Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn cynnig persbectif allanol ar y cynnydd a wnaed ar gwricwlwm newydd Cymru. Grŵp o academyddion yw hwn sydd â statws rhyngwladol ac sy’n cwrdd yn rheolaidd i drafod cynnydd a rhoi cyngor ar faterion.
Dyma ddau fideo. Yn y cyntaf, mae tri aelod o’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn cyflwyno eu hunain ac yn ateb cwestiynau am yr adborth a ddaeth i law yn ddiweddar a’i oblygiadau:
Nesaf, safbwyntiau ar y dull o greu cwricwlwm ar sail ysgolion arloesi/cyd-greu, cwestiwn ‘arbenigedd pwnc’, ac a all athrawon ac ymarferwyr edrych ymlaen at addysgu’r cwricwlwm newydd gyda hyder.