Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae ein cenhadaeth genedlaethol i weddnewid addysg yn codi momentwm, ac mae ein rhaglen uchelgeisiol yn dod at ei gilydd.
Yr hydref hwn rwy’n edrych ymlaen at gael sgwrsio gyda’r Penaethiaid yn uniongyrchol ym mhob un o’n rhanbarthau, i drafod y ffordd mae pob elfen o’r gwaith diwygio yn dod ynghyd i gefnogi ein cwricwlwm newydd a’n huchelgais ynghylch dyfodol pob un o’n plant.
Byddwn yn dathlu llwyddiannau hefyd wrth gwrs. Y cynnydd yn y ffordd rydym wedi bod yn cydweithio i ddatblygu’r cwricwlwm newydd a diwygio ADY. Y ffordd mae Cymru wedi codi ar y rhestrau Safon Uwch, a bellach ar y brig o ran A* o gymharu â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae cydweithwyr yn y consortia wedi bod yn gweithio gyda’m swyddogion i ddatblygu’r cynadleddau hyn, a fydd yn gyson o ran eu cynnwys ar draws y wlad er mwyn i bawb fod ar yr un lefel, ond a fydd hefyd wedi’u haddasu yn unol ag anghenion lleol.
Beth fydd yn cael ei drafod?
Mae arweinyddiaeth yn hanfodol ar adegau fel hyn. Felly byddwn yn edrych ar ein ffordd o adeiladu gallu o ran arweinyddiaeth, gan gynnwys arweinyddiaeth ganol, a rôl arweinyddiaeth wrth gynllunio’r cwricwlwm.
Byddwn yn trafod y rhaglen dysgu proffesiynol, gydag elfennau cenedlaethol a rhanbarthol, a fydd yn cychwyn i arweinwyr fis Ionawr 2020 ac i’r staff ehangach o ddiwedd tymor y gwanwyn. Mae’r cymorth hwn, sy’n cael ei ddarparu’n rhanbarthol, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £24m i baratoi staff yn briodol i roi’r cwricwlwm ar waith yn 2022.
Ac, yn hanfodol, byddwn yn trafod newidiadau dwys i atebolrwydd. Nid oes modd brysio hyn, oherwydd rydym ni oll yn gwybod am beryglon canlyniadau anfwriadol, ond mae cynlluniau peilot ar hunanwerthuso, gyda’r nod o gael asesiad gan gymheiriaid, eisoes yn mynd rhagddynt. Bydd ysgolion yn cael eu gwerthuso yn eu cyd-destun eu hunain, gyda chefnogaeth targedau a osodwyd yn benodol. Yn y cyfamser mae mesurau perfformiad interim yn eu lle. Penaethiaid sydd bob amser ar y rheng flaen wrth edrych ar berfformiad, felly mae ond yn iawn i’w sylwadau gael sylw canolog hefyd – i gadarnhau yn union beth sy’n bosib ei gyflawni.
Byddwn hefyd yn ystyried Anghenion Dysgu Ychwanegol a pharatoadau ar gyfer cyflwyno’r system newydd o fis Medi 2021.
Felly, Benaethiaid, os nad ydych chi eisoes wedi archebu’ch lle yn eich cynhadledd Consortia Rhanbarthol leol – y gyntaf i’w chynnal ddydd Iau yng Nghanolbarth y De – cysylltwch â nhw i gofrestru. Rwy’n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi yno!