn gyffredinol, roeddent yn teimlo ein bod yn glastwreiddio’r ddisgyblaeth o bosibl. Efallai bod hyn oherwydd nad ydym wedi dewis defnyddio enwau’r disgyblaethau, sy’n benderfyniad bwriadol.
Roedd peth adborth yn hynod feirniadol, ond rwy’n credu bod y rheini yn edrych arno’n unllygeidiog heb weld y darlun mawr. A dweud y gwir, rydym yn caniatáu llawer mwy o le i archwilio a chael profiadau. Blas yn unig a gafodd disgyblion yn y gorffennol o dan yr hen gwricwlwm. Bydd dysgwyr yng Nghymru yn cael eu hannog i archwilio pynciau yn ddyfnach ac yn fwy ystyrlon ac er fy mod yn deall pryder rhai sy’n credu y bydd addysg yn cael ei glastwreiddio mewn rhai meysydd, mae gwytnwch y system yn parhau. Bydd yn rhoi mwy o le i ddysgwyr ymwneud â’r pwnc ar lefel ddyfnach yn hytrach na chael eu hyfforddi i basio arholiadau yn unig.
C: Ydy’r adborth wedi bod yn anodd i’w brosesu?
A: Nid yw’r adborth yn ein digalonni, ond mae’n ein herio ni i gael pawb i ddeall ein safbwynt. Mae cwricwlwm sy’n seiliedig ar y Pedwar Diben yn wahanol iawn. Mae Meysydd Dysgu a Phrofiad yn wahanol. Mae’r safbwyntiau i gyd yn werthfawr oherwydd eu bod wedi dod o’r tu allan i’n byd bach ni. Maent hefyd yn ein hysgogi i weithredu. Rydyn ni wedi mabwysiadu iaith a ffordd o feddwl, ond roedd angen eu herio. Rydyn ni’n bod yn gydwybodol wrth ymateb.
C: Felly, ydych chi wir yn mwynhau hyn?
A: Bu’n fraint wirioneddol cael bod yn rhan o’r broses. Ddaw’r cyfle hwn ddim eto, ac mae’n gyfle prin i fod yn rhan o broses ddiwygio addysg sylfaenol. Yn fy mhrofiad i, mae pob athro/athrawes yn angerddol am sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i’w dysgwyr y tu mewn i’r ystafell ddosbarth ac mewn bywyd yn gyffredinol. Mae hyn wedi bod yn gyfle i gael effaith wirioneddol ar blant y genedl gyfan am genedlaethau i ddod. Er y gall fod yn frawychus ar brydiau, mae hyn wedi rhoi cyfle prin i mi fyfyrio’n ddwys ar beth yw addysg a’i dibenion a gwneud newidiadau sylfaenol i’w gwella.
C: A ddylai cydweithwyr fod yn hyderus am eich gwaith chi?
A: Dylent. Rydym yn gwneud gwaith anhygoel! Ond, o ddifrif, rwy’n credu y byddant ‘yn falch. Mae pawb sy’n ymwneud â’r broses yn angerddol am sicrhau bod y cwricwlwm gorau gennym i ddysgwyr yng Nghymru ac rwy’n credu y bydd hynny’n amlwg iawn. Mae’r broses wedi bod yn drylwyr ac rwy’n credu y gall pobl ymddiried yn ein gwaith a’i groesawu.
Yn wir, rwy’n credu bod yn rhaid iddynt groesawu hyn. Rwy’n deall bod ansicrwydd yn bodoli ond mae angen i ni gymryd y cam hwn yn hyderus oherwydd mae manteision amlwg i’n disgyblion.
Rwy’n credu y gall pob un ohonom wneud profiad dysgu’r disgybl yn well. Mae’n iawn paratoi pobl ar gyfer arholiadau, ond nid ydym yn eu paratoi’n iawn am fywyd. Mae angen y ddau; mae’r byd wedi newid ac mae’n rhaid inni symud ymlaen.