Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrio ar Uwchgynhadledd Prosiect Addysg ARC 2019 yng Nghaerdydd, Cymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Atlantic Rim Collaboratory (ARC) yn rhwydwaith byd-eang sy’n ceisio gwella addysg i unigolion drwy helpu systemau addysg i wella. Eleni, cynhaliwyd ei uwchgynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd, ymweliad amserol a roddodd gyfle i’n cynadleddwyr drafod y diwygiadau presennol i’r system addysg yng Nghymru.

ARC blog school visitCynhaliwyd yr Uwchgynhadledd gan Lywodraeth Cymru rhwng 12-15 Medi yng Nghaerdydd, sef prifddinas hardd Cymru.

Mae ARC wedi’i leoli ym Mhrifysgol Ottawa, a hon oedd ei bedwaredd uwchgynhadledd. Mae’n fudiad byd-eang sy’n ymrwymedig i hyrwyddo rhagoriaeth, tegwch, cynhwysiant, llesiant, democratiaeth a hawliau dynol i bob myfyriwr mewn systemau o ansawdd uchel a redir yn broffesiynol. Mae Gweinidogion, uwch-weision sifil ac arweinwyr cymdeithasau proffesiynol o systemau cyfranogol oll yn cymryd rhan.

Eleni, roedd cynadleddwyr rhyngwladol yn cynrychioli wyth system addysg (Y Ffindir, Gwlad yr Iâ, Iwerddon, Nova Scotia, Saskatchewan, yr Alban, Wrwgwái a Chymru), y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Cydffederasiwn Rhyngwladol y Penaethiaid (ICP) ac Education International (EI). 

ARC blog - discussion

Cymerodd y cynadleddwyr ran mewn dysgu a deialog gyfoethog ar ddau bwnc strategol, sef: dyfodol asesu a chyfrifoldeb ac arwain newid ym mhob rhan o system addysg. Cafodd y drafodaeth ei llywio gan sgyrsiau ARC ysgogol a chraff a gyflwynwyd gan rai o ysgolheigion mwyaf blaenllaw’r byd ym maes addysg, sef: Mick Waters, Graham Donaldson, Beatriz Pont a Pasi Sahlberg.  

Yn wahanol i gynhadledd, mae uwchgynhadledd ARC yn blaenoriaethu, fel y noda Beatriz Pont, ddysgu gan gymheiriaid gyda ffocws clir ar degwch, rhagoriaeth a llesiant ym maes addysg.  Yng Nghymru, bu’r cynadleddwyr yn gweithio mewn grwpiau bach a mawr i nodi a herio arferion a pholisïau presennol, ystyried pynciau strategol yr uwchgynhadledd a hyfforddi ei gilydd, system i system.

Cafodd gwersi allweddol a ddysgwyd eu nodi yn natganiad i’r wasg uwchgynhadledd ARC 2019.  Er bod y diwrnodau yn hir ac yn ddwys, yn y sesiwn olaf dywedodd y cynadleddwyr eu bod wedi cael eu hysbrydoli a’u sbarduno i barhau â’r drafodaeth ac ymgorffori’r hyn a ddysgwyd yn eu cyd-destunau eu hunain. Ceir ymatebion cynadleddwyr a myfyrdodau fideo byr ar twitter hefyd yn #arcsummit19.

 Sbotolau ar ‘Ein Cenhadaeth Genedlaethol’ yng Nghymru

Trefnwyd digwyddiad dynamig a diddorol cyn yr uwchgynhadledd gan Lywodraeth Cymru.  Dechreuodd y sesiwn sbotolau gydag araith angerddol ac ysbrydoledig gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a rannodd ei hawydd i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i ddysgu, bod yn athro, mynd i’r brifysgol neu addysg alwedigaethol a dechrau gweithio. 

ARC blog panel (2)Wrth wraidd y diwygiadau ar raddfa fawr sy’n cael eu cyflwyno yng Nghymru mae cwricwlwm a threfniadau asesu newydd. Mae’r rhan hon o’n Cenhadaeth Genedlaethol, a ddisgrifiwyd gan y Cyfarwyddwyr Addysg, Steve Davies, ynghyd â Dysgu Proffesiynol, wedi’u cynllunio gan athrawon ar gyfer plant. Dangoswyd ffocws clir Cymru ar gydgynhyrchu ac ymrwymiad i staff a myfyrwyr drwy gydol y sesiwn sbotolau ac roedd yn thema a ddaeth i’r amlwg y mhob cyflwyniad gan staff yr Adran, arweinwyr haen ganol a phenaethiaid.

Yn bwysicach na dim, efallai, roedd y ffocws ar staff a myfyrwyr hefyd yn amlwg yn ystod ymweliadau ag ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg.  Gan fod ymweliadau ag ysgolion yn rhan annatod o uwchgynadleddau ARC, cafodd y cynadleddwyr gyfle i weld sut beth oedd newid system ar lawr gwlad a chlywed gan athrawon, staff a myfyrwyr yng Nghymru am eu profiadau gyda’n Cenhadaeth Genedlaethol.  Yn ystod yr ymweliadau hyn, nododd cynadleddwyr ARC, yn ogystal â’r ffaith eu bod yn awyddus iawn i siarad am eu haddysgu a’u dysgu, fod y myfyrwyr a’r staff wedi mynegi ymdeimlad cryf o falchder yn eu hysgolion a Chymru.

 Daeth yr ymdeimlad hwn o falchder yn hanes, iaith ac arloesedd Cymru yn fyw hefyd drwy ganeuon, dawnsiau a thrafodaeth yn ystod y digwyddiadau diwylliannol a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd a Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan

Arc blog castleRoedd y cyflwyniadau, yr ymweliadau ag ysgolion a’r digwyddiadau diwylliannol yn bendant yn ategu datganiad Kirsty Williams bod pobl Cymru “yn credu mewn addysg fel ymdrech unigol, cymunedol a chenedlaethol.

Gan fyfyrio ar yr uwchgynhadledd, gadawodd y cynadleddwyr gyda neges glir y gall newid addysgol ystyrlon ddigwydd drwy gydgynhyrchu a’i bod yn hanfodol ymddiried mewn addysgwyr a myfyrwyr. I gloi, o ystyried y gyd-ddealltwriaeth bod angen i bob system addysg gael ei hadolygu, ei chefnogi a’i harfarnu’n feirniadol yn barhaus, mae pŵer ARC, fel y noda Steve Munby, yn deillio o’i gred arweiniol y gall grŵp bach o systemau addysg o natur debyg, drwy gydweithio, helpu i newid y byd.  Bydd yn braf cael clywed sut mae systemau ARC yn parhau i ddysgu a datblygu yn ystod y flwyddyn i ddod pan fyddwn i gyd yn ailymgynnull yn uwchgynhadledd ARC 2020 yn Halifax, Nova Scotia. 

ARC blog St Fagans.jpeg

Trefnwyd yr uwchgynhadledd gan Ysgrifenyddiaeth ARC sy’n cynnwys Andy Hargreaves (cyd-sylfaenydd/Arweinydd Meddwl ARC), Yngve Lindvig (cyd-sylfaenydd/Learn Lab), Tore Skandsen (IMTEC), a Steve Munby (hwylusydd ARC). 

Trista Hollweck, Cyfarwyddwr Prosiect ARC.

 

ARC blog post attendees

Gadael ymateb