Neidio i'r prif gynnwy

Ysgol Dyffryn Conwy – ein taith tuag at y cwricwlwm newydd fel ysgol uwchradd (a chlwstwr!)

Read this page in English

Ysgol Dyffryn Conwy logoRydym yn ysgol ddwyieithog naturiol i blant rhwng 11 a 18 oed sydd wedi’i lleoli yn ardal wledig Dyffryn Conwy. Mae gennym bartneriaeth gref gydag ysgolion cynradd lleol ac rydym wedi cydweithio â nhw tuag at Dyfodol Llwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn ysgol arloesi ond yn gweithio’n helaeth gyda’r rhai nad ydynt yn ysgolion arloesi.

Dechreuodd ein taith drwy baratoi ein cymuned ysgol a’n clwstwr 3-16 o 14 o ysgolion cynradd ar gyfer y Cwricwlwm newydd. Rydym wedi gweithio fel staff ac mewn clwstwr i ddeall gwahanol elfennau’r Cwricwlwm newydd yn well, rhannu’r wybodaeth drwy gyfarfodydd staff, grwpiau arwain a diwrnodau HMS yn yr ysgol ac ar lefel Maes Dysgu a Phrofiad. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag ysgolion Maes Dysgu a Phrofiad eraill a gyda chydweithwyr yn GWE.

Rydym hefyd wedi bod yn datblygu staff drwy wneud defnydd o’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a chynnwys y Cwricwlwm newydd.Yn ystod ein cyfarfod clwstwr HMS y gwanwyn diwethaf, daeth yr holl staff addysgu a’r staff cymorth o’n hysgolion clwstwr a’r staff addysgu a’r staff cymorth uwchradd at ei gilydd yn neuadd ein hysgol. Drwy gydol y diwrnod, gwnaethom ganolbwyntio ar weithgareddau yn ymwneud â’r cwricwlwm newydd: sut yr eir i’r afael â’r 4 Diben drwy’r Meysydd Dysgu a Phrofiad; cwmpas y 6 Maes Dysgu a Phrofiad; a’r Datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ newydd ar gyfer y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Drwy hyn, rydym wedi dechrau defnyddio a deall yr iaith sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd er mwyn myfyrio ar sut y gallwn ddatblygu profiadau dysgwyr yn ein Cwricwlwm sy’n bodoli eisoes, a dechrau gwneud cysylltiadau pwrpasol rhwng pynciau o fewn, ac ar draws, Meysydd Dysgu a Phrofiad. Rydym yn ystyried bod y cyfleoedd cyfoethog i ddysgu gyda’n gilydd yn ein hardal ddaearyddol eang, a manteisio i’r eithaf ar bartneriaethau yn ein cymuned yn allweddol i’r gwaith o gyflwyno Dyfodol Llwyddiannus fel cymuned ddysgu.

Glan Conwy Elan a ffrind

Fel clwstwr, rydym yn datblygu agweddau ar addysgeg yn strategol yn seiliedig ar ein hymchwil a’n gwaith o dreialu i fod yn ysgol arloesi Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Fel rhan o’r gwaith hwn rydym wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf gyda Choleg King’s, Llundain i ddatblygu addysgeg sy’n gysylltiedig â meddwl yn feirniadol, datblygu llafaredd ac ymgysylltu â llenyddiaeth o ansawdd uchel yn y Saesneg. Mae’r prosiect hwn wedi’i dreialu gyda’r holl grwpiau addysgu ar CA3 gydag adborth cadarnhaol gan ddisgyblion a staff. Mae wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu sgiliau darllen dysgwyr, yn enwedig gyda chohort blwyddyn 8, lle gwnaeth 20% o ddysgwyr CA2-3 bontio gyda sgiliau llythrennedd isel yn y ddwy iaith, a grŵp mwy abl yr oedd angen herio eu sgiliau darllen haen uwch yn Saesneg. Mae adborth gan ddisgyblion wedi dangos bod dysgwyr o bob gallu wedi mwynhau sesiynau ‘Let’s Think’, wedi ymgysylltu â thestunau cyfoethog a heriol ac wedi magu hyder yn ei sgiliau llafaredd yn Saesneg.

Rhannodd grŵp o ddysgwyr ym mlwyddyn 9 eu profiadau o ‘Let’s Think’ gyda’n grŵp penaethiaid cynradd ac, o ganlyniad, mae’r prosiect bellach yn cael ei dreialu ym mhob un o’n hysgolion cynradd gan ganolbwyntio’n benodol ar flynyddoedd 5 a 6. Mae arwyddion cynnar gan staff, disgyblion ac arsylwyr allanol wedi pwysleisio’r effaith ar: sgiliau a phrofiadau dysgwyr yn Saesneg; addysgeg ystafell ddosbarth sy’n ymwneud â meddwl yn feirniadol a cwestiynu; addysgu sgiliau llafaredd yn uniongyrchol; a grym llenyddiaeth o ansawdd uchel.

Dyffryn Conwy pupil and Head

Agwedd arall ar ddysgu iaith rydym wedi’i hystyried gyda’n hysgolion cynradd yw’r cysylltiadau rhwng ieithoedd fel llwybr i ieithoedd tramor modern yn yr ysgol gynradd. Rydym wedi defnyddio ein prosiect Dyfodol Byd-eang cynradd er mwyn ystyried sut y mae ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg yn debyg ac yn wahanol, gan gynnal hyfforddiant ar gyfer ein holl ymarferwyr CA2 cynradd, a chafodd tua thri phrofiad dysgu eu treialu gyda blynyddoedd 5 a 6 yn eu hysgolion cynradd cyn eu diwrnodau pontio ym mis Gorffennaf.  Mae’r prosiect bellach yn parhau i feithrin sgiliau, gallu ac adnoddau ar gyfer addysgu gwybodaeth am ieithoedd a chyflwyno ieithoedd, heblaw Cymraeg a Saesneg, o fewn ein hysgolion cynradd dwyieithog.  Mae chwilfrydedd a brwdfrydedd pawb dan sylw wedi bod yn gadarnhaol iawn.  O ganlyniad, mae’r flwyddyn 7 newydd wedi dechrau gyda mwy o ddiddordeb mewn dysgu am ieithoedd gwahanol.  Mae eu sesiynau diweddar wedi’u cefnogi gan yr adran Ieithoedd Tramor Modern a’n Pencampwr Ieithoedd o’r chweched dosbarth ar Ddiwrnod Ieithoedd Ewropeaidd hefyd wedi arwain disgyblion at ddysgu am ieithoedd newydd megis Pwyleg ac Almaeneg.

Fel ysgol uwchradd rydym hefyd wedi buddsoddi mewn datblygu rôl Pencampwyr Maes Dysgu a Phrofiad er mwyn hyrwyddo’r model dysgu proffesiynol sy’n cael ei ddatblygu o fewn y model Aroleswyr Cwricwlwm ar draws y meysydd dysgu a phrofiad. Yn ystod 2017/18, cafodd tri pencampwr eu penodi i arwain y gwaith o ddysgu proffesiynol ac ymholi i Feysydd Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant, y Dyniaethau a Gwyddoniaeth Thechnoleg. Gwnaethom adeiladu ar y profiad o’n gwaith arloesi ym maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lle mae darllen ac ymchwil broffesiynol wedi bod yn allweddol.  Felly yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae pob un o’n arloeswyr ysgol wedi ymchwilio i waith yr arloeswyr cwricwlwm sy’n mynd rhagddo, wedi myfyrio arno, wedi ymweld ag ysgolion arloesi cwricwlwm, er mwyn ystyried gwaith newydd y Meysydd Dysgu a Phrofiad a’u darllen proffesiynol eu hunain yn eu maes.  Ar ddiwedd tymor yr Haf, gwnaethant rannu prif bwyntiau eu dysgu proffesiynol gyda chydweithwyr, gan arwain trafodaeth ar y cysylltiadau a’r dulliau gweithredu y gellid eu datblygu o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad a dechrau gwneud cysylltiadau gwerthfawr rhwng ein pynciau presennol.  Gwnaethant hefyd roi adborth ar ystyriaethau allweddol ar gyfer eu Meysydd Dysgu a Phrofiad ac ysgol gyfan wrth i ni symud tuag at Gwricwlwm i Gymru.

Rydym bellach wedi penodi ein harweinydd Maes Dysgu a Phrofiad parhaol cyntaf, sy’n arwain tîm Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn yr ysgol.   Rydym yn gobeithio treialu ffyrdd gwahanol o weithio, cynllunio, cydweithio a dysgu ar lefel Maes Dysgu a Phrofiad o hyn, ynghyd â pharhau â chydweithio ffurfiol ac anffurfiol ynghylch addysgeg yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.

Dolgarrog school re-sized

Un ffordd arall rydym wedi bod yn datblygu parodrwydd proffesiynol ar gyfer model newydd y cwricwlwm yw drwy ddysgu o’n profiadau fel Ysgol Greadigol Arweiniol. Yn ystod 2017/18 gwnaethom ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau creadigol a digidol o fewn y Dyniaethau. Rhoddodd hyn y cyfle delfrydol i ganolbwyntio ar ffyrdd creadigol ac arloesol o ystyried dysgu digidol yn y Dyniaethau.  Roedd gweithio gydag asiantau creadigol a defnyddio ein hardal leol, hanes a chredoau ynghylch trychineb cronfa ddŵr Dolgarrog wedi dod ag agweddau ar hanes, daearyddiaeth a chrefydd leol yn fyw i ddysgwyr.  Gwnaethant ddysgu’n greadigol drwy arweiniad ymarferwyr creadigol a’u hathrawon dyniaethau. Cafodd yr athrawon dyniaethau a oedd yn rhan o’r prosiect eu herio i ystyried ffyrdd newydd o ddysgu, o ran addysgeg a phrofiad. Gwnaethant symud eu lleoliad ystafell ddosbarth traddodiadol i’n hardal leol a hefyd defnyddio neuadd yr ysgol ac ardaloedd eraill i gyflwyno ymchwil, gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr o’r trychineb drwy ‘bromenâd’.  Arweiniodd hyn at ystyried ffyrdd newydd o ddysgu o ran paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Y Camau Nesaf:

Ar ôl datblygu dealltwriaeth o gonglfeini ac iaith y cwricwlwm newydd a’n gallu o fewn yr ysgol i ystyried y 6 Maes Dysgu a Phrofiad, rydym bellach yn ystyried y canlynol:

  • Sut gallwn ddefnyddio ein hardal leol a’n partneriaid cymunedol yn well er mwyn datblygu profiadau o fewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad;
  • Nodi cysylltiadau naturiol a chyfleoedd rhwng pynciau ym mhob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad a ffyrdd y gallwn ddatblygu’r cysylltiadau hyn;
  • Sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer pob aelod o staff sy’n ein helpu i ystyried a datblygu’r addysgeg sydd ei hangen er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ac mewn ymateb i’r safonau proffesiynol newydd;
  • Sut y gallwn barhau i feithrin cydberthnasau a chynllunio yn y dyfodol gyda’n cydweithwyr ysgolion cynradd clwstwr wrth i ni weithio tuag at 2022, gan adeiladu ar y prosiectau ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Elan Davies, Pennaeth, Ysgol Dyffryn Conwy.

%MCEPASTEBIN%%MCEPASTEBIN%

Gadael ymateb