Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Cafwyd llu o ymatebion pan wahoddwyd adborth at y cwricwlwm newydd. Cafwyd 1,680 i gyd, gan gyrraedd dros yr e-bost, ar-lein, drwy’r post gan ychwanegu at yr adborth a ddarparwyd yn uniongyrchol mewn digwyddiadau rhanbarthol a grwpiau ffocws, gan bobl ifanc ac ymarferwyr, rhieni a busnesau.
Comisiynwyd Wavehill a Dynamix, sefydliadau ymchwil annibynnol, i ddadansoddi’r ystod o safbwyntiau ac i weld pa mor gyffredin yr oeddent ar draws y grwpiau rhanddeiliaid ac ar y cyfan.
Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr yn gefnogol i strwythur ac amcan y cwricwlwm, ac roedd llawer yn croesawu’r cynigion. Roedd pobl yn hoffi’r pwyslais ar y pedwar Diben, y rhyddid y mae’r cwricwlwm yn ei roi i athrawon, a’r rôl fwy sydd gan asesu ffurfiannol.
Fodd bynnag, nodwyd problemau hefyd; gan gynnwys ystyriaethau ymarferol megis yr amser, yr adnoddau a’r gefnogaeth y bydd eu hangen i roi’r cwricwlwm newydd ar waith. Roedd y rhan fwyaf o’r farn y gellid gwella’r canllawiau, a chafwyd awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud hynny. Yn y bôn, y neges oedd: ‘gwnewch nhw’n symlach, ond gan ychwanegu manylder mewn llefydd i helpu athrawon allu eu cyflawni’n ymarferol’.
Mae cymaint mwy i wybod am yr adborth – gan gynnwys pethau penodol am y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae popeth yn yr adroddiad llawn ar y tudalen hwn.