Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Bydd dysgu proffesiynol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod gan bob aelod staff yn ein hysgolion yr wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol i gyflwyno’r diwygiadau addysgol sydd ar y gweill yng Nghymru. Yn y blog hwn, rydyn ni’n disgrifio’r rhaglen o ddysgu proffesiynol y bydd y Consortia’n ei darparu i baratoi ysgolion ar gyfer yr heriau y byddant yn eu hwynebu.
Bydd mynediad at y dysgu yn rhad ac am ddim ac mae’n cynnwys elfennau cenedlaethol cyffredin gydag elfennau rhanbarthol ychwanegol. Bydd ar gael i uwch arweinwyr o fis Ionawr 2020 ac i eraill yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn.
Mae timau rhanbarthol wedi cynllunio’r rhaglen fel ei bod yn cydweddu â’r Dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae wedi’i rhannu yn ôl cerrig milltir gyrfaol fel bod pob ymarferydd, wrth gyrraedd y gwahanol gerrig milltir, yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau perthnasol ar gyfer rhoi’r cwricwlwm ar waith yn effeithiol.
Pwy fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen? Read more