Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC) yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewis Sant, Prifysgol Bangor ac ysgolion Arloesi Dysgu Proffesiynol.
Mae’r ysgolion yn ymgymryd ag ymholiad proffesiynol, gyda chefnogaeth Sefydliad Addysg Uwch partner (SAU). Mae ardal ar Hwb wedi’i sefydlu ar gyfer PYPC, lle mae ymholiadau ysgolion wedi eu trefnu yn ôl thema’r ymholiad.
Mae’r ysgolion dan sylw yn edrych ar hyn o bryd ar oblygiadau proffesiynol y cwricwlwm newydd, gyda chefnogaeth partner Sefydliad Addysg Uwch. Mae ardal wedi cael ei sefydlu ar Hwb ar gyfer y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol, lle caiff ymholiadau ysgolion eu trefnu yn ôl thema. Bydd hyn yn galluogi’r rhwydwaith ysgolion ehangach i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymholiadau sy’n mynd rhagddynt, ac fe fydd hefyd yn annog a chefnogi’r holl ymarferwyr i ddatblygu fel ymholwyr proffesiynol.
Caiff gynnydd gydag ymholiadau ysgolion ei gipio’n achlysurol a chaiff adrannau perthnasol y wefan eu diweddaru wrth i’r ymholiad fynd yn ei flaen.
Ar hyn o bryd mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth gefndir ysgolion a theitlau ymholiadau, wedi’u trefnu o dan y themâu canlynol:
- Asesu a chynnydd
- Cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm
- Cyfnod sylfaen
- Addysgeg: dysgu disgyblion
- Addysgeg: addysgu
- Ymholiad proffesiynol
- Dysgu proffesiynol a hyfforddi
Bydd gwybodaeth fanylach ar ymholiadau ysgolion, gan gynnwys dyluniad yr ymholiadau, adolygiad llenyddiaeth, ystyriaethau moesegol, canfyddiadau, cyfyngau ac argymhellion yn cael ei chwblhau a’i chyhoeddi ar safle PYPC yn ystod y diweddariad nesaf, ym mis Chwefror 2020. Cyswllt i’r adran PYPC ar Hwb
Mae ysgolion hefyd yn gweithio ar gyhoeddi adnoddau cysylltiedig sy’n berthnasol i’w pynciau ymholi ar eu gwefannau ysgolion eu hunain a darperir dolenni perthnasol I’r safleoedd hyn ar wefan PYPC.
Mae rhaglen ymholi beilot a lansiwyd yn ddiweddar gan yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol (yr Academi Arweinyddiaeth) yn ategu at y dull NPEP. Cynlluniwyd y peilot hwn i gefnogi arweinwyr ysgolion yng Nghymru i annog defnydd effeithiol o ymchwil ac ymholi yn eu sefydliadau. Bydd y dull cyfun hwn yn cryfhau trosglwyddo i Raglen Ymholiad Proffesiynol Genedlaethol ar gyfer pob ysgol, wrth inni symud tuag at weithredu’r cwricwlwm yn llawn.