Bydd sylfaen gyfreithiol i’n cwricwlwm newydd. Mae Papur Gwyn, a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd ei hangen, ac mae’r ymgynghoriad ar agor o 28 Ionawr tan 22 Mawrth 2019.
Mae’r cynigion yn adlewyrchu’r uchelgais a’r argymhellion a geir yn Dyfodol Llwyddiannus, gyda’r nod o roi rhyddid i ymarferwyr ddefnyddio’u crebwyll proffesiynol a’u creadigrwydd er mwyn bodloni anghenion dysgwyr.
Mae Hysbysiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru yn nodi’r safiad:
I chwalu ffiniau pynciau traddodiadol a grymuso athrawon i alluogi iddynt fod yn fwy arloesol, byddwn yn cyflwyno chwe Maes Dysgu a Phrofiad, sef y Dyniaethau; Iechyd a Lles; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Y Celfyddydau Mynegiannol a Mathemateg.
Bydd Cymraeg a Saesneg yn parhau yn statudol, felly hefyd Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Ochr yn ochr â hyn bydd y cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd, sef Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn statudol hyd at 16 oed.
Bydd cyfnodau allweddol yn cael eu dileu. Yn lle hynny, bydd Camau Cynnydd a fydd yn cyfateb yn fras â’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon ddeall datblygiad pob dysgwr, gan ystyried ei allu, ei brofiadau, ei ddealltwriaeth a pha mor gyflym y mae’n dysgu.