Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Cyn cyhoeddi fersiwn ddrafft y Cwricwlwm i Gymru, ac yn fwyfwy ers hynny, mae sawl myth a chamddehongliad wedi dod i’r amlwg sy’n groes i fwriadau’r rheini sy’n rhan o ddylunio a datblygu’r cwricwlwm newydd. Dros ddau flogiad, byddwn yn ymdrechu i chwalu rhai o’r mythau hyn a chynnig rhywfaint o gydbwysedd lle mae deuoliaethau di-fudd wedi dechrau ymddangos.
Myth #1 – Ni fydd unrhyw beth wir yn newid – gellir ei gyflwyno yn yr un ffordd rydym yn ei wneud nawr.
Os yw’n gweithio’n iawn, pam mae angen ei newid? Mae hwn yn wrthwynebiad cyffredin i wneud rhywbeth newydd. Ond, a oes angen i rywbeth beidio â gweithio o gwbl cyn i ni ymdrechu i’w wella, ei ddatblygu a’i ddiwygio?
Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru yn fath gwahanol o gwricwlwm i’n un presennol ni – wedi’i seilio ar y 4 diben. Ni waeth pa mor effeithiol yw eich darpariaeth cwricwlwm bresennol yn eich tyb chi, bydd angen i chi ymgysylltu â’r hyn y mae cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yn ei olygu i ddysgwyr ac ystyried eich cwricwlwm yng ngoleuni’r 4 Diben, y Meysydd Dysgu a Phrofiad, yr Hyn sy’n Bwysig a Deilliannau Cyflawniad. Bydd hyn yn golygu mwy nag ôl-osod yr elfennau hyn yn y ddealltwriaeth bresennol a’r ffyrdd presennol o weithio. Fframwaith cenedlaethol yw’r cwricwlwm newydd i Gymru, a dim ond drwy ddatblygu cwricwlwm a threfniadau asesu yn yr ysgol y gellir ei wireddu. Yn ogystal, mae’n hanfodol ein bod yn deall bod y term cwricwlwm yn cyfeirio at yr holl brofiadau dysgu a’r gweithgareddau asesu sydd wedi’u cynllunio wrth i ni anelu at ein dibenion addysg cytûn.
Bydd angen newid, a bydd angen mwy o newid mewn rhai lleoliadau nag eraill. Ydy hi wir yn mynd i fod yn bosibl (neu’n ddoeth) cael cwricwlwm newydd, safonau proffesiynol newydd, trefniadau asesu ac atebolrwydd newydd, cymwysterau newydd, a’r Bil Cwricwlwm ac Asesu arfaethedig, a pheidio â newid unrhyw beth yn eich lleoliad o gwbl? Read more